Fe fydd yr holl gyflogeion yn cael eu cofrestru dan gontract i gynllun pensiwn ar ddiwrnod 1 neu pan ddônt yn gymwys, cyn belled â bod yna gytundeb cyflogaeth sydd am o leiaf 3 mis.
Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn rhan werthfawr o becyn tâl a gwobrwyo gweithwyr Cyngor Sir y Fflint.
Pensiwn diogel
Mae eich pensiwn yn cael ei gyfrifo bob blwyddyn a’i ychwanegu i'ch cyfrif pensiwn. Bob blwyddyn rhoddir 1/49 o’ch cyflog pensiynadwy yn eich cyfrif pensiwn; ar ddiwedd y flwyddyn mae cyfanswm y pensiwn yn eich cyfrif yn cael ei addasu i gymryd ystyriaeth o gost byw.
Hyblygrwydd i dalu mwy neu hanner cyfraniadau
Gallwch chwyddo eich pensiwn trwy dalu mwy o gyfraniadau, a byddech yn cael gostyngiad yn y dreth ar ei gyfer. Mae gennych y dewis hefyd yng Nghynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i dalu hanner eich cyfraniadau arferol yn gyfnewid am hanner eich pensiwn arferol. Gelwir hyn yn adran 50/50 a’i fwriad yw helpu aelodau i aros yn y cynllun pan fônt yn wynebu anawsterau ariannol.
Effeithlonrwydd treth nawr ac yn y dyfodol
Fel aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rydych yn cael gostyngiad yn y dreth ar y cyfraniadau a dalwch, ac mae gennych y dewis pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn i gyfnewid rhan ohono am arian di-dreth.
Tawelwch meddwl
Mae eich teulu yn mwyhau sicrwydd ariannol, gydag yswiriant bywyd a phensiwn yn syth i’ch priod, partner sifil neu bartner cymwys sy’n cyd-fyw â chi a phlant cymwys pe baech chi’n marw tra mewn swydd. Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn marw ar ôl gadael os ydych wedi cyrraedd y cyfnod cymwys o 2 flynedd, a elwir hefyd yn gyfnod breinio. Os ydych yn mynd yn ddifrifol sâl ac wedi bodloni’r cyfnod cymhwyso 2 flynedd, mae'n bosib y byddwch yn cael budd-daliadau salwch yn syth.
Rhyddid i ddewis pryd i gymryd eich pensiwn
Fel arfer mae eich pensiwn yn daladwy i chi o’ch oedran pensiwn arferol sy’n gysylltiedig â'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth (gydag isafswm o 65). Gallwch ddewis ymddeol a chymryd eich pensiwn unrhyw bryd rhwng 55 a 75 oed. Os ydych yn dewis cymryd eich pensiwn cyn eich oedran pensiwn arferol bydd yn ostyngedig fel arfer, gan ei fod yn cael ei dalu ynghynt. Os ydych yn ei gymryd ar ôl eich oedran pensiwn arferol bydd yn cynyddu gan ei fod yn cael ei dalu'n hwyrach.