Alert Section

Cynnig Ffederasiwn – Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan


Mae Cyrff Llywodraethu Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan wedi cytuno ar y cyd i gynnal ymgynghoriad ar gynnig i sefydlu Ffederasiwn rhwng Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan o 8 Ionawr 2018, yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (2014).

Bydd yr ymgynghoriad ar ffedereiddio Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (2014) yn dechrau 8 Mai 2017 ac yn cau 12 Mehefin 2017.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd copi o’r ddogfen ymgynghori hon ar gael i bob rhiant/gofalwr a budd-ddeiliaid allweddol, a bydd copïau caled ar gael ym mhob ysgol. 

Mae fersiwn o’r ddogfen ymgynghori hon wedi’i chynhyrchu ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y cynnig.  Mae'r ddogfen plant a phobl ifanc wedi cael ei hysgrifennu a'i chyflwyno’n benodol i alluogi plant a phobl ifanc ddeall ac ymgysylltu â'r broses ymgynghori. Bydd digwyddiadau ymgynghori hefyd yn cael eu trefnu gyda’r Cynghorau Ysgol priodol.

Cofnodion y Cyfarfod 28 Mehefin 2017

Mae modd gweld dolenni at y dogfennau ymgynghori drwy ddefnyddio'r dolenni isod.

Ysgol Gronant Llythyr i Rieni a Gofalwyr
Ysgol Trelogan Llythyr i Rieni a Gofalwyr
Cynnig Ffederasiwn Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan
Dogfen Ymgynghori Plant a Phobl Ifanc
Adroddiad Ymgynghori Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan