Alert Section

Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd

Mae gwasanaethau iechyd a gofal, sy'n hygyrch ac yn fforddiadwy, yn allweddol i gadw pobl hŷn yn iach, yn annibynnol ac yn egnïol. Mae angen i'r gwasanaethau hyn fod wedi'u lleoli'n gyfleus ar gyfer y mannau lle y mae pobl yn byw ac yn agos at lwybrau cludiant cyhoeddus.

Community Support and Health

Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma? 

  • Cymorth yn y cartref i bobl sy’n gadael yr ysbyty
  • Gwasanaethau ymweld â chartrefi sy’n darparu cymorth i wella annibyniaeth a lles (e.e. nyrs gymunedol, ffisiotherapydd, cynlluniau cyfeillio)
  • Canolfannau cymunedol sy’n darparu gwasanaethau iechyd a lles
  • Ystafelloedd aros sy’n addas i bobl gydag anghenion gwahanol
  • Prosesau archebu syml ar gyfer meddygfeydd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill

Astudiaethau Achos

Gwella cryfder a balans a chynyddu cyfranogiad cymunedol 

Bu i bandemig Covid gael effaith ar allu pobl hŷn i gyfranogi yn eu cymunedau ac mae sawl un wedi profi colli hyder a dirywiad yn eu lles corfforol a meddyliol (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Gadael neb ar ôl).   

Yn awyddus i ail-ymgysylltu â phobl hŷn yn eu cymuned ac ail ddechrau gweithgareddau cymunedol, ceisiodd un grŵp sy’n gyfeillgar i oed gyflwyno nifer o weithgareddau i fagu hyder y boblogaeth hŷn yn lleol i gyfranogi yn y gymuned.  Ailgyflwynodd y grŵp eu bore coffi misol a ddechreuodd cyn Covid, ond roedd y niferoedd a oedd yn mynychu yn isel.  Cynigiwyd nifer o sesiynau blasu i geisio ennyn mwy o ddiddordeb, ond ni chynyddodd y niferoedd.  Nes i’r grŵp gyflwyno sesiwn flasu cerddoriaeth a symud.  Mae Hamdden Aura yn cynnig sesiynau cerddoriaeth a symud mewn Canolfannau Hamdden yn Sir y Fflint fel rhan o’r rhaglen i Atal Codymau gan ddatblygu cryfder a balans pobl sydd wedi profi codwm neu’n wynebu’r perygl o gael codwm.  Yn ystod y Pandemig cynhaliwyd y sesiynau ar-lein gyda’r cyfranogwyr yn nodi bod y sesiynau wedi bod yn allweddol i gynnal eu lles meddyliol a chorfforol gyda budd ychwanegol y cyfleoedd cymdeithasol.   Roedd Hamdden Aura yn chwilio am gyfleoedd i gyflwyno sesiynau mewn cymunedau lleol i wella mynediad mewn ardaloedd gwledig.  Er mai dim ond llond llaw o bobl a ddaeth i’r sesiwn flasu gyntaf yn y bore coffi, roedd yr adborth gan y cyfranogwyr yn hynod gadarnhaol ac fe gytunwyd i gynnig tair sesiwn bob mis gyda’r bore coffi yn ystod y bedwaredd wythnos.  Lledaenodd y neges am y sesiynau ymarfer newydd ac mae’r niferoedd wedi cynyddu i rhwng 18 a 20 bob wythnos. Mae’r cyfranogwyr yn amrywio o ran oedran a gallu, ond maent oll yn elwa o’r sesiynau gan wybod bod modd iddynt ddod a gwneud cymaint neu gyn lleied ag y gallant. Wrth i’r grwpiau cymunedol eraill ailddechrau, roeddent yn teimlo nad oedd angen y bore coffi misol mwyach ac fe gynhelir sesiynau Cerddoriaeth a Symud Aura bob wythnos yn awr. 

Parthau Ychwanegol

Social Participation

Cyfranogiad cymdeithasol


Respect and Social Inclusion

Parch a chynhwysiant cymdeithasol