Alert Section

Teleofal


Mae offer teleofal yn ystod o synwyryddion a chanfodyddion megis:

  • System larwm Intellilink
  • Canfodydd llifogydd
  • Larwm mwg
  • Botwm ymwelwyr twyllodrus / panig

Gellir cysylltu offer teleofal â gwasanaeth monitro 24 awr Llesiant Delta neu â ffôn symudol neu system rhybuddio gofalwr. Gallwn eich helpu beth bynnag fo’ch sefyllfa.

Faint yw’r gost?
Mae’r offer Teleofal ar gael i unrhyw un sy’n byw yn Sir y Fflint ac sy’n teimlo y gallai wneud gwahaniaeth i’w bywydau yn dilyn asesiad o anghenion. Gofynnir am un taliad o £25 + TAW am osod yr offer.

Os hoffech i ni gysylltu eich offer teleofal â chanolfan fonitro Llesiant Delta, codir tâl monitro o £2.20 + TAW yr wythnos.

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, anelu at gynnal annibyniaeth. Mae Ailalluogi, teleofal a chymorthyddion ac addasiadau i gyd yn enghreifftiau o wasanaethau ymyrraeth gynnar sy’n helpu i atal pobl rhag bod yn ddibynnol ar eraill yn ddi-angen a derbyn cymorth mwy dwys.

Un Pwynt Mynediad

Cyngor Sir y Fflint
Preswylfa, Hendy Road, Yr Wyddgrug, CH7 1PZ
Ffoniwch: 03000 858858
Ebost: spoa@flintshire.gov.uk