Chwa o Awyr Iach
Mae gofal cymdeithasol yn golygu newid bywydau, ac yn Sir y Fflint, fe gewch chi’r gefnogaeth, yr ymddiriedaeth a’r cyfle i wneud hynny. P’un a ydych chi’n cefnogi plant, oedolion neu deuluoedd, byddwch chi’n rhan o dîm croesawgar a chysylltiedig sy’n gwerthfawrogi eich sgiliau, gwrando ar eich syniadau a buddsoddi yn eich dyfodol.
Credwn fod canlyniadau gwych yn dechrau gyda staff sy’n cael eu cefnogi. Dyna pam ydym ni’n cynnig goruchwyliaeth reolaidd, cyfleoedd datblygu proffesiynol, trefniadau gweithio hyblyg a hybrid pan fo’r rôl yn caniatáu, a chydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Bydd gennych ryddid i ddatblygu eich arfer, gyda chefnogaeth rheolwyr a chydweithwyr profiadol, a’r cyfle i greu gyrfa foddhaus sy’n gwneud gwir wahaniaeth.
Mae gweithio ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol yn Sir y Fflint yn cynnig amrywiaeth, her a chyfleoedd i ddatblygu. Ar draws ein trefi, pentrefi a chymunedau gwledig, byddwch chi’n cefnogi pobl ag amrywiaeth eang o anghenion ac amgylchiadau, gan eu helpu i gyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddyn nhw wrth barhau i gynyddu eich sgiliau a’ch profiad eich hunain.
Ar ôl y diwrnod gwaith, mae Sir y Fflint yn cynnig y gorau o ddau fyd: cefn gwlad a morlin, cymunedau ffyniannus a chysylltiadau gwych i ogledd Cymru, Caer, Lerpwl a Manceinion. Mae’n lle gwych i greu gyrfa a lle gwych i’w alw’n gartref.
Neidio i’r cyfleoedd presennol am swyddi.

Beth yw gofal cymdeithasol?
Mae gofal cymdeithasol yn ymwneud â chefnogi pobl i fyw’n annibynnol, aros yn gysylltiedig â’u cymunedau a chyflawni’r pethau sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae’n cynnig gyrfa foddhaus ac mae cyfle bob dydd i wneud gwir wahaniaeth i fywydau plant, oedolion a theuluoedd.
P’un a ydych chi’n newydd i ofal, neu’n chwilio am eich cyfle nesaf, mae rôl lle gallwch chi wneud gwahaniaeth.
Mae mwy o adnoddau a gwybodaeth am rolau ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant i’w gweld isod;
Useful links:
Ymhle y gallech chi weithio?
O fewn y gwasanaethau plant rydym yn canolbwyntio’n gyson ar yr hyn sy’n bwysig i’r plentyn, i’r teulu, a sut ydym yn gwrando ar eu lleisiau. Rydym yn hoffi i’n staff deimlo eu bod yn cael cefnogaeth ond rydym am iddynt fod ag awtonomiaeth i ganfod datrysiadau creadigol i helpu i ddiwallu anghenion y bobl yr ydym ni’n gweithio gyda nhw.
Mae gennym bobl angerddol yn gweithio ac yn arwain ein timau sy’n cefnogi pobl wrth ddrws ffrynt gwasanaethau cymdeithasol, fel Cyswllt Cyntaf a’r Canolbwynt Cymorth Cynnar, hyd at rolau’r rheng flaen mewn Maethu, Cymorth wedi’i Dargedu, Ymyrraeth Deuluol, a Sefydlogrwydd a’r Llys.
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn weithiwr cymdeithasol creadigol ac angerddol sydd eisiau ymuno â thîm gwaith cymdeithasol blaengar ac sy’n canolbwyntio ar deuluoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i weld pa gyfleoedd sydd gennym ar gael.
Mae ein timau gwaith cymdeithasol i oedolion yn lleoedd blaengar a chefnogol iawn i weithio ynddynt. Mae arfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud ac mae ein diwylliant a’n dull yn sicrhau bod staff yn yr amgylchedd iawn, gyda’r offer iawn, i gael y canlyniadau gorau i’r bobl y maent yn gweithio gyda hwy a’u gofalwyr.
O’n timau un pwynt cyswllt a’n timau dyletswydd brys, i’n timau anabledd dysgu, anabledd corfforol, ardal ac iechyd meddwl, mae gennym ffordd gyfannol a chysylltiedig o weithio sy’n sicrhau bod pobl yn cael y gofal a’r gefnogaeth orau os ydynt yn byw yn Sir y Fflint.
Os ydych chi’n meddwl y byddai amgylchedd cefnogol, blaengar ac o ymddiriedaeth yn gwneud gwahaniaeth i’ch gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol, ewch i weld pa gyfleoedd sydd gennym ar gael heddiw.
Mae ein timau Therapi Galwedigaethol yn cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau, adeiladu ar eu cryfderau a chymryd rhan yn y gweithgareddau bob dydd sy’n bwysig iddyn nhw. Gan weithio mewn partneriaeth gydag unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill, mae ein staff yn datblygu datrysiadau ymarferol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n hybu annibyniaeth, diogelwch a lles.
Gallech weithio ar draws amrywiaeth o wasanaethau a lleoliadau cymunedol, yn cefnogi pobl trwy asesiadau arbenigol gan gynnig cyngor a datrysiadau ymarferol sy’n hybu annibyniaeth, diogelwch a lles.
Os ydych chi’n Therapydd Galwedigaethol creadigol a chymhellol sydd am helpu pobl i gyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddyn nhw, edrychwch ar ein cyfleoedd presennol a darganfod lle gallai gyrfa gyda Sir y Fflint fynd â chi.
Mae ein cyfleoedd gofal cymdeithasol i blant yn cynnig amgylchedd gwaith gwych i unigolion dibynadwy, gwydn ac sy’n gallu creu amgylcheddau llawn hwyl ac sy’n ymgysylltu i’r plant sy’n aros gyda ni.
Ar draws sawl eiddo, mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu amgylchedd gofalgar a sefydlog i blant a phobl ifanc, sy’n cael ei hybu gan dîm staff ac arweinyddiaeth cryf.
Os ydych chi’n meddwl bod newid i weithio gyda ni yn ein gwasanaeth preswyl i blant yn rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i chi, ewch i weld ein cyfleoedd presennol am fwy o wybodaeth.
Mae gan Sir y Fflint un o’r gwasanaethau gofal cymdeithasol mewnol mwyaf yng Nghymru.
Gydag amrywiaeth o gartrefi gofal, cyfleusterau gofal ychwanegol, byw â chymorth, cymorth iechyd meddwl yn y cartref a’r gymuned, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl Sir y Fflint yn cael y gofal a’r gefnogaeth orau.
Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer ein staff. Mae gweithio i ni yn golygu y byddwch yn rhan o dîm agos, sy’n cael ei atgyfnerthu gan rwydwaith mawr o gydweithwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau eraill.
A yw cadw pethau’n ffres yn bwysig i chi? Mae ein hystod eang o wasanaethau yn golygu y gallwch chi gael profiadau mewn amrywiaeth o feysydd wrth barhau i weithio yn yr un sefydliad.
Ydych chi’n meddwl fod gweithio mewn amgylchedd sefydlog a chefnogol sy’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol yn gyson ar gyfer y bobl yr ydym ni’n eu cefnogi yn rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i chi? Ewch i gael golwg ar ein cyfleoedd rŵan.
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod ag amrywiaeth eang o dimau a galwedigaethau ynghyd, a phob un yn gweithio tuag at ganlyniadau gwell i unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae cyfleoedd yn ymestyn y tu hwnt i waith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gyda rolau’n darparu cyswllt cyntaf a chefnogaeth yn y gymuned, hybu annibyniaeth ac adferiad, cefnogi plant a theuluoedd a diogelu pobl rhag niwed.
Mae ein gweithlu ehangach yn cynnwys rolau arbenigol ym maes comisiynu, partneriaethau, datblygu’r gweithlu, diogelu, perfformiad ac ansawdd, gwasanaethau rheoledig a chymorth i fusnesau. Mae’r timau hyn yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau yn ddiogel, effeithiol, wedi’u cynllunio’n dda ac yn ymatebol i anghenion sy’n newid.
P’un a ydych chi’n gweithio’n uniongyrchol gyda phreswylwyr, datblygu a gwella gwasanaethau, neu ddarparu’r cymorth hanfodol sy’n eu galluogi i barhau, byddwch chi’n rhan o weithlu cysylltiedig lle mae pob rôl yn gwneud cyfraniad gwerthfawr.
Edrychwch ar ein cyfleoedd presennol a darganfod sut allai eich sgiliau wneud gwahaniaeth yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.
O’r forlin i gefn gwlad, o ymyrraeth gynnar i gymorth cymhleth, mae pob gyrfa yn Sir y Fflint yn wahanol. Mae amrywiaeth ein cymunedau, gwasanaethau a rolau yn creu cyfleoedd i gynyddu profiad, datblygu arbenigedd a chael effaith ystyrlon bob dydd. Wedi’u cyfuno ag arweinyddiaeth gefnogol, timau cydweithredol a diwylliant sy’n annog dysgu ac arloesedd, gall eich gyrfa ffynnu yn Sir y Fflint.
Bychan yw poblogaeth Sir y Fflint. Ond mae cyfleoedd gwych ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol.
