Alert Section

Hysbysiadau Preifatrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dysgwch fwy am Hysbysiadau Preifatrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer dibenion penodol Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion, ac unrhyw bryderon Diogelu neu unrhyw weithgarwch troseddol honedig neu brofedig. Mae prosesu’ch data personol yn ‘dasg gyhoeddus', sef un o ofynion yr awdurdod lleol er mwyn hyrwyddo lles pob unigolyn dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a hyrwyddo lles a diogelwch Oedolion Diamddiffyn.

Gall Cyngor Sir y Fflint rannu eich data gydag awdurdodau lleol eraill, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr Heddlu, asiantaethau trydydd parti perthnasol eraill, os yw hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau i hybu iechyd a lles.

Bydd peth o’r wybodaeth a gedwir amdanoch yn cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i gynnal ymchwil i wella’r gofal a chefnogaeth a ddarperir i chi a phobl eraill yng Nghymru. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu’n gyfreithlon a bydd ond yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil i gefnogi busnes swyddogol.

Gallai hyn olygu trosglwyddo eich data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd os ydych chi wedi byw mewn unrhyw wlad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth fel y nodir yn Neddfwriaeth Gofal Cymdeithasol a Lles y DU.

Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 1231113.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan neu gofynnwch i’r Cyngor am gopi.

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data at ddibenion penodol plant sydd angen Cymorth Cynnar, Gofal a Chefnogaeth neu bryderon Diogelu Plant neu unrhyw weithgarwch troseddol honedig neu brofedig. Mae prosesu’ch data personol yn ‘dasg gyhoeddus', sef un o ofynion yr awdurdod lleol er mwyn hyrwyddo lles pob unigolyn dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a hyrwyddo lles a diogelwch plant o dan Ddeddf Plant 1989 a Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan 2008.

Gall Cyngor Sir y Fflint rannu eich data gydag awdurdodau lleol eraill, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr Heddlu, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd / Gwasanaethau Cymorth Cynnar neu unrhyw drydydd parti perthnasol arall os yw hyn yn angenrheidiol, er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau statudol.

Bydd peth o’r wybodaeth a gedwir amdanoch yn cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i gynnal ymchwil i wella’r gofal a chefnogaeth a ddarperir i chi a phobl eraill yng Nghymru. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu’n gyfreithlon a bydd ond yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil i gefnogi busnes swyddogol.

Gallai hyn olygu trosglwyddo eich data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd os ydych chi wedi byw mewn unrhyw wlad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth am 100 mlynedd yn unol â’n hamserlen gadw. Os credwch fod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan neu gofynnwch i’r Cyngor am gopi.