Alert Section

Cyflwyno ardaloedd 20mya ar draws Bwcle


Yr ydym yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd yn lleol ym Mwcle a’r ymgyrch ar hyn o bryd ar y cyfryngau cymdeithasol.  Bu Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts, yn trafod yn uniongyrchol â Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac yr ydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r cynllun a meini prawf eithriadau ar gyfer ffyrdd prifwythiennol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i hynny. 

Ymgymerir ag astudiaeth i gasglu gwybodaeth ar gyfer mapio ledled Cymru gyfan er mwyn adolygu meini prawf eithriadau ar gyfer ffyrdd 30mya, a bydd hyn yn parhau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.  Adolygir meini prawf yr eithriadau ar ôl mis Mai pan fydd canlyniad archwilio’r astudiaeth ar gael.

Fel awdurdod lleol mae’n rhaid gweithio o fewn y ddeddfwriaeth ar gyfer cyflwyno gorchmynion rheoleiddio traffig (TRO) a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.  Y mae’r canllawiau hynny’n nodi mai’r A549 yn unig ddylai gael ei heithrio o’r terfyn cyflymder 20mya.  Hyd nes y ceir unrhyw adolygiad, bydd y terfyn 20mya mewn grym, ac y mae’n derfyn cyflymder gorfodadwy.  

Ystyrir y farn a fynegwyd ym Mwcle yn rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r farn o’r 7 ardal arall sy’n rhagflaenu yn y cynllun hwn.  

O ganlyniad i’r nifer fawr o e-byst a dderbynnir gan amryfal swyddogion, ni fyddwn yn ymateb i ohebiaeth unigol ar y mater, a hysbysir am unrhyw wybodaeth bellach ar yr adolygiad yn ganolog ac ar y cyd â Llywodraeth Cymru neu drwy’r Cwestiynau Cyffredin ar wefan Sir y Fflint yn y cyfamser.  

Pam bod terfyn cyflymder 20mya wedi’i gyflwyno ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos? 

Nod y terfyn cyflymder 20mya ym Mwcle, New Brighton, Mynydd Isa, Bryn y Baal, Drury, Burntwood ac Alltami yw cefnogi datblygiad cynllun cenedlaethol arfaethedig o derfynau cyflymder 20mya ar hyd a lled Cymru. Gwahoddwyd cynghorau ar draws Cymru i gymryd rhan yn y cynllun terfyn cyflymder 20mya a chafodd Bwcle (a’r ardal gyfagos) ei ddewis fel un o’r 8 cymuned yng Nghymru oherwydd yr amrywiaeth o fathau gwahanol o ffyrdd, yn cynnwys strydoedd preswyl, ffyrdd cyswllt mewn cymunedau, prif lwybrau rhanbarthol a rhai â nodweddion preswyl.   

Roedd gweithgor yn cynnwys y cyngor tref lleol, aelodau etholedig a swyddogion eisoes yn datblygu cynlluniau ar gyfer cynllun teithio llesol yn ardal Bwcle a chafodd gwaith y grŵp hwn ei ymestyn i gynnwys y cynllun 20mya yn dilyn cadarnhad o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Pryd cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y cynllun 20mya arfaethedig? 

Cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol ar-lein ar y cynigion ar gyfer y cynllun 20mya yn ystod mis Mawrth ac Ebrill 2021. Gwahoddwyd aelodau’r cyhoedd i edrych ar luniadau o’r cynllun arfaethedig a rhoi sylwadau’n defnyddio holiadur safonol. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol estynedig rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2021, a chafwyd un gwrthwynebiad ffurfiol. 

Fel sy’n arfer safonol ar gyfer hysbysebu pob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, cafodd y cynigion eu hysbysebu ar wefan Cyngor Sir y Fflint ac ym mhapur newydd y Flintshire Leader.  Cyhoeddwyd diweddariad ar wefan Sir y Fflint yn ystod mis Hydref 2021 hefyd gyda manylion yr ymgynghoriad statudol.  Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau ffurfiol a dderbyniwyd yn ystod y broses, cafodd y Rhybudd o Wneud ei hysbysebu’n ffurfiol yn y Flintshire Leader yn ogystal ag ar wefan y Cyngor.

Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO)? 

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig neu TRO yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu, gwahardd neu reoleiddio’r defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â’r Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd.

Ni all TRO gael ei gynnig dim ond ar gyfer y rhesymau a ganiateir o fewn y ddeddfwriaeth ac mae gofyn iddynt gael eu llofnodi a’u llinellu’n briodol. Mae enghreifftiau nodweddiadol o TRO yn cynnwys:

  • Terfynau cyflymder
  • Cyfyngiadau parcio ar y stryd
  • Terfynau pwysau
  • Strydoedd unffordd a throadau wedi’u gwahardd
  • Gwahardd gyrru

Mae gorchmynion TRO yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr, a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau.

Pa feini prawf sydd wedi’u defnyddio i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos? 

Dan arweiniad newydd Llywodraeth Cymru, mae pob ffordd ddi-ddosbarth 30mya wedi cael ei newid yn awtomatig i 20mya. Bydd y terfyn cyflymder 30mya yn parhau ar ffyrdd dosbarthiad A a B gan gymryd nad ydynt:

  1. O fewn 100m ar droed i unrhyw leoliad addysgol (e.e. addysg gynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch);
  2. O fewn 100 metr ar droed i unrhyw ganolfan gymunedol;
  3. O fewn 100 metr ar droed i unrhyw ysbyty;
  4. Pan mae nifer yr adeiladau preswyl a/neu fanwerthu wrth ochr ffordd yn uwch na’r dwysedd diffiniedig (20 eiddo i bob km cyfatebol).

Pam bod y prif ffyrdd wedi cael eu gostwng i 20mya? 

Mae’r prif ffyrdd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ardal breswyl a phrysur i gerddwyr, er enghraifft yn cynnwys ysgolion, colegau ac ysbytai, ardaloedd siopa prysur ac ati, felly dyna pam bod y terfyn cyflymder wedi’i ostwng i 20mya. Rydym yn cefnogi manteision gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cynnwys:

  • lleihau gwrthdrawiadau;
  • mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau;
  • helpu i wella ein hiechyd a’n lles;
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel; a
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gallwn gyflwyno cyfyngiadau 30mya ar ffyrdd sy’n bodloni’r meini prawf eithriadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn unig. Fodd bynnag, fel rhan o adolygiad aneddiadau cam 1, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dynnu ar wersi o Fwcle a’r saith anheddiad arall i edrych eto ar y dull o eithrio a mireinio’r meini prawf, yn cynnwys ar gyfer prif ffyrdd megis Ffordd Lerpwl, Bwcle.

Fydd y terfyn cyflymder 20mya yn cael ei gyflwyno ar hyd a lled Sir y Fflint a rhannau eraill o Gymru? 

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso’r wybodaeth a gasglwyd drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus, grwpiau ffocws ac ymgysylltu arall â budd-ddeiliaid i lywio’r penderfyniadau polisi.   Yn amodol ar basio’r ddeddfwriaeth yn y Senedd, bydd terfynau cyflymder 20mya yn cael eu cyflwyno ar hyd a lled Cymru.

A yw’r terfyn cyflymder 20mya yn barhaol? 

Mae’r terfynau cyflymder 20mya wedi’u cyflwyno drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r meini prawf eithrio fel y gofynnwyd gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y prif ffyrdd, byddwn yn adolygu’r terfynau cyflymder ar y ffyrdd hynny.

Fydd yr Heddlu yn gorfodi’r terfyn cyflymder 20mya? 

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru  i ddatblygu strategaeth orfodi, sy’n gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bob defnyddiwr yn ein barn ni.  Byddwn yn treialu gorfodi yn ystod y cam cyntaf cyn iddo gael ei gyflwyno’n genedlaethol.

Pa ddata sy’n cael ei gasglu fel rhan o’r cam gyntaf o gyflwyno’r terfyn 20mya? 

Bydd cyflymder traffig a lefelau traffig yn rhan annatod o’r broses werthuso.  Mae monitorau yn cael eu gosod hefyd mewn rhai ardaloedd i fesur a chasglu data am ansawdd aer.

Bydd disgyblion a rhieni hefyd yn cael eu harolygu i benderfynu a yw’r terfyn 20mya wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i’r ffordd maent yn teithio i’r ysgol ac oddi yno ac i’w gweithgareddau cymdeithasol. Bydd y data yn darparu ymchwil defnyddiol, fydd o fudd i awdurdodau lleol eraill ac a fydd o bosibl yn dylanwadu ar benderfyniadau cenedlaethol.

Allai lleihau’r terfyn cyflymder achosi tagfeydd? 

Nid ydym yn credu y bydd terfyn cyflymder 20mya yn cynyddu nifer y cerbydau sydd ar y ffyrdd, felly nid oes rheswm pam y dylai achosi mwy o dagfeydd. Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd cyflymder arafach yn helpu i draffig lifo’n rhwydd.

Sut fydd terfyn cyflymder is yn hyrwyddo cerdded a beicio? 

Mae cyflymder is yn golygu fod pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus i gerdded a beicio ac mae’n fwy diogel i blant gerdded i’r ysgol. Mae pobl hŷn hefyd yn teimlo eu bod yn gallu teithio’n annibynnol ac yn fwy diogel.  Mae corff mawr o dystiolaeth ar draws y byd mai cyflymder traffig yw’r prif reswm pam nad yw pobl yn cerdded neu feicio, neu’n peidio â gadael i’w plant gerdded neu feicio i’r ysgol.

A allai’r terfyn 20mya newydd arwain at fwy o lygredd? 

Ychydig o dystiolaeth sydd yna i awgrymu bod lleihau cyflymder cerbydau i 20mya yn gwneud unrhyw wahaniaeth i lygredd.  Nid yw mor syml â bod mwy o amser yn gyrru yn creu mwy o lygredd.  Mae arddulliau gyrru, cyflymu, brecio, cyflwr y cerbyd, y pellter a deithiwyd a thymheredd yr injan i gyd yn chwarae rhan yn lefel y llygryddion sy’n cael eu cynhyrchu.

Fydd terfyn cyflymder is yn gwella diogelwch mewn gwirionedd? 

Dywed Sefydliad Iechyd y Byd mai’r ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch cerddwyr yw drwy leihau cyflymder cerbydau. Cafodd 50% o’r rhai a anafwyd ar ein ffyrdd yn 2018 eu hanafu ar ffyrdd 30mya.  Dywed y Gymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau fod 45% o gerddwyr yn cael eu lladd wrth gael eu taro gan gar sy’n teithio 30mya neu lai, ond dim ond 5% sy’n cael eu lladd gan gar sy’n teithio 20mya neu lai.

Pam na ellir gosod y terfyn 20mya am gyfnodau penodol (arwyddion terfyn cyflymder wedi’u goleuo yn dangos 20) yn ystod oriau ysgol yn unig? 

Ni fydd hyn yn annog plant i gerdded neu feicio o’u cartrefi. Mae hyn yn amddiffyn plant ger yr ysgol yn unig, ble maent yn fwy diogel oherwydd eu nifer. Mae 80% o anafiadau i blant yn digwydd ar deithiau nad yw’n ymwneud â’r ysgol. Bydd cyflwyno terfyn cyflymder 20mya yn gwneud plant yn fwy diogel o’r eiliad maent yn gadael eu cartrefi.

Os mai diben y terfyn cyflymder 20mya yw cynyddu diogelwch, pam na wnewch chi ddatrys y problemau parcio y tu allan i ysgolion? 

Mae ar Lywodraeth Cymru eisiau rhoi mwy o rym i awdurdodau lleol i atal cerbydau rhag rhwystro troedffyrdd. Gelwir hyn yn barcio ar balmant ac mae’n drosedd. Gallwch roi gwybod i’r Heddlu am barcio ar y palmant drwy ffonio’r rhif pan nad yw’n argyfwng, 101.

Fydd rhoi’r newid hwn ar waith yn cynnwys gwario arian ar dwmpathau cyflymder? 

Nid oes bwriad i gynnwys mesurau gostegu traffig (yn cynnwys twmpathau cyflymder) fel rhan o’r newid i derfynau cyflymder.

Fydd gostwng y cyflymder i 20mya yn difrodi blwch gêr fy nghar? 

Gellir gyrru’r rhan fwyaf o geir modern ar gyflymder o 20mya heb achosi difrod i’r injan na chydrannau. Mae terfynau cyflymder 20mya wedi cael eu defnyddio ers yr 1990au cynnar ac ni chafwyd unrhyw adroddiadau o ddifrodi blychau gêr.    Gall gyrru mewn gêr rhy isel ar unrhyw gyflymder wisgo mwy ar y blychau gêr.   Bydd defnyddio’r gêr cywir a gyrru ar gyflymder cyson yn helpu i ymestyn oes yr injan a’r blwch gêr.

Fydd amserlenni bysiau yn cael eu diweddaru i ystyried y terfyn cyflymder newydd? 

Rydym yn monitro’r sefyllfa gyda’r cwmnïau bysiau ac maent yn ymwybodol o’r cyfyngiad newydd o 20mya ar gyflymder.

19. Pam fod border du ar rai arwyddion, a beth mae’n ei olygu? 

Arwyddion cynghori yw’r rhain ac maent wedi’u gosod o amgylch ysgolion fel arfer. Bydd y rhain yn cael eu tynnu wedi i’r terfyn cyflymder 20mya gorfodol ddod i rym.

Faint mae hi wedi'i gostio i osod pyst, arwyddion a marciau ffordd ym Mwcle hyd yma? 

Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei wario fel a ganlyn ym Mwcle:

  • Arwyddion Terfynol = £8,047.20
  • Arwyddion Ailadrodd = £8,248.00
  • Pyst 76mm = £5,152.00
  • Pyst W/B 89mm = £5,880.00.

Ai ymateb ‘torri a gludo’ ydyw, heb ateb cwestiynau unigol? 

Yn anffodus, ni allwn ymateb i bob darn o ohebiaeth oherwydd yr amser fyddai’n ei gymryd i ateb ymholiadau unigol gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd gennym yng Nghyngor Sir y Fflint. Ond gallwn eich sicrhau bod pob darn o ohebiaeth yn cael ei ddarllen a’i adolygu a byddwn yn  cadarnhau eu derbyn. Mae’r tîm yn casglu’r themâu allweddol ac yn ymateb iddynt yn y Cwestiynau Cyffredin sy’n cael eu diweddaru’n aml ar wefan Cyngor Sir y Fflint.

Nid yw cyflymder arafach yn golygu llai o lygredd 

Nid yw mor syml â bod mwy o amser yn gyrru yn creu mwy o lygredd.  Mae arddulliau gyrru, cyflymu, brecio, cyflwr y cerbyd, y pellter a deithiwyd a thymheredd yr injan i gyd yn chwarae rhan yn lefel y llygryddion sy’n cael eu cynhyrchu.  

Mae cyflymder is yn golygu fod pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus i gerdded a beicio ac mae’n fwy diogel i blant gerdded i’r ysgol. Mae pobl hŷn hefyd yn teimlo eu bod yn gallu teithio’n annibynnol ac yn fwy diogel.  Mae corff mawr o dystiolaeth ar draws y byd mai cyflymder traffig yw’r prif reswm pam nad yw pobl yn cerdded neu feicio, neu’n peidio â gadael i’w plant gerdded neu feicio i’r ysgol. 

Mae gostyngiad mewn cyflymder yn golygu bod pobl yn teimlo’n fwy diogel i gymryd rhan mewn teithio llesol, ac mae hynny yn ei dro yn helpu i ostwng llygredd.

Diffyg gwybodaeth am yr ymgynghoriadau - doedd neb bron yn ymwybodol, a ble mae’r dystiolaeth eu bod wedi cael eu cynnal? 

Cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol ar-lein ar y cynigion ar gyfer y cynllun 20mya yn ystod mis Mawrth ac Ebrill 2021. Gwahoddwyd aelodau’r cyhoedd i edrych ar luniadau o’r cynllun arfaethedig a rhoi sylwadau’n defnyddio holiadur safonol. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol estynedig rhwng mis Hydref a Rhagfyr  2021, a chafwyd un gwrthwynebiad ffurfiol. 

Fel sy’n arfer safonol ar gyfer hysbysebu pob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, cafodd y cynigion eu hysbysebu ar wefan Cyngor Sir y Fflint ac ym mhapur newydd y Flintshire Leader.  Cyhoeddwyd diweddariad ar wefan Sir y Fflint yn ystod mis Hydref 2021 hefyd gyda manylion yr ymgynghoriad statudol.  Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau ffurfiol a dderbyniwyd yn ystod y broses, cafodd y Rhybudd o Wneud eu hysbysebu’n ffurfiol yn y Flintshire Leader yn ogystal ag ar wefan y Cyngor.

Mae 20mya yn iawn ar ffyrdd preswyl ond nid ar y prif ffyrdd? 

Fel rhan o’r treialon Cam 1, mae pob ffordd ddi-ddosbarth wedi newid yn awtomatig i 20mya. 

Mae’r ffyrdd dosbarth A a B sy’n arwain i Fwcle yn gyffredinol yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ardal breswyl a phrysur i gerddwyr, er enghraifft yn cynnwys ysgolion, colegau ac ysbytai, ardaloedd siopa prysur ac ati, felly dyna pam bod y terfyn cyflymder wedi’i ostwng i 20mya. Rydym yn cefnogi manteision gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cynnwys:

  • lleihau gwrthdrawiadau;
  • mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau;
  • helpu i wella ein hiechyd a’n lles;
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel; a
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gallwn gyflwyno cyfyngiadau 30mya ar ffyrdd sy’n bodloni’r meini prawf eithriadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn unig. Fodd bynnag, fel rhan o adolygiad aneddiadau cam 1, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dynnu ar wersi o Fwcle a’r saith anheddiad arall i edrych eto ar y dull o eithrio a mireinio’r meini prawf, yn cynnwys ar gyfer prif ffyrdd megis Ffordd Lerpwl, Bwcle.

Bydd yn arwain masnach o dref sydd eisoes yn cael pethau’n anodd.  

Gan fod busnesau’n wynebu pwysau digynsail i barhau yn hyfyw, mae’n hanfodol ein bod yn edrych ar beth sy’n gwneud ein prif strydoedd yn llefydd dymunol i fod. Mae tystiolaeth yn dangos bod ardaloedd manwerthu sy’n gyfeillgar i gerddwyr yn arwain at niferoedd uwch o bobl a mwy o wario. Mae lle mwy diogel, tawel a dymunol i siopa, siarad a chroesi’r ffordd yn golygu fod pobl y treulio mwy o amser yno ac yn pori mwy drwy’r siopau mewn canolfannau.  Mae mwy o ymchwil ar y pwnc hwn ar gael drwy’r dolenni isod.

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/Position%20Statement%20Background%20Paper%20-%2020mph%200b.pdfNo 68 Spend on high streets according to travel mode - Travelwest

https://blogs.lse.ac.uk/covid19/2021/07/15/britains-high-streets-are-an-intrinsic-part-of-the-social-and-economic-fabric-of-our-cities/

https://www.livingstreets.org.uk/media/3890/pedestrian-pound-2018.pdf

https://www.local.gov.uk/publications/creating-resilient-and-revitalised-high-streets-new-normal

Gofyn am eglurhad am ddefnyddio TRO i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya 

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig neu TRO yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu, gwahardd neu reoleiddio’r defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â’r Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd.

Ni all TRO gael ei gynnig dim ond ar gyfer y rhesymau a ganiateir o fewn y ddeddfwriaeth ac mae gofyn iddynt gael eu llofnodi a’u llinellu’n briodol. Mae enghreifftiau nodweddiadol o TRO yn cynnwys:

  • Terfynau cyflymder
  • Cyfyngiadau parcio ar y stryd• Terfynau pwysau
  • Strydoedd unffordd a throadau wedi’u gwahardd
  • Gwahardd gyrru

Mae gorchmynion TRO yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau.