Mae’r Cyngor wedi llunio dogfen ‘Opsiynau Strategol’ a fydd yn destun ymarfer ymgynghori a fydd yn dechrau ddydd Gwener 28 Hydref 2016 ac yn dod i ben ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2016.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn dilyn ymlaen o’r ymgynghoriad diweddar ar ddogfen Negeseuon Allweddol, ac mae’n cael ei llywio ganddi. Roedd ymgynghoriad dogfen Negeseuon Allweddol yn fodd i’r Cyngor gadarnhau’r weledigaeth ar gyfer y Cynllun, y materion y mae’r Cynllun yn eu hwynebu, amcanion ar gyfer y Cynllun, hierarchaeth aneddiadau a ffafrir a'r negeseuon allweddol sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r ddogfen Opsiynau Strategol yn ystyried Opsiynau Twf ar gyfer y Cynllun (faint o dwf i'w ddarparu) ac Opsiynau Gofodol (sut mae twf yn cael ei ddosbarthu ar draws y Sir). Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn helpu'r Cyngor i lunio 'Strategaeth a Ffefrir' ar gyfer y Cynllun, a fydd ynddo'i hun yn destun ymgynghoriad pellach ar ffurf Cynllun ymgynghori drafft cyn adneuo.
Mae'r ddogfennaeth yn cynnwys:
Bydd y dogfennau ar gael ar y wefan www.flintshire.gov.uk/LDP ac fel copïau caled yn Swyddfeydd a llyfrgelloedd y Cyngor yn ystod oriau agor arferol. Bydd arddangosfa yn Neuadd y Sir drwy gydol y cyfnod ymgynghori ac yn y lleoliadau canlynol, yn ystod oriau agor arferol:
Neuadd y Sir, Y Brif Dderbynfa – rhwng 28/10/16 a 09/12/16
Llyfrgell Bwcle, yr Oriel i fyny’r Grisiau – rhwng 28/10/16 a 18/11/16
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy – rhwng 28/10/16 a 18/11/16
Llyfrgell Treffynnon – rhwng 28/10/16 a 18/11/16
Llyfrgell Brychdyn – rhwng 18/11/16 a 09/12/16
Llyfrgell y Fflint – rhwng 18/11/16 a 09/12/16
Llyfrgell yr Wyddgrug – rhwng 18/11/16 a 09/12/16
Mae hwn yn gam pwysig wrth baratoi'r Cynllun, ac yn rhan o'n ymgysylltiad parhaus ac ymgynghoriad ar y Cynllun, rydym am glywed eich barn am y lefel o dwf sydd yn briodol ar gyfer y Sir yn eich barn chi, a sut y dylai’r twf gael ei ddosbarthu ar draws y Sir. Gallwch gyflwyno sylwadau:
• Drwy anfon e-bost i developmentplans@flintshire.gov.uk
• Drwy lawrlwytho neu argraffu'r ffurflen sylwadau a'i dychwelyd
• Drwy ysgrifennu llythyr
Bydd sylwadau sy'n codi o'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i Grŵp Strategaeth Cynllunio'r Cyngor a bydd yn llywio’r gwaith o baratoi Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun. Bydd crynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y digwyddiad ymgynghori ac ymatebion iddynt ar gael ar y wefan maes o law.
Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau at linell gymorth y CDLl, 01352 703213, neu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost uchod.