Alert Section

Cludiant

Mae ystod o ddewisiadau cludiant fforddiadwy, dibynadwy a chyfleus yn galluogi pobl hŷn i ymgysylltu'n hawdd gyda gweithgareddau cymunedol. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ac i'r rhai nad ydynt yn gyrru neu heb fynediad at gar.

Transportation

Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma?

  • Cynlluniau cludiant cymunedol
  • Gwella seddi, lloches a gwybodaeth mewn safleoedd bysiau
  • Cynllunio llwybrau bysiau i gynnwys anghenion a dyheadau pobl hŷn
  • Cyhoeddiadau sain a gweledol am arosfannau ar fysiau a threnau gan gefnogi pobl sydd â nam ar eu golwg

Astudiaethau Achos

Cludiant Cymunedol

Mae pobl hŷn wedi nodi diffyg cludiant fel rhwystr i gymryd rhan yn y gymuned ac fel problem i’r rheiny sy’n dibynnu ar gludiant cyhoeddus i fynychu apwyntiadau meddygol.  Mae cynlluniau cludiant cymunedol yn Sir y Fflint yn helpu pobl hŷn ac eraill yn y gymuned i gael mynediad at wasanaethau, apwyntiadau meddygol a gweithgareddau cymdeithasol, ond mae diffyg ymwybyddiaeth o’r gwahanol opsiynau cludiant, yn arbennig ymhlith pobl nad ydynt yn gallu cael mynediad at wybodaeth ar-lein.

Gan weithio gyda’r Grŵp Gweithredu 50+ (Sir y Fflint), mae’r Swyddog Ymgysylltu Heneiddio’n Dda wedi rhoi canllawiau sylfaenol at ei gilydd ar yr opsiynau cludiant cymunedol gwahanol sydd ar gael yn Sir y Fflint i’w rhannu â rhwydwaith o grwpiau Pobl Hŷn, grwpiau cymunedol a’u cyhoeddi yn newyddlen y Grŵp Gweithredu  “Codger’s Quarterly”. Mae grwpiau cymunedol sy’n gyfeillgar i oed yn Nhreffynnon a Phentrefi Alun (Yr Hôb, Caergwrle ac Abermorddu) hefyd wedi datblygu eu pamffled Cludiant Cymunedol eu hunain wedi’u teilwra i’w hardal leol, gan ddosbarthu copïau drwy grwpiau cymunedol, llyfrgelloedd, meddygfeydd, canolfannau cymunedol ac ati.  Mae Cynghorwyr Sir yr Hôb a Chaergwrle hefyd wedi dosbarthu’r pamffled ynghyd â newyddlen eu Ward.

Rydym yn ymwybodol y gall gwybodaeth wedi’i hargraffu ddyddio’n gyflym iawn, felly mae manylion cyfredol cynlluniau cludiant cymunedol sydd ar waith yn Sir y Fflint ar gael ar-lein neu gan ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.  Bydd Grŵp Gweithredu 50+ (Sir y Fflint) yn cynnwys canllawiau cludiant cymunedol cyfredol yn un o rifynnau eu newyddlen yn y dyfodol. 

Parthau Ychwanegol

Social Participation

Cyfranogiad cymdeithasol


Communication and Information

Cyfathrebu a gwybodaeth