Alert Section

Anableddau Dysgu


Mae Tîm Anabledd Dysgu Cymunedol Sir y Fflint yn gweithio gydag oedolion sydd ag anableddau dysgu. 

Os oes gennych anabledd dysgu, gallwn eich helpu i: 

  • Gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • Dod o hyd i bethau i’w gwneud yn ystod y dydd a’r nos
  • Cynllunio ar gyfer eich dyfodol
  • Aros yn ddiogel yn eich cartref a thu hwnt
  • Gofalu am iechyd eich corff a’ch meddwl
  • Cael llais a chael eich clywed
  • Cyfrifo’ch arian a’ch cyllideb
  • Rhoi cynnig ar bethau newydd
  • Cael cymorth neu helpu’r bobl sy’n rhoi cymorth i chi eisoes

 Yn ein tîm mae gennym:
 Weithwyr Cymdeithasol, Nyrsys, Swyddogion Adolygu, Seicolegydd Clinigol, Seiciatrydd, Therapydd Galwedigaethol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapydd, Gweithwyr Cymorth Iechyd, Gweinyddwyr

I gael cymorth a chyngor: 
Os oes gennych weithiwr cymdeithasol eisoes, ffoniwch rhwng 8.30am a 5pm 01352 701081.
Neu os nad oes gennych weithiwr cymdeithasol, ffoniwch Un Pwynt Mynediad 03000 858858. Mae’n bosibl y gall cyrff eraill roi help, cyngor a gwybodaeth hefyd. 

Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol Sir y Fflint 
Gwasanaethau Cymdeithasol 
Neuadd y Sir 
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NN. 

Rhif y tu allan i oriau 0345 0533116

Sefydliadau
Grwp Cynghori un maes Anabledd Dysgu Cymru
British Institute of Learning Disabilities
ASD Info Cymru

Easy-Read
http://www.bild.org.uk/easy-read/easy-read-information/ https://www.easyreadhealthwales.org.uk/miscpages/about-easy-read-health-wales.aspx

Cerddoriaeth a Drama
Emerge Community Arts
Theatr Clwyd Ifanc
Yr Academi Hijinx

Youtube (Hijinx) https://www.youtube.com/watch?v=fyrBcMmwras

Teithio 
Bathodynnau Glas
Arriva Bus Wales
Arriva Travel Help
Trenau Arriva Cymru