Alert Section

Cyllid

Ewch i'n canolbwynt cyllid i weld pa fudd-daliadau sydd ar gael, deall costau gwasanaeth, a llenwi eich asesiad ariannol yn rhwydd.

Polisi Codi Tâl am Wasanaethau Gofal a Chefnogaeth

Ar 6 Ebrill 2016, daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym. Mae'r 'Ddeddf' yn rhoi'r hawl i Awdurdodau Lleol yng Nghymru i godi ffi am wasanaethau gofal a chefnogaeth.

Taflen Wybodaeth Codi Tâl am Wasanaethau Gofal Cymunedol

Mae'r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am godi tâl am wasanaethau mae pobl yn eu derbyn yn eu cartref eu hunain ac yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau fel gofal dydd, gofal cartref, gwaith prosiect ac aros i gael gofal am gyfnodau byr o lai nag wyth wythnos mewn cartref preswyl neu nyrsio.

Codi tâl ar Awdurdodau Lleol Eraill am Wasanaethau AMHP

Wrth i gymdeithas ac unigolion o fewn cymdeithas fod yn fwy symudol, bydd achlysuron pan ofynnir i Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy Cyngor Sir y Fflint wneud gwaith ar ran Awdurdodau Lleol eraill mewn perthynas â phobl sydd fel arfer yn breswyl yn yr Awdurdodau hynny, ond yn bresennol yn gorfforol yn Sir y Fflint.

Y Cynllun Taliadau Gohiriedig Taflen Wybodaeth

Mae'r cynllun taliadau gohiriedig ar gyfer unigolion sy'n dymuno gohirio talu rhan neu gyfanswm llawn eu costau gofal ar hyn o bryd ac yn hytrach eu talu'n nes ymlaen, fel nad ydynt yn gorfod gwerthu eu heiddo'n syth wedi iddynt symud i'r cartref gofal.

Atwrneiaeth Arhosol

Dogfen gyfreithiol ydy Atwrneiaeth Arhosol. Mae'n galluogi rhywun rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw i wneud penderfyniadau ar eich rhan ac er eich lles.

Talu am Ofal Preswyl Taflen Wybdaeth

Efallai y byddwch chi'n gallu cael cymorth ariannol tuag at eich gofal os yw Gweithiwr Cymdeithasol yn asesu eich bod angen gofal preswyl neu ofal nyrsio

Rôl y Tîm Dirprwyaeth

Mae'r Tîm yn darparu cymorth arbenigol i bobl ddiamddiffyn a ystyrir nad ydynt yn gallu rheoli eu harian eu hunain yn feddyliol neu'n gorfforol.

Polisi Trafnidiaeth 2024

Diben y polisi hwn yw sicrhau fod pobl a asesir i fod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal a sydd angen cymorth gyda chludiant i allu defnyddio'r gwasanaethau hynny, yn derbyn gwasanaeth sy'n bodloni yr anghenion a aseswyd.