Alert Section

Cyfyngiadau cyflymder 20mya Bwcle - sesiynau gwybodaeth


Tudalen wedi ei diweddaru ddiwethaf: 10/02/2023

Hoffai Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd ynglyn â’r terfynau cyflymder 20mya ym Mwcle, a gynhaliwyd rhwng 25 Ionawr a 9 Chwefror 2023. 

Mae deuddeg mis wedi mynd heibio bellach ers cyflwyno’r terfynau 20mya ym Mwcle Mynydd Isa, New Brighton, Drury, Burntwood, Bryn y Baal ac Alltami fel rhan o dreialon Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth newydd a ddaw i rym yng Nghymru ar 17 Medi 2023.  

Roedd cyfle i 475 o bobl gymryd rhan mewn 15 o sesiynau, a bu 127 o bobl yn bresennol i gyd. Ymhob sesiwn cafodd pobl leol wybodaeth am ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer terfynau 20mya a sut y dylid cymhwyso’r ddeddfwriaeth i’r ffyrdd lleol, ac fe’u gwahoddwyd i sôn am eu profiadau o’r drefn newydd ym Mwcle.  

Anfonwyd llythyr i 9,426 o aelwydydd yn y parthau 20mya tua diwedd y llynedd yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Cafwyd 2,712 o ymatebion.  Bydd yr hyn a fynegwyd yn y sesiynau gwybodaeth yn cael ei ychwanegu i ganlyniadau’r arolwg ar-lein a bydd yn hwyluso adolygiad y Cyngor o ffyrdd lleol.  Bydd y Cyngor yn dal ati i asesu ffyrdd lleol (os oes angen) yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer eithriadau.  Rhennir y sylwadau o’r sesiynau gwybodaeth a chanlyniadau’r arolwg â Llywodraeth Cymru hefyd i gynorthwyo â chyflwyno’r terfyn 20my yn genedlaethol.    

Cyhoeddir canlyniadau’r arolwg a’r adolygiad ar wefan y Cyngor ac yng Nghanolfan Bwcle yn Cysylltu cyn diwedd mis Mawrth 2023.


Cyflwynir Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, yn 2023.    Golyga hyn y bydd terfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn cael eu gostwng o 30mya i 20mya o fis Medi. 

Cyn y cyfnod o gyflwyno deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, cafodd wyth cymuned eu dewis ar gyfer cam cyntaf y rhaglen genedlaethol, gyda therfynau cyflymder yn cael eu cyflwyno rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Mai 2022. Mae bron i 12 mis bellach ers eu cyflwyno ym Mwcle a’r cyffiniau.   

Ymwybodol o bryderon a godwyd yn lleol, trafodaethau rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru wedi bod yn digwydd am rai misoedd ac mae’r Cyngor wedi bod yn casglu barn trigolion lleol i helpu gydag adolygiad a deall unrhyw bryderon am ffyrdd penodol. 

Mae’r Cyngor wedi cytuno ar ystod o fesurau gyda Llywodraeth Cymru.

  • Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r cynllun a’r meini prawf eithriadau ar gyfer y prif ffyrdd prifwythiennol.
  • Arolwg adborth ar-lein ar gyfer pob aelwyd o fewn y terfynau cyflymder 20mya.
  • Ymgyrch ymgysylltu ac addysg gan yr heddlu.
  • Cynnal sesiynau gwybodaeth wyneb yn wyneb ar gyfer y gymuned leol.

Cynhaliwyd arolwg i aelwydydd ar-lein. Derbyniodd 9,426 eiddo, sydd wedi’u lleoli o fewn ardaloedd y terfynau cyflymder 20mya, lythyr i gymryd rhan a chafwyd 2,712 ymateb. 

Yn ogystal â’r arolwg ar-lein, mae nifer o sesiynau gwybodaeth wedi’u trefnu bellach ar gyfer cymunedau yn ardal leol Bwcle, i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru a sut mae angen ei gyflwyno i ffyrdd lleol.   Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i drigolion lleol ddarparu adbort. 

Bydd Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol yn y sesiynau ac fe’u cynhelir trwy gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein. 

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r sesiynau, bydd rhaid i breswylwyr gadw eu lle ymlaen llaw. Mae dolen isod ar gyfer cadw lle ar gyfer pob dyddiad ac amser.

Gall trigolion sydd angen cymorth gydag archebu lle, ymweld â Chanolfan Gyswllt y Cyngor yn llyfrgell Bwcle. 

Bydd adborth a geir trwy’r sesiynau gwybodaeth yn cael ei ychwanegu i’r adborth a gafwyd trwy’r arolwg ar-lein a bydd yn helpu wrth gynnal adolygiad o ffyrdd lleol gan y Cyngor. Darperir yr adolygiad i Lywodraeth Cymru i gefnogi cyflwyniad cenedlaethol 20mya.  Cyhoeddir y canlyniadau ar wefan y Cyngor hefyd, cyn diwedd mis Mawrth 2023. 


Dydd Mercher, 25 Ionawr 2023 – AR-LEIN dros Zoom

Agored i bobl sy’n byw yn Ward Pentrobin a Ward Argoed a New Brighton 

Pedair sesiwn o awr, gydag uchafswm o 25 o bobl yn bresennol ym mhob sesiwn

2pm - 3pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

3.20pm - 4.20pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

4.40pm - 5.40pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

6pm - 7pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau


Dydd Mercher, 1 Chwefror 2023  - Gwesty Parc Beaufort

Sesiwn agored ar gyfer pobl sy’n byw yn unrhyw un o’r chwe ward lle mae cyfyngiadau cyflymder o 20mya wedi eu cyflwyno.  

Pedair sesiwn o awr, gydag uchafswm o 25 o bobl yn bresennol ym mhob sesiwn. 

2pm - 3pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Mae’r sesiwn hon bellach yn llawn.  

3.20pm - 4.20pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Mae’r sesiwn hon bellach yn llawn.  

4.40pm - 5.40pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

6pm - 7pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau


Dydd Iau, 2 Chwefror 2023 – AR-LEIN dros Zoom

Agored i bobl sy’n byw yn Ward Bwcle Dwyrain Bistre a Phenarlâg: Ward Ewlo.  

Tair sesiwn o awr, gydag uchafswm o 25 o bobl yn bresennol ym mhob sesiwn

3pm - 4pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

4.20pm - 5.20pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

5.40pm - 6.40pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau


Dydd Mercher, 8 Chwefror 2023 - Canolfan Westwood, Bwcle

Sesiwn agored ar gyfer pobl sy’n byw yn unrhyw un o’r chwe ward lle mae cyfyngiadau cyflymder o 20mya wedi eu cyflwyno.  

Pedair sesiwn o awr, gydag uchafswm o 25 o bobl yn bresennol ym mhob sesiwn.

3pm - 4pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

4.15pm - 5.15pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

5.30pm - 6.30pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau

6.45pm - 7.45pm - Cliciwch yma i gadw eich lle - Cofrestriad ar gau 


Dydd Iau, 9 Chwefror 2023 – AR-LEIN dros Zoom

Agored i bobl sy’n byw yn Ward Bwcle Gorllewin Bistre a Ward Mynydd Bwcle

Pedair sesiwn o awr, gydag uchafswm o 25 o bobl yn bresennol ym mhob sesiwn.

2pm - 3pm - Cliciwch yma i gadw eich lle  - Cofrestriad ar gau

3.20pm - 4.20pm - Cliciwch yma i gadw eich lle  - Cofrestriad ar gau

4.40pm - 5.40pm - Cliciwch yma i gadw eich lle  - Cofrestriad ar gau

6pm - 7pm - Cliciwch yma i gadw eich lle  - Cofrestriad ar gau