Cyflog
£96.665 to £108,642 (graddfa gynyddol 4 pwynt)
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig cyflog ar y pwynt agosaf i’w gyflog presennol, gyda chynnydd drwy’r raddfa gyflogau yn dibynnu ar berfformiad yn erbyn cylch gwaith, amcanion perfformiad a chymhwysedd ymddygiadol.
Amodau Gwasanaeth
Yr amodau gwasanaeth yw'r rheiny a bennwyd gan y Cydbwyllgor Trafod ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol, yn amodol ar addasiadau a chytundebau lleol wedi’u gwneud gan Gyngor Sir y Fflint.
Gwyliau Blynyddol
30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus (sy’n 8 diwrnod y flwyddyn ar hyn o bryd).
Bydd yr hawl i wyliau blynyddol yn codi i 33 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Cynllun Pensiwn
Byddwch yn cofrestru’n awtomatig â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun yn: https://clwydpensionfund.org.uk
Oriau Gwaith
Yr oriau gwaith enwol yw 37 awr yr wythnos. Mae statws y swydd hon yn gofyn i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg iawn o ran ymgymryd â'i ddyletswyddau o ystyried y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth y swydd.
Felly bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gorfod mynd i gyfarfodydd ac ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ymwneud â busnes y Cyngor y tu allan i oriau arferol y swyddfa.
Cyfnod Rhybudd
Mae’r penodiad yn amodol ar gyfnod rhybudd o dri gan bawb.
Cyfyngiadau Gwleidyddol
Bydd cyfyngiadau gwleidyddol yn berthnasol i ddeiliad y swydd, a geir o fewn darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol a Tai 1989.
Treuliau Adleoli
Dan achosion priodol mae lwfans adleoli yn daladwy, hyd at £8,000 (yn unol â darpariaethau CThEM)
Teithio a Threuliau
Bydd y Cyngor yn talu’r holl dreuliau teithio a chynhaliaeth rhesymol ar ôl derbyn derbynebau ac yn unol ag amodau’r Cydbwyllgor Trafod ac amodau lleol eraill.
Gostyngiadau a Chynigion
Mynediad at gynigion stryd fawr a lleol ar-lein, talebau anrheg gostyngol, cynlluniau arian yn ôl a gostyngiadau mewn siopau.
Mae hyn yn cynnwys siopau’r stryd fawr, sinemâu a bwytai, yn ogystal â gostyngiadau oddi ar foduro, yswiriant, gwestai a gwyliau.
Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Rhaglen Cymorth i Weithwyr rad ac am ddim gan ddarparwr annibynnol. Mae’r cymorth ar gael dros y ffôn ac ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae’r Rhaglen wedi’i chynllunio i'ch helpu chi gydag amrywiaeth o faterion gwaith, teuluol a phersonol. O gydbwyso bywyd a gwaith a gwybodaeth am ofal plant, i berthnasoedd, materion yn y gweithlu ac iechyd a lles.
Cynlluniau Aberthu Cyflog
Cynllun aberthu cyflog beicio i’r gwaith, sydd wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth ac sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.