Profi’r offer
Dylech brofi eich mwclis/ larwm a wisgir am yr arddwrn o leiaf unwaith y mis er mwyn sicrhau bod y mwclis/ larwm a wisgir am yr arddwrn yn gweithio’n iawn. Mae hyn yn bwysig, oherwydd os nad yw’n cael ei brofi, efallai na fydd yn gweithio pan fyddwch angen ei ddefnyddio i ffonio am gymorth mewn argyfwng.
Dylech brofi’r larwm mwclis trwy bwyso’r botwm ar y mwclis neu’r larwm a wisgir am yr arddwrn, a fydd yn caniatáu i chi fesur cryfder barti’r mwclis. Ar ôl i chi bwyso’r botwm, arhoswch nes y bydd Gweithredwr yn ateb, a dywedwch wrthynt eich bod chi’n cynnal galwad brawf.
Os yw cryfder y batri’n isel, byddwn yn trefnu i un o’n Swyddogion Gosod ymweld â chi i ailosod y botwm. Anelwn i drefnu’r ymweliad o fewn 2 ddiwrnod gwaith oni bai bod amser arall dan sylw gennych ar gyfer apwyntiad.
Beth fydd yn digwydd os ydw i’n pwyso’r larwm mewn camgymeriad?
Peidiwch â phoeni, bydd ond angen i chi esbonio wrth y Gweithredwr eich bod chi’n iawn. Byddwn yn falch o glywed gennych a bydd eich galwad yn cael ei chofnodi fel prawf i ddangos bod eich offer yn gweithio’n iawn. Os ydych chi’n pwyso’r botwm mewn camgymeriad, arhoswch i’r alwad gysylltu ac atebwch ni. Os na fyddwch yn ateb, byddwn yn tybio ei fod yn argyfwng a bod angen cymorth arnoch chi.
Cyfrinachedd gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer darparu gwasanaeth yn unig, fel y nodir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw a’i phrosesu yn unol â Deddf GDPR 2019.
Newid mewn amgylchiadau personol
Os bydd newid mewn unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch e.e. ymatebwyr brys (deiliaid allweddi), manylion meddyg teulu, cod newydd ar gyfer blwch cadw allweddi, newid mewn gwybodaeth feddygol ac ati, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith.
Gofynnwn i chi wneud hyn trwy bwyso ar y mwclis/botwm ar yr arddwrn, a bydd modd i’r Gweithredwr newid eich manylion yn syth ar y sgrîn, er mwyn sicrhau ymateb cyflym pe baech angen cymorth. Cysylltwch â ni hefyd ar y manylion isod.
Os bydd newid o ran defnyddiwr gwasanaeth e.e. y cwsmer ddim ei angen mwyach, ond hoffai eu partner ddefnyddio’r gwasanaeth, mae angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl gyda’r enw newydd, dyddiad geni, cyflyrau meddygol a chadarnhau bod y rhestr o ymatebwyr (deiliaid allweddi) yr un fath.
Symud tŷ
Os ydych chi’n symud tŷ ac yn dymuno cadw’r mwclis/ larwm a wisgir am yr arddwrn yn eich tŷ nesaf, mae’n rhaid i chi ffonio neu e-bostio ein Gweinyddwyr Cymorth i Fusnesau gyda’ch manylion newydd. Os oes gennych system Galw Gofal, gallwch dynnu’r offer o blygiau eich llinell ffôn a’u hailgysylltu yn eich eiddo newydd. Pwyswch y botwm i’w brofi. Os nad yw’n gweithio neu os oes gennych system fwy cymhleth, cysylltwch â ni ac fe drefnwn fod Swyddog Gosod yn ymweld â chi i osod y larwm yn eich cyfeiriad newydd.
Absenoldeb o’r cartref
Os ydych yn mynd i ffwrdd e.e. ar wyliau, ffoniwch y Ganolfan Reoli trwy bwyso eich mwclis/ larwm ar yr arddwrn neu’r botwm ar yr uned larwm er mwyn rhoi gwybod i’n Gweithredwr. Sylwch ei bod hi’n bwysig iawn rhoi gwybod i ni eich bod yn ôl gartref wedi i chi ddychwelyd.
Terfynu eich contract
Os ydych chi’n dymuno canslo eich contract, dylech chi neu’ch cynrychiolydd roi gwybod i’r Gweinyddwyr Cymorth i Fusnesau cyn gynted â phosibl gyda’r rheswm dros ganslo. Dylai’r holl offer gael ei ddatgysylltu a’i ddychwelyd i’ch swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu leol. Bydd unrhyw ad-daliad sy’n daladwy i chi yn cael ei brosesu unwaith y bydd yr offer wedi’u dychwelyd.
Ni ddylid mynd â’r mwclis o’r eiddo.