Arwain, datblygu a gweithredu strategaeth glir ar gyfer gwasanaethau portffolio drwy strategaethau a chynlluniau gweithredol i gyflawni perfformiad lefel uchel a rhagoriaeth.
Sicrhau bod yr ystod ganlynol o wasanaethau yn cael eu darparu mewn modd cydlynol a chydweithredol, ac yn unol â’r polisïau, safonau a’r ddeddfwriaeth y cytunwyd arnynt:
- Adfywio, datblygu economaidd a thwf
- Datblygu Busnes (Menter)
- Cynllunio Mwynau a Gwastraff (Gwasanaeth Rhanbarthol)
- Strategaeth yr Amgylchedd a Chynllunio
- Cefn Gwlad a’r Amgylchedd
- Rheoli Datblygu
- Datblygu Gwasanaeth a Chefnogaeth
- Gwarchod a Rheoli’r Amgylchedd
- Gwarchod y Gymuned a Busnes
- Gwarchod Iechyd
- Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
- Man Agored Cyhoeddus
- Risg a Rheoli Llifogydd
- Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon
- Cefnogaeth Rheoli a Pherfformiad (GIS, Gwasanaethau Gwybodaeth Electronig a Chefnogaeth Cyfarwyddiaeth)
Arwain ar strategaeth gynhwysfawr a chydlynol o dwf economaidd ac adfywio, gan gymell agenda adfywio economaidd arloesol ac uchelgeisiol sy’n creu cyfoeth a sefydlogrwydd economaidd, yn cynyddu cyfleoedd cyflogaeth a datblygu lleoliad gweithgynhyrchu uwch cryf ac sy’n darparu buddion amgylcheddol a chymdeithasol i gymunedau a busnesau.
Cymell diddordeb a hyder busnesau i ysgogi a denu diddordeb y farchnad drwy hyrwyddo a chyflwyno Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint gyda mentrau traws ffiniol a rhanbarthol ehangach drwy’r Cyd-bwyllgor Corfforedig neu Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.
Gweithio’n agos gyda busnesau lleol, partneriaid a mentrau i arwain ymagwedd gydlynol ar gyfer buddsoddi economaidd, drwy gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau (buddsoddi, contractio, canolfannau busnes) a mentrau ledled y Sir a byrddau a chyrff rhanbarthol.
Arwain ar ymateb ac ymrwymiad y Cyngor i fod yn Gyngor carbon niwtral erbyn 2030.
Datblygu a darparu ystod eang o swyddogaethau cynllunio arloesol ac ymatebol, gan gynnwys datblygu strategaethau ar gyfer defnydd hir dymor o dir, datblygu a gwarchod amgylcheddol a chefn gwlad effeithiol.
Goruchwylio perchnogaeth ranbarthol a darpariaeth cynllunio mwynau a gwastraff, er mwyn darparu lefelau gwasanaeth a gytunir ac i gefnogi’r economi ranbarthol ehangach. Datblygu datrysiadau cynllunio rhanbarthol ehangach ar ystod eang o fentrau sy’n gysylltiedig â mentrau ynni gwyrdd, hydrogen a dal a storio carbon.
Arwain ar ddarpariaeth gwasanaethau rheoli datblygu a rheoli adeiladu, gan sicrhau bod pob prif ganiatâd cynllunio’n cael eu rheoli’n broffesiynol i gefnogi datblygu economaidd ehangach.
Arwain ar ddatblygiad gallu y Cyngor i warchod cymunedau a busnesau; gan sicrhau bod goblygiadau statudol, cyfreithiol ac arferion gorau o safbwynt gwarchod iechyd, y cyhoedd a’r gymuned yn cael eu diwallu gan gynnal ffocws clir ar welliant parhaus ar draws cydymffurfiaeth reoleiddiol a gwella iechyd.
Arwain, rheoli a chreu gofodau cyhoeddus bywiog sy’n ceisio hyrwyddo cynhwysiant a gwella ansawdd bywyd yr holl breswylwyr.
Datblygu, arwain ac archwilio effeithlonrwydd gwasanaethau, ystyried modelau darparu amgen a chyflwyno gwelliannau gwasanaeth fesul cam.
Gweithio gyda budd-ddeiliaid amrywiol, gan gynnwys preswylwyr, busnesau, grwpiau cymunedol, sefydliadau’r trydydd sector i sicrhau bod strategaethau a chynlluniau’n alinio ag anghenion cymunedol a bod blaenoriaethau’n diwallu pryderon diogelwch a cheisio gwella ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol.
Sicrhau rheolaeth ariannol ac asesu risg effeithiol ar draws y gwasanaethau, gan sicrhau bod blaenoriaethau a gytunwyd yn cael eu diwallu; sicrhau y darperir gwasanaethau’n effeithiol ac effeithlon gyda’r lefelau perfformiad gorau posib.
Arwain ar agweddau o ddatblygiad a chymorth gwasanaeth, ynghyd â thimau cymorth technegol (e.e. GIS) er mwyn cefnogi gwelliant parhaus o ran effeithlonrwydd y gwasanaeth ac effeithiolrwydd proffesiynol.
Mesuryddion Perfformiad: Dangosyddion perfformiad allweddol o Gynllun y Cyngor; Dangosyddion Perfformiad Allweddol o Gynlluniau Gwasanaeth; Adborth gan fudd-ddeiliaid; canlyniadau arolygon ac archwiliadau; Dangosyddion Cenedlaethol perthnasol; Perfformiad yn erbyn safonau amgylcheddol lleol a rhanbarthol a strategaethau a gytunwyd; meincnodau technegol a phroffesiynol perthnasol.