Alert Section

Gwybodaeth i Gynorthwywyr Personol


Information for PAs sub 670


Cymorth ar gael ar gyfer Cynorthwywyr Personol

Rhaglen Cymorth i Weithwyr Cyngor Sir y Fflint

Canopi - Cefnogi Staff Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Rhaglen Cymorth i Weithwyr Care First

Mae gan Gymorthyddion Personol, a gyflogir gan Gyflogwyr Taliad Uniongyrchol Sir y Fflint, hawl i gael mynediad at Raglen Cymorth i Weithwyr Cyngor Sir y Fflint drwy Care First. 

Bydd Care First yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol ar gyfer problemau gartref neu yn y gwaith. Mae’r gwasanaethau ar gael ar-lein a drwy ffonio rhif Rhadffôn 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. 

carefirst-lifestyle.co.uk

Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys

  • Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae Arbenigwyr Gwybodaeth Gofal wedi'u hyfforddi i roi cyngor i Ddinasyddion ac yn gymwys i ateb ymholiadau cyffredinol a rhanbarthol penodol.Problemau Ariannol, Tenantiaeth, Defnyddwyr, Budd-daliadau, Cyflogaeth ac Iechyd yw ond ychydig o'r meysydd y gall Care First ddarparu cymorth ar eu cyfer drwy'r gwasanaeth gwybodaeth.

  • Cwnsela 

Mae cwnselwyr Care First ar gael i roi cymorth ar gyfer unrhyw beth yr ydych am ei drafod; waeth beth yw achos y problemau. Profedigaeth, Perthynas yn chwalu a Bwlio – dyma rai enghreifftiau, yn ogystal â Newidiadau yn y Gwaith, Pwysau, Straen, Llwyth Gwaith a Salwch.

  • Iechyd a Lles Ar-lein

Adnodd helaeth o erthyglau a gwybodaeth sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i reoli ffordd iach o fyw. Yn cynnwys Care First Zest, adnodd sy'n darparu cymorth iechyd a ffitrwydd personol rhyngweithiol am ddim.

Cysylltwch â'r Tîm Cymorth Taliad Uniongyrchol i gael y rhif ffôn pwrpasol am ddim neu fewngofnodi i gael mynediad i'r gwasanaeth ar-lein.

E-bost: dp.support@flintshire.gov.uk

Ffôn: 01352 701100


Canopi

Mae yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy'n rhoimynediad at gymorth iechyd meddwl a lles i staff sy'n gweithio ynsefydliadau gofal cymdeithasol a'r GIG yng Nghymru

Rydym yn deall y pwysau sy’n gysylltiedig â gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym am i chi wybod ein bod ni yma i’ch helpu.

Ein nod yw rhoi cymorth i'r rhai sydd â symptomau a chyflyrau megis:

  • teimlo'n drech na gofidus
  • gorbryder ac iselder
  • anhwylder straen wedi trawma

Trwy Canopi gallant gael mynediad at:

  • Hunangymorth
  • Hunangymorth dan arweiniad
  • Cymorth gan gymheiriaid
  • Ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb rhithwir
  • Gwasanaeth Cymorth Alcohol

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: canopi.nhs.wales

Taflenni