Alert Section

Adolygiad Ardal Brynford a Lixwm


Cynnig i uno Ysgol Gynradd Gymunedol Brynffordd ac Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm er mwyn sefydlu un ysgol ardal newydd o 1 Medi 2018.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dymuno cael barn partïon â diddordeb ynghylch y cynnig i uno Ysgol Gynradd Gymunedol Brynffordd ac Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm gyda disgyblion presennol yn trosglwyddo i’r ysgol ardal arfaethedig, yn amodol ar ddewis y rhieni.

Mae'r dogfennau ymgynghori yn nodi gwybodaeth y gallai ymgyngoreion eu hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddio fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2013.

Mae'r cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar ddydd Iau 15 Mawrth 2018 ac yn gorffen ar ddydd Iau 10 Mai 2018.

Adroddiad Ymgynghori Ffurfiol

Adroddiad Ymgynghori Ffurfiol Plant a Phobl Ifanc

Dogfen Ymgynghori Ffurfiol

Dogfen Ymgynghori Plant a Phobl Ifanc

Asesiad Effaith Cymunedol

Asesiad Effaith Cydraddoldeb A'r Gymraeg

Asesiad O'r Effaith Ar Gludiant   

Adroddiad Gwerthuso Opsiwn Adolygu Ardal

Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad