Alert Section

Cynnig Ad-drefnu Ysgol Gynradd Saltney


Mae Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cynnig i gau Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood a sefydlu ysgol gynradd gymunedol a gynhelir newydd. Byddai’r ysgol newydd yn gweithredu ar ddau safle presennol i ddechrau, pan fo cynigion i adeiladu ysgol newydd yn mynd rhagddynt trwy’r prosesau cymeradwyo perthnasol.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymgynghoriad

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig hwn o 16 Mehefin 2026 tan 29 Gorffennaf 2026, ac mae bellach wedi cau. 

Diolch i bawb a gymerodd amser i roi adborth yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd yr holl adborth a dderbyniwyd yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses gwneud penderfyniad y Cyngor.

Bydd y dudalen hon yn parhau i ddarparu gwybodaeth a diweddariadau yn ymwneud â’r cynnig wrth iddo ddatblygu.

Dogfennau Ymgynghori

Mae dogfennau’r ymgynghoriad yn parhau i fod ar gael i’w gweld:

Asesiadau Cysylltiedig

Mae’r asesiadau canlynol a baratowyd i gefnogi’r cynnig hefyd ar gael:

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r cynnig neu os oes arnoch chi angen gwybodaeth bellach, cysylltwch â'r Tîm Moderneiddio Ysgolion:

Tîm Moderneiddio Ysgolion
Cyngor Sir y Fflint
Tŷ Dewi Sant
Ewlo
Sir y Fflint
CH5 3XT

E-bost: CatholicEducationConsultation@siryfflint.gov.uk

Rhif Ffôn: 01352 704018 or 01352 704014

Mae fersiynau print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill o’r ddogfen ar gael drwy gais. 

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwch yn cael ymateb yn yr un iaith.