Alert Section

Cyfathrebu a gwybodaeth

Dylai gwybodaeth am ddigwyddiadau, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol fod ar gael mewn fformatau hygyrch, ac mewn llefydd lle y bydd pobl yn gwybod i chwilio amdanynt.

Communication and Information

Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma?

  • Hysbysfyrddau cymunedol, newyddlenni a chyfeirlyfrau gwasanaethau lleol
  • Cefnogaeth i ddarparu gwybodaeth ar ffurfiau gwahanol (e.e. hawdd ei ddarllen, ieithoedd gwahanol, print bras)
  • Cyfeiriadau clir at amwynderau cymunedol

Astudiaethau Achos

Gweithgareddau a grwpiau ar gyfer pobl hŷn - Canllaw Sir y Fflint

Mae ymgysylltiad gyda phobl hŷn wedi nodi bod mynediad at wybodaeth yn flaenoriaeth. Mae angen i bobl hŷn gael mynediad at wybodaeth ar amrywiaeth o destunau, ond yn benodol, mae gwybodaeth am grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol yn bwysig er mwyn cynnal annibyniaeth a lles a theimlo’n rhan o’r gymuned leol.

Gan weithio gyda grwpiau Pobl Hŷn, rydym wedi datblygu ‘Canllaw Beth sy’ ‘Mlaen’ yn rhestru’r grwpiau sefydledig, gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau ar gyfer pobl hŷn ar draws Sir y Fflint. Mae’r canllaw yn ffordd wych o rannu gwybodaeth am weithgareddau yng nghymunedau lleol Sir y Fflint.

Mae’r ‘Canllaw Beth sy’ ‘Mlaen’ yn cael ei rannu’n electronig drwy ein rhwydwaith Pobl Hŷn sydd â dros 120 o unigolion / cysylltiadau grŵp wedi cofrestru ar ei gyfer. Mae hefyd yn cael ei rannu gyda phartneriaid sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn yn Sir y Fflint e.e. Un Pwynt Mynediad , darparwyr gwasanaethau statudol a’r sector gwirfoddol. Mae’r tîm Heneiddio’n Dda o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu darparu copi papur o’r canllaw i grwpiau cymunedol a lleoliadau (e.e. canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu) gan sicrhau nad yw’r rhai sy’n cael eu heithrio’n ddigidol o dan anfantais.

Mae’r ‘Canllaw Beth sy’ ‘Mlaen’ yn gymorth i sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn gwybodaeth well am yr hyn sy’n digwydd yn eu hardal, gan roi cyfle iddynt gwrdd ag eraill, gwneud ffrindiau newydd neu roi cynnig ar rywbeth newydd. Gyda mwy o ddiddordeb yn y canllaw, rydym yn sicr ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar les ac yn gymorth i fynd i’r afael ag unigedd ac arwahanrwydd.

Parthau Ychwanegol

Social Participation

Cyfranogiad cymdeithasol


Respect and Social Inclusion

Parch a chynhwysiant cymdeithasol