Alert Section

Cerdyn 'Just Can't Wait'

A ydych chi angen mynd i'r toiled ar frys? Fe allai'r cerdyn "Just Can't Wait" eich helpu.

Efallai bydd y cerdyn 'Just Can’t Wait' yn ddefnyddiol ar gyfer pobl â phroblemau gyda’u coluddyn neu eu pledren. Mae’r cerdyn hwn yn dangos fod gan y deiliad broblem feddygol, a’u bod angen defnyddio’r toiled ar frys.

Mae nifer o siopau a sefydliadau gwasanaeth yn derbyn y cerdyn 'Just Can’t Wait', gan ganiatáu mynediad i doiledau nad ydynt fel arfer ar agor i’r cyhoedd.

Mae’r cerdyn ar gael ar fformat digidol i gadw ar eich ffôn neu fel cerdyn go iawn. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan 'Bladder & Bowel Community'.

Cerdyn Toiled 'Just Can't Wait'