Alert Section

Ardal Saltney/Brychdyn


Mae dros 1,500 o bobl wedi dweud eu dweud am ddyfodol addysg ym Mrychdyn a Saltney.

Cwblhaodd Gyngor Sir y Fflint ymarfer ymgysylltu cynnar dros dymor yr haf i gasglu barn y gymuned a siapio dyfodol darpariaeth addysg yn yr ardal.

Cynhaliwyd yr arolwg hwn, a gafodd ei rannu gydag ystod eang o bobl yn y gymuned, o ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023 tan ddydd Llun, 3 Gorffennaf 2023, a chasglwyd 1,503 o ymatebion gan y cyhoedd.  Cafwyd lefel uchel o ymgysylltiad gan ddisgyblion yr ymgynghorwyd â hwy ar y cynlluniau hefyd.

Cyflwynwyd nifer o opsiynau posibl i ymatebwyr:

  1. Gwneud dim - cadw ysgolion Brychdyn a Saltney fel ag y maent.
  2. Gwneud y lleiafswm i gael gwared â’r ôl-groniad o broblemau cynnal a chadw.
  3. Ailwampio ac ymestyn cyfleusterau presennol (lle bo modd).
  4. Adeiladu Campws 3 - 16 i gynnwys Ysgol Uwchradd Dewi Sant a chyfuno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood.
  5. Adeiladu Ysgol Gydol Oes 3 - 16.
  6. Adeiladu Ysgol Uwchradd 11-16 newydd i Ysgol Uwchradd Dewi Sant ar safle Bretton ac adeiladu Ysgol Gynradd 3-11 newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd Dewi Sant.
  7. Cau Ysgol Uwchradd Dewi Sant

Roedd y mwyafrif (443) o bobl yn anghytuno’n gryf gydag opsiwn 1 i wneud dim byd a chadw ysgolion fel ag y maent.  Opsiwn 6 oedd yr opsiwn a ffefrir o ran nifer yr ymatebion ‘cytuno’n gryf’ (383), fodd bynnag, roedd 205 o bobl yn anghytuno’n gryf.

Opsiwn 3 oedd yr opsiwn a ffefrir yn gyffredinol gyda 332 o ymatebwyr yn anghytuno’n gryf a 235 yn cytuno. Opsiwn 7 oedd y cynnig a ffefrir leiaf o bell ffordd, gyda 717 o ymatebwyr yn anghytuno’n gryf a dim ond 52 yn cytuno’n gryf.

Canfuwyd mai cyflwr adeiladau a safon cyfleusterau oedd y broblem fwyaf pan ofynnwyd beth oedd yn peri’r pryder mwyaf am eu hysgol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood: “Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg ymgysylltu cynnar. Roedd yr ymateb cyffredinol yn gadarnhaol ond mae consensws cyffredinol yn y gymuned bod angen newid ac y byddai buddsoddiad yn ddymunol.

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i ddarparu addysg a chyfleoedd o ansawdd uchel i ddisgyblion.  Rydym yn gweithio i ddatblygu cynllun sy’n darparu strategaeth newydd ar gyfer addysg yn yr ardal sy’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy.”

Bydd canlyniad yr arolwg yn mynd i’r Cabinet i’w drafod gan aelodau yn y misoedd nesaf.

Ymgysylltu Buan Darpariaeth Addysg yn Ardal Saltney a Brychdyn 

Pam ydym yn gofyn am eich barn? 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer addysg ar draws y sir yn rheolaidd ac mae wedi ymrwymo’n gadarn i ddatblygu a gwella ei ysgolion er budd dysgwyr Sir y Fflint.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Cyngor weithio o fewn ei adnoddau ariannol, ac yn yr hinsawdd economaidd presennol mae yna heriau sylweddol i ddarparu rhaglenni newid, yn arbennig pan mae chwyddiant cynyddol yn effeithio ar gyllidebau a chostau prosiect adeiladu yn sylweddol uwch.

Mae’n hanfodol ein bod ni fel y Cyngor yn gweithio’n agos gyda chi fel cymunedau yn Saltney a Brychdyn i ddatblygu cynllun sy’n darparu strategaeth newydd ar gyfer addysg yn yr ardal.  Y cam cyntaf yw i ni ymgysylltu gyda chi yn fuan yn y broses i geisio eich barn.

Diben yr ymgysylltu buan hwn yw:- 

  • Rhannu barn bresennol y Cyngor am ddarpariaeth addysg posibl yn yr ardal yn y dyfodol gyda budd-ddeiliaid allweddol.
  • Cynnal sgwrs agored am yr amrywiol heriau wrth ddarparu model darpariaeth newydd.
  • Deall barn y cymunedau lleol a cheisio eu hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth adeiladol gyda’r Cyngor, i gyflawni model darpariaeth newydd sy’n arwain at y cyfleusterau gorau i gefnogi deilliannau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael.

Sut allwch chi ddweud eich dweud

Mae’r dogfennau ymgysylltu buan wedi eu llunio i egluro pam bod y Cyngor yn adolygu darpariaeth addysg yn yr ardal.  

Mae fersiynau print bras, Braille, fersiynau mewn ieithoedd eraill a chopïau caled o’r dogfennau hyn ar gael ar gais gan y Tîm Moderneiddio Ysgolion. Gallwch gysylltu â’r Tîm drwy:

  • ysgrifennu at y Tîm Moderneiddio Ysgolion, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint, CH5 3TX;
  • anfon e-bost at: 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk; neu
  • ffonio 01352 704018 neu 01352 702188.

Holiadur Ymgysylltu Buan

Ar sail y wybodaeth sydd ar gael, rhowch wybod i ni beth yw eich barn drwy:

  • Lenwi y ffurflen holiadur ymgysylltu buan
    Cod QR Arolwg Brychdyn Saltney - Broughton Saltney Survey QR Code
  • Lenwi copi papur o’r holiadur a’i bostio yn y blychau casglu a ddarperir yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Ysgol Gynradd Saltney Ferry, Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood ac Ysgol Gynradd Brychdyn.
  • Lenwi copi papur o’r holiadura’i ddychwelyd i’r Tîm Moderneiddio Ysgol yn y cyfeiriad uchod; neu e-bostio atom yn 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk

Bydd yr holiadur Ymgysylltu Buan yn agored rhwng 6 Mehefin 2023 a hanner nos ar 3 Gorffennaf 2023

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd yr holl ymatebion o’r arolwg anffurfiol hwn yn cael eu llunio mewn adroddiad i Gabinet y Cyngor. Bydd y Cabinet yn adolygu’r ymatebion gan y gymuned ac yn datblygu beth sy’n digwydd.

Gellir anfon unrhyw gwestiynau trwy e-bost at 21stCenturySchools@flintshire.gov.uk, a bydd Swyddogion y Cyngor yn darparu ymateb cyn pen 7 diwrnod.