Croeso i’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.
Rydym yn deall bod bywyd yn gallu bod yn heriol, ac nid yw bob amser yn hawdd gwybod lle i droi am help. P’un a ydych chi’n wynebu anawsterau eich hun neu’n poeni am rhywun arall, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yma i’ch cefnogi chi.
Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl o bobl oed i’w helpu i fyw yn ddiogel, yn iach ac yn annibynnol. Ein rôl yw gwrando, deall eich anghenion a’ch cysylltu â’r gefnogaeth gywir.
Nid oes raid i chi wybod yr holl atebion cyn cysylltu â ni. Os nad ydych chi’n siŵr lle i ddechrau, mae hynny’n iawn – rydym ni yma i’ch arwain chi.