Alert Section

Derbyn i Ddosbarth Meithrin (Medi)

A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023?
A fyddan nhw’n 3 oed erbyn 31 Awst, 2026?

Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth meithrin ym mis Medi 2026.


Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar-lein am le yn yr dosbarth meithrin ar gyfer mis Medi 2026.

Bydd angen i chi gofrestru i gael cyfrif er mwyn gwneud cais.

Cliciwch isod, yna cliciwch y botwm i greu cyfrif.

Sylw 

Os ydych yn creu cyfrif gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost @icloud neu @me, ni fydd ein system yn anfon tocyn i gadarnhau eich cyfrif.

Felly, anfonwch e-bost at derbyniadau@siryfflint.gov.uk gan ofyn i’ch cyfrif gael ei gadarnhau.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin 

Yr amserlen ar gyfer derbyn i’r Dosbarth Meithrin yw

Amserlen ar gyfer derbyniadau meithrin
Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni yn yr wythnos yn dechrau:Cyfnod i’r rhieni ystyried:Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni:Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd:Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”)

22/09/25

7yb

22/09/25
-
16/02/26
16/02/26 17/02/26
-
23/03/26

05/05/26

8yb

Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (23 Mawrth 2026) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (5 Mai 2026).

Sylwch 
Mae'r cais hwn ar gyfer meithrinfa ysgol yn unig ac nid Hawl Bore Oes na Chyllid Gofal Plant.

I gael rhagor o wybodaeth am Hawl Bore Oes / Cynnig Gofal Plant cliciwch yma.