Alert Section

Cynnig Gofal Plant Cymru - i Blant 3 to 4 oed (30 awr)


Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o Addysg Gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 i 4 oed ar draws Cymru am 48 wythnos y flwyddyn.

Childcare Offer for Wales

AMAE CEISIADAU AR AGOR AR GYFER IONAWR 2026

Mae’n bosibl y bydd plant â dyddiad geni 01/09/2022 – 31/12/2022 yn gymwys i gael cyllid – gellir dod o hyd i’r cais yma:

Ymgeisiwch nawr

Bydd ceisiadau ar gyfer Ebrill 2026 yn agor ar 22 Ionawr 2026.

Gall plant â dyddiadau geni rhwng 01/01/2023 – 31/03/2023  fod yn gymwys i gael cyllid.

Sylwch fod y dyddiadau cymhwyso hyn yn berthnasol i blant sy'n byw yn Sir y Fflint yn unig.

Mae’r cais hwn am ORIAU GOFAL PLANT y Cynnig Gofal Plant YN UNIG - i wneud cais am Addysg Cyfle Cynnar neu addysg Feithrin ar gyfer Wrecsam neu Sir Ddinbych, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at ceisiadaucynniggofalplant@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 03000 628 628

Os ydych angen cymorth i lenwi’r cais ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i Sir y Fflint peidiwch ag oedi rhag galw heibio un o’n canghennau/canolfannau ‘Cysylltu’ lle mae ganddyn nhw gyfrifiaduron hunanwasanaeth a chynghorwyr cysylltu sydd ar gael i gynnig cefnogaeth ddigidol. 

Gweler here i gael gwybod lle mae eich cangen/canolfan Cysylltu lleol a’r oriau agor.