Alert Section

Gweithio yn y Gymraeg


Rydym wrth ein bodd yn clywed ein gweithwyr yn siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Boed yn ddim ond ambell air yma ac acw fel ‘Bore Da’ neu ‘Diolch’, yn gyfuniad o’r Gymraeg a Saesneg neu gynnal sgwrs lawn yn y Gymraeg. 

A ninnau’n Gyngor Cymraeg, mae’n bwysig bod ein cwsmeriaid yn gallu defnyddio’r gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig yn eu dewis iaith, boed hynny’n Gymraeg neu Saesneg. Golyga hyn bod y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rhai o’r swyddi rydym ni’n eu hysbysebu. Mae hynny’n golygu gallu cynnal sgwrs yn Gymraeg i lefel benodol.   Nid yw’r un lefel o sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer pob swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, ac fe nodir y lefel o Gymraeg sydd ei hangen bob amser yn y Manylion am yr Unigolyn, ynghyd â disgrifiad o’r tasgau y bydd disgwyl i ddeiliad y swydd eu cyflawni yn Gymraeg.  

Ddim yn siarad Cymraeg? 

Gallwch dal wneud cais am swyddi gyda ni – nid yw’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob un o’n swyddi. 

Mae ychydig o Gymraeg yn mynd ymhell. Gall ynganu enwau pobl ac enwau llefydd yn gywir, a defnyddio rhywfaint o eiriau neu frawddegau syml, wneud gwahaniaeth mawr i’n cwsmeriaid. Mae gennym lawer o adnoddau i gefnogi ein cydweithwyr sy’n dymuno rhoi cynnig arni a dysgu rhywfaint o Gymraeg.  

Swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol 

Fel arfer, mae swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol yn golygu cynnal sgwrs yn Gymraeg o ddydd i ddydd gyda’n cwsmeriaid neu Gymraeg ar lefel cwrteisi – gallu ynganu enwau personol ac enwau llefydd yn gywir yn Gymraeg a defnyddio cyfarchion syml. Bydd y Manylion am yr Unigolyn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynghylch lefel y sgiliau Cymraeg sy’n ofynnol ar gyfer pob swydd.  

Ychydig iawn o swyddi yn y Cyngor sy’n gofyn i weithwyr ysgrifennu Cymraeg ffurfiol – rydym yn defnyddio gwasanaeth cyfieithu proffesiynol i helpu gyda Chymraeg ysgrifenedig a phrawf-ddarllen dogfennau. Mae gwiriwr sillafu a gwiriwr gramadeg Cymraeg - Cysgliad - hefyd ar gael i weithwyr sy’n dymuno ysgrifennu yn Gymraeg.   

Wedi colli eich hyder yn defnyddio’r Gymraeg? 

Os nad ydych chi wedi defnyddio’ch Cymraeg ers tro a’ch bod wedi colli’ch hyder, peidiwch â gadael i hynny eich atal. Rydym yn darparu llawer o hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd rhad ac am ddim, yn ystod oriau gwaith, fel bod modd i weithwyr ailafael yn eu Cymraeg a magu hyder. Rhowch wybod i ni os oes angen cefnogaeth arnoch. 

Gwneud cais am swyddi yn Gymraeg 

P’un a yw’r Gymraeg yn hanfodol ai peidio ar gyfer swydd, gallwch gyflwyno eich ffurflen gais, gofyn am gyfweliad a chyfathrebu gyda ni drwy gydol y broses recriwtio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os cewch eich penodi, gallwch hefyd dderbyn eich dogfennau contract cyflogaeth a’ch slipiau cyflog yn Gymraeg.