Alert Section

Cartrefi Gofal


Cefnogi Bywoliaeth Annibynol

Mae Cyngor Sir y Fflint eisiau cefnogi pobl i gadw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a gall y gwasanaethau cymdeithasol roi gwybodaeth a chyngor i chi ar sut orau i wneud hynny beth bynnag yw’ch sefyllfa ariannol.  Mae llawer o bobl yn tybio y bydd arnynt angen gofal preswyl wrth iddynt heneiddio ond, gyda chefnogaeth, hwyrach y gallant barhau i fyw gartref. Ceir sawl gwasanaeth i’ch helpu chi i gadw’ch gallu i ymdopi’n fwy annibynnol e.e. gwasanaethau ailalluogi, neu gyfarpar neu addasiadau i’ch cartref. Yn aml iawn, mae’r gwasanaethau hyn yn rhad ac am ddim a gellir mynd atynt trwy’r gwasanaethau cymdeithasol.  

Efallai byddwch hefyd eisiau ystyried Tai Gofal Ychwanegol.  Mae hwn ar gyfer pobl hŷn ac yn darparu llety â chymorth o’r radd flaenaf i helpu pobl i fyw’n annibynnol cyhyd ag sy’n bosibl.  

Cartrefi Gofal

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyhoeddi  rhestr o Cartrefi Gofal. Gweler hefyd DEWIS Cymru.

Mae gan y Cyngor dri chartref gofal y mae’n eu rhedeg:

  • Marleyfield, Nant Mawr Road, Bwcle, CH7 2BL.01244 548813
  • Croes Atti, Prince of Wales Avenue, Y Fflint,  CH6 5JU. 01352 733598.
  • Llys Gwenffrwd, Stryd Brynford, Treffynnon, CH8 7RA. 01352 713338.

Mae cartrefi gofal yng Nghymru yn cael eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal CymruMae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llyfryn cyngor o’r enw ‘Meddwl am Fynd i Gartref Gofal?’  

Efallai y gallwch gael cymorth ariannol tuag at eich gofal os cewch eich asesu gan weithiwr cymdeithasol fel rhywun sydd ag angen gofal preswyl neu nyrsio. Gweler ein taflen ffeithiau ar 'Talu am Ofal Preswyl' ac Gwybodaeth i gefnogi hunan gyllidwyr gofal cymdeithasol.

Mae cartrefi Lloegr yn cael eu cofrestru gyda’r Comisiwn Ansawdd Gofal. Mae’r safleoedd hyn yn rhestru’r holl gartrefi yn y wlad. 

Pecyn Croeso Cartref Gofal

Gall symud i gartref newydd fod yn amser pryderus. Er mwyn helpu i roi trosglwyddiad esmwyth, bydd pawb sy'n dod yn breswylydd mewn Cartref Gofal yn Sir y Fflint yn derbyn 'Pecyn Croeso'.

Nod y pecyn yw rhoi gwybodaeth i chi i'ch helpu i gael cymaint o ddewis a rheolaeth yn eich bywyd a dros eich cefnogaeth ag y bo modd. 

Bydd y pecyn yn cynnwys:

  • Gwybodaeth am eich hawliau
  • Manylion am staff y Cartref
  • Gwybodaeth am yr arferion sy'n canolbwyntio ar y person a ddefnyddir yn y Cartref, fel y 'proffil templed un dudalen'. Bydd y rhain yn eich helpu i ddweud wrth eraill beth sy'n bwysig i chi a sut orau i weithio gyda chi.
  • Manylion cyswllt gwasanaethau defnyddiol eraill i'ch helpu i aros yn hapus ac yn iach.

Mae croeso i chi lawrlwytho copi esiampl o'r Pecyn Croeso.

Os oes gennych unrhyw adborth cyffredinol i’w roi, yn gadarnhaol neu'n negyddol, cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar 01352 702672 neu e-bostiwch Contract.&.Commissioning.Team@flintshire.gov.uk