Alert Section

Learning and Development New


Cyfleoedd i hyfforddi

Mae’r tîm Dysgu a Datblygu yn Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria a sefydliadau eraill sy’n darparu hyfforddiant, i hybu datblygiad personol a phroffesiynol ein staff. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, o sesiynau gloywi sy’n para diwrnod yn unig, i gymwysterau rheoli cydnabyddedig dros gyfnod.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth a Rheoli, sydd wedi’u hariannu’n llawn, a byddant yn arwain at gymwysterau cenedlaethol cydnabyddedig. Rydym yn cynnig cymwysterau ar wahanol lefelau, gan ddibynnu ar y rôl a’r anghenion datblygu.
Rydym yn cynnig cymwysterau NVQ, o lefel 1 i 5 yn y Fframwaith Cenedlaethol, pan gaiff gweithwyr eu hasesu yn y gweithle drwy eu gwylio’n perfformio, eu holi a gwerthuso tystiolaeth. Rydym yn cynnig rhaglenni gwasanaethau cwsmeriaid amrywiol sy’n arwain at gymwysterau cydnabyddedig a rhaglenni hyfforddiant, cyrsiau Cymraeg at ddibenion gwaith a busnes ac at ddibenion personol, cymorth cyntaf a chodi a chario i sicrhau bod gofynion iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni.

Rydym hefyd yn cynnig gweithdai undydd i wella sgiliau’n staff gan gynnwys eu sgiliau cyflwyno, rheoli amser, llwyddo mewn cyfweliadau ac ati. 

Y broses arfarnu

Mae proses Arfarnu Staff yn rhan o system rheoli perfformiad cyffredinol Cyngor Sir y Fflint, ac mae cysylltiad rhwng y broses hon a chymwyseddau ymddygiadol Sir y Fflint. Mae hyn yn cynnig fframwaith i sicrhau bod cyfleodd ar gael i’r holl staff gael hyfforddiant a datblygiad effeithiol sy’n diwallu eu hanghenion personol ac anghenion y Cyngor.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn credu bod y broses arfarnu yn gyfle i ddatblygu a dyma’i phrif amcanion: 

  • Adolygu perfformiad
  • Nodi cryfderau a meysydd i’w gwella neu i’w datblygu/hyfforddiant 
  • Nodi anghenion datblygu/hyfforddi a chymryd y camau priodol 
  • Paratoi Cynlluniau Datblygu Personol 
  • Trafod a  gosod amcanion at y dyfodol 
  • Galluogi staff i weld cysylltiad clir rhwng eu hamcanion perfformiad ac amcanion y Cyngor