Mae ystod eang o wybodaeth ar gael i'ch cefnogi i ddod o hyd i atebion i fodloni eich anghenion:
Mae gwybodaeth ddigidol ar gael drwy
Os byddwch yn penderfynu cysylltu â ni, byddwn yn cael trafodaeth gychwynnol â chi i gasglu gwybodaeth allweddol er mwyn penderfynu “Beth sy'n bwysig i chi” a'ch helpu i chwilio am atebion yn eich rhwydwaith cefnogi a chymuned leol.
Gall ein Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol gynnig trafodaeth fanylach a chefnogaeth i gael gafael ar wasanaethau yn y gymuned, yn ogystal ag awgrymiadau eraill ar sut y gallwch fodloni eich anghenion.
Gall ein Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol gynnig trafodaeth fanylach a chefnogaeth i gael gafael ar wasanaethau yn y gymuned, yn ogystal ag awgrymiadau eraill ar sut y gallwch fodloni eich anghenion.
Gallwn roi gwybodaeth a chyngor i chi fel eich bod yn gallu gwneud eich trefniadau eich hun am eich gofal a chefnogaeth.
Gallwn roi gwybodaeth a chyngor i chi os ydych yn chwilio am gyfarpar neu addasiadau bychan i gynnal / gwella annibyniaeth.
Os oes ei angen arnoch, gallwn eich cyfeirio am sgwrs fanylach am “Yr hyn sy'n bwysig i chi” a chynnal asesiad o'ch anghenion cymorth. Bydd hyn yn helpu i nodi atebion i fodloni eich anghenion sydd wedi eu hasesu.
Yn dilyn hyn, yn dibynnu ar yr atebion a nodwyd ar eich cyfer, gallwn naill ai roi gwybodaeth a chyngor i chi i'ch helpu i wneud eich trefniadau eich hun neu efallai y byddwn yn eich cyfeirio am gymorth pellach drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn dibynnu ar eich anghenion, efallai y byddwn yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol ar gyfer eich asesiad a'ch cefnogaeth, er enghraifft cynnwys cydweithwyr iechyd.
Trwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol, efallai y byddwn yn gallu eich cefnogi i edrych ar opsiynau tai a llety, yn cynnwys addasiadau mwy os oes angen.
Gallai cefnogaeth arall gynnwys:
- Cynllunio cefnogaeth ymarferol i reoli tasgau a threfniadau byw o ddydd i ddydd.
- Cymorth i gyfathrebu, neu feithrin a chynnal perthnasoedd ag eraill.
- Cymorth i gael mynediad at y gymuned, addysg, cyflogaeth neu weithgareddau hamdden.
Byddwn bob amser yn ceisio hyrwyddo eich annibyniaeth a lleihau eich dibyniaeth ar wasanaethau cymorth ffurfiol cymaint â phosibl.