Alert Section

Adolygiad o'r Rhwydwaith Bysiau


Y Sefyllfa ar Hyn o Bryd

Mae dros 55 o lwybrau bws yn rhedeg ar draws Sir y Fflint bob dydd.  Mae’r llwybrau hyn yn cael eu rhedeg gan gwmnïau bws preifat sydd naill ai'n rhedeg gwasanaethau masnachol neu wasanaethau ar lwybrau cymorthdaledig a ariennir yn rhannol gan Gyngor Sir y Fflint. 

O dan Ddeddf Trafnidiaeth (1985) mae gan weithredwyr bysiau hawl i redeg gwasanaethau ar unrhyw lwybr a fydd yn eu tyb nhw yn ariannol hyfyw, sy'n golygu y daw costau rhedeg y gwasanaeth o’r arian a gesglir gan gwsmeriaid neu drwy ad-daliadau teithio consesiynol yn lle taliadau uniongyrchol gan y teithiwr.

Caiff llwybrau bws masnachol eu gweithredu'n llwyr gan gwmnïau bws preifat heb unrhyw fewnbwn gan yr awdurdodau lleol o ran pa ffordd y dylai’r bysiau deithio a dim cymorth ariannol, tra bod llwybrau cymorthdaledig yn cael eu hariannu’n gyfan gwbl, neu’n rhannol, gan y Cyngor.   Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau fod cludiant cyhoeddus ar gael ar gyfer y rhai hynny sy’n byw lle nad oes gwasanaeth masnachol yn rhedeg, neu ble na fyddai rhedeg gwasanaeth masnachol yn ariannol hyfyw.  Mae tua 60% o wasanaethau bws Sir y Fflint yn rhai masnachol a 40% yn gymorthdaledig.

Does dim dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau bws lleol, nac i ariannu unrhyw fath o gludiant cyhoeddus, ond mae ar yr Awdurdod ddyletswydd statudol dan Ddeddfau Trafnidiaeth 1985 a 2000 i gadw’r rhwydwaith bysiau dan adolygiad ac i ymyrryd os yw’n teimlo fod hynny’n briodol.  

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi cymhorthdal i 24 llwybr bws drwy naill ai gontractau annibynnol neu gytundebau gyda gweithredwyr masnachol er mwyn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn ariannol hyfyw, megis gwasanaethau cynnar yn y bore, gyda’r nos, drwy rai pentrefi ayyb.  Cost hyn yw £1,068,352 y flwyddyn gyda rhai siwrneiau’n cael cymhorthdal gwerth £6 fesul siwrnai teithiwr.   Nid yw hyn yn gynaliadwy, a gyda’r galwadau ar gludiant cyhoeddus yn newid, mae’n bosibl nad yw bellach yn addas i’r diben.

Llwybrau Cymhorthdal

Cynigion

Yn ganolog i gludiant yn Sir y Fflint mae’r rhwydwaith bysiau, sydd er gwaethaf gostyngiad yn y nifer sy’n ei ddefnyddio, yn ddull pwysig o gludiant cyhoeddus yn y Sir, o ran nifer y teithwyr a gludir a’r cilomedrau a deithir.  Mae bysiau’n hollbwysig o ran darparu mynediad i’r prif ganolfannau ac yn gynyddol bwysig o ran sicrhau mynediad i ardaloedd o weithgaredd economaidd, canolfannau cyflogaeth a datblygiadau newydd.  

Fodd bynnag gyda mwy a mwy o bobl yn berchen ar gerbyd, mae cynnal y lefelau presennol o wasanaeth  gyda’r bwlch sy’n bodoli rhwng costau gweithredu’r rhwydwaith a’r refeniw a godir yn achosi pwysau.   Ochr yn ochr â hyn, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol ar gyllidebau ac adnoddau ond gyda disgwyliadau a galwadau cymunedau lleol yn cynyddu.  

Yn hanesyddol, mae’r llwybrau cymorthdaledig yn Sir y Fflint wedi’u sefydlu heb unrhyw fath o gynllun, weithiau heb unrhyw wir gyfiawnhad nac achos busnes dros y cymorth.    Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gwelwyd newid yn y defnydd o dir ac mewn cyflogaeth dros y blynyddoedd, sydd yn ei dro yn golygu y gallai patrwm y galw am, a'r cyflenwad o gludiant fod wedi newid.  Yn ychwanegol, yn fwy diweddar mae gweithredwyr bysiau masnachol wedi gwneud sawl newid i'r rhwydwaith bysiau masnachol, sydd wedi effeithio ar gymunedau ac wedi creu bylchau posibl yn narpariaeth gwasanaethau.

Tra bo rhai Awdurdodau Lleol wedi rhoi’r gorau i gymorthdaliadau cludiant yn gyfan gwbl, nid ydym am wneud hynny.   Fodd bynnag, mae angen sicrhau rhwydwaith bysiau effeithiol ac integredig ar gyfer y dyfodol, ac mae’n rhaid i’r gwasanaethau fod yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy a diwallu anghenion ein preswylwyr, sydd yn newid ac angen eu blaenoriaethu'n gyson.

Mae’n angenrheidiol felly cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r rhwydwaith gan ystyried y rhwydweithiau masnachol a chymorthdaledig fel un endid er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â’r galw o ran y patrymau teithio presennol  yn ogystal â'r galw cynyddol am gludiant i ddatblygiadau newydd.  

Bydd yr adolygiad yn ystyried y rhwydwaith bysiau cymorthdaledig cyfredol a sut orau i flaenoriaethu’r cyllid cyhoeddus cyfyngedig ar gyfer y mannau y mae ei angen fwyaf a sicrhau fod darpariaeth gwasanaeth yn gyson ac yn deg ar draws y Sir.  I’r perwyl hwnnw bydd yr adolygiad yn cynnwys rhannau o’r sir lle nad oes unrhyw wasanaeth cludiant cyhoeddus ar hyn o bryd ac yn ystyried y gwasanaethau masnachol a ddarperir ar hyn o bryd i ganolfannau allweddol, gan ddynodi unrhyw alw nad yw’n cael ei fodloni ar hyn o bryd neu fannau lle bydd o bosibl alw  yn y dyfodol.

Cynhaliwyd adolygiad o’r rhwydwaith bysiau ym mis Ebrill 2015, a arweiniodd at sefydlu rhwydwaith strategol craidd o lwybrau bysiau drwy’r sir ac ar rai coridorau traws-ffiniol er mwyn cysylltu teithwyr â chyrchfannau allweddol ar gyfer mynediad i addysg, cyflogaeth, siopau, gwasanaethau iechyd a chyfleoedd cymdeithasol a hamdden. Mae’r model o wasanaeth a fabwysiadwyd yn seiliedig ar ymdriniaeth ‘rhwydwaith hierarchaidd’ gyda datblygiad  cysylltiadau o safon yr oedd y galw uchaf amdanynt i ganolfannau allweddol yn benodol. 

Ar hyn o bryd, gwasanaethir y coridorau hyn gan lwybrau masnachol a chymorthdaledig. Bwriad y Cyngor yw cadw'r llwybrau cymorthdaledig ar y coridorau hyn, ond adolygu eu defnydd, eu hamlder a'u heffeithlonrwydd.  Rhwydwaith Strategol y Gwasanaethau Bws Craidd (PDF.doc, 128 Kb, ffenestr newydd)

Bydd llwybrau cymorthdaledig nad ydynt ar y rhwydwaith craidd yn cael eu hadolygu’n llawn a bydd trefniadau cludiant cyhoeddus amgen yn cael eu hystyried.

Ar hyn o bryd mae’r awdurdod yn gweithredu gwasanaeth ‘Ffonio a Theithio’ ar gyfer unigolion sydd wedi’u cofrestru ar y cynllun. Darperir y gwasanaeth hwn ar gyfer pobl sydd angen mynychu apwyntiadau meddygol lleol. Bydd y gwasanaeth yn parhau ac yn cael ei hyrwyddo mewn ardaloedd hynny y bydd newidiadau i’r gwasanaeth bws yn effeithio arnynt.

Adolygiad Ymgynghori

Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn i roi gwybod i chi sut y gallai'r rhwydwaith presennol newid ac rydym yn gofyn eich barn ar y ffordd orau o symud ymlaen o safbwynt darpariaeth gwasanaethau cludiant yn eich ardal chi.   Hwn yw eich cyfle chi i ddweud eich dweud ac i rannu eich safbwyntiau ar sut orau i wario’r gyllideb cymhorthdal bysiau sydd ar gael.

Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn i roi gwybod i chi sut y gallai'r rhwydwaith presennol newid ac rydym yn gofyn eich barn ar y ffordd orau o symud ymlaen o safbwynt darpariaeth gwasanaethau cludiant yn eich ardal chi.   Hwn yw eich cyfle chi i ddweud eich dweud ac i rannu eich safbwyntiau ar sut orau i wario’r gyllideb cymhorthdal bysiau sydd ar gael. 

Yr Ardaloedd Daearyddol yw:

Yr Ardaloedd Daearyddol yw:
Ardal 1 - MAPArdal 2 - MAPArdal 3 - MAPArdal 4 - MAP
Canolbwynt: Treffynnon; Gwespyr  Canolbwynt: Y Fflint, Cei Connah, Queensferry Canolbwynt: Yr Wyddgrug Canolbwynt: Bwcle, Brychdyn
Yn cynnwys  Treffynnon, Bagillt, Maesglas, Mostyn, Rhewl, Penyffordd, Trelawnyd, Trelogan, Gwaenysgor Chwitffordd, Carmel, Lloc, Gorsedd, Pantasaff, Gwespyr, Axton, Gronant, Llanasa, Talacre, Ffynnongroyw, Pentre Helygain, Brynffordd, Milwr, Babell, Caerwys, Afonwen, Ysgeifiog, Licswm, Rhes-y-cae. Yn cynnwys  Fflint, Cei Connah, Gwepre, Shotton, Aston, Queensferry, Mancot, Pentre, Sandycroft, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy (PDGC), Garden City, Sealand, Pentre Catheral, Penarlâg, Ewlo, Oakenholt, Y Fflint, Mynydd y Fflint.   Yn cynnwys Yr Wyddgrug, Cilcain, Rhydymwyn, Llaneurgain, Sychdyn,  Nannerch, Pantymwyn, Gwernaffield, Gwernymynydd, Cadole, Nercwys, Treuddyn, Llanfynydd, Ffrith, Cymau, Rhydtalog, Coed-llai, ,Pontybodkin, Coed Talon, Pontblyddyn, Helygain, Rhosesmor Yn cynnwys Bwcle, Mynydd Isa, Bryn-y-Baal, Dobshill, Drury, Pentrerobin, Penymynydd, Penyffordd, Padeswood, Alltami, Ewloe Green, New Brighton, Bretton, Broughton, Saltney, Saltney Ferry, Higher Kinnerton, yr Hob,  Caergwrle

O fewn eich ardal chi rydym am i chi ystyried  y galw am gludiant cyhoeddus a pha un o’n hopsiynau arfaethedig fyddai’n siwtio anghenion eich cymuned orau.

 

Opsiynau Arfaethedig a’r Goblygiadau 
 

Opsiwn 1 - Rhoi’r gorau i gymorthdalu llwybrau bysiau yn gyfan gwbl

Byddai’r opsiwn hwn yn golygu y byddai cymhorthdal ariannol CSFf ar gyfer llwybrau bysiau yn cael ei ddileu gan adael dim ond gwasanaethau bws masnachol yn rhedeg ar lwybrau sy’n ariannol hyfyw.  Gall gweithredwyr bysiau masnachol gyflwyno, dileu neu newid eu gwasanaethau ar unrhyw adeg heb ymgynghori â'r Awdurdod Lleol drwy wneud dim mwy na rhoi 56 diwrnod o rybudd i Swyddfa'r Comisiynydd Traffig.  Nid oes gan yr Awdurdod Lleol unrhyw reolaeth dros weithrediad gwasanaethau bws masnachol a dim, neu fawr ddim mewnbwn i'r rhwydwaith cludiant masnachol.  Byddai gwasanaethau bws masnachol yn rhedeg lle bynnag y byddai’r gweithredwyr yn credu y byddai hynny’n broffidiol, ac maent yn rhydd i bennu’r llwybrau, yr amserlenni a’r prisiau y maent yn eu gweld yn addas yn ddibynnol ar y galw am y gwasanaeth.   O dan yr opsiwn hwn, ni fyddai ardaloedd gwledig a mannau llai poblog y sir, gan gynnwys rhai ystadau tai mwy, yn manteisio ar unrhyw wasanaethau bws o gwbl, ac mae’n bosibl y byddai gwasanaethau gyda'r nos ac ar ddydd Sul yn cael eu cwtogi.  Y mae hefyd oblygiadau o ran y grant cynnal refeniw (Grant Cynnal Gwasanaethau Bws (GCGB)) a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru, sy’n bodoli i atodi gwariant awdurdodau lleol.  Yn y dyfodol, o Ebrill 2019, disgwylir y bydd dyraniadau GCGB yn cael eu pennu i adlewyrchu’n rhannol wariant yr awdurdodau eu hunain ar gefnogi gwasanaethau bysiau a chludiant cymunedol, sy'n golygu pe bai awdurdod lleol yn gostwng neu'n dileu eu cymorth refeniw, y byddai'r grant yn cael ei ostwng neu ei ddileu hefyd.  Byddai gwasanaethau cludiant ysgol statudol yn parhau i gael eu darparu o dan yr opsiwn hwn.

Opsiwn 2 - Gwneud dim

Byddai’r opsiwn hwn yn golygu na fyddai unrhyw newid i’r trefniadau ar gyfer cynorthwyo’r gwasanaethau bws presennol, ond efallai y byddai angen adolygu prisiau a gwneud mân newidiadau i amserlenni er mwyn gwella dibynadwyedd a chynyddu niferoedd teithwyr.  Byddai gwasanaethau bws cymorthdaledig yn parhau i gael eu darparu ar y llwybrau presennol ar yr un amlder, ond ni fyddai'r ardaloedd hynny lle nad oes gwasanaethau'n rhedeg ar hyn o bryd yn manteisio mewn unrhyw ffordd.  Ni fyddai unrhyw gymorth amgen pe bai gweithredwyr masnachol yn newid, yn lleihau neu'n dileu eu gwasanaethau yn y dyfodol.  Yn ychwanegol, ni fyddai’r opsiwn hwn yn ystyried unrhyw newidiadau diweddar a wnaed i’r rhwydwaith masnachol neu ddatblygiadau mwy hirdymor a newidiadau i ddefnydd tir neu weithgaredd economaidd.

Opsiwn 3 - Cefnogi’r rhwydwaith bws craidd a gweithredu trefniadau teithio lleol (TTLl) amgen, cynaliadwy mewn cymunedau nad ydynt ar y rhwydwaith craidd

Byddai’r opsiwn hwn yn golygu cynnal y rhwydwaith bws craidd  ar lefel gynaliadwy drwy bartneriaethau safonol gyda gweithredwyr bysiau, a chysylltu cymunedau gyda chanolfannau ardal gan ddefnyddio cerbydau llai megis bysiau mini a fyddai’n gweithredu yn union yr un ffordd â gwasanaeth bws arferol ar hyd lwybrau penodedig gan ddilyn amserlen sefydlog. Byddai’r gwasanaeth yn rhedeg yn llai aml na gwasanaeth bws safonol a byddai angen i deithwyr addasu eu hanghenion teithio yn unol â hynny. Byddai cerbydau llai yn fwy addas ar gyfer cludiant ar hyd lonydd cul mewn ardaloedd gwledig.  Unwaith eto byddai gwasanaethau cludiant ysgolion ar gyfer disgyblion cymwys yn parhau i gael eu darparu o dan yr opsiwn hwn a byddai pasys teithio consesiynol yn cael eu derbyn ar bob gwasanaeth.

Opsiwn 4 - Cefnogi’r rhwydwaith bws craidd a darparu gwasanaeth sy’n ymateb i’r galw ar gyfer cymunedau nad ydynt ar y rhwydwaith craidd

Byddai’r opsiwn hwn yn golygu cynnal y rhwydwaith bws craidd ar lefel fforddiadwy drwy Bartneriaethau o Safon gyda gweithredwyr bws a chysylltu cymunedau nad ydynt ar y rhwydwaith craidd drwy wasanaeth tebyg i wasanaeth ‘Ffonio a Theithio', lle gellir trefnu cerbyd ymlaen llaw gyfer cludiant i brif ganolbwynt. Yn wahanol i’r trefniadau tacsi presennol, ni fyddai'n daith ar gyfer un person yn unig, yn hytrach byddai’n wasanaeth a rennir gyda theithwyr eraill, gyda'r cwsmer yn talu am y gwasanaeth. Byddai cludiant yn cael ei ddarparu pan fyddai'r cwsmer ei angen yn hytrach nag yn ôl amserlen benodedig.  Byddai gan yr ardal gyfan fynediad at y math hwn o gludiant.  Ar hyn o bryd ni ellir defnyddio pasys bysiau consesiynol ar gyfer gwasanaethau ‘Ffonio a Theithio’.

 

Y Broses Ymgynghori

Bydd eich adborth yn ein helpu ni i benderfynu ar yr opsiwn gorau ar gyfer eich ardal chi a bydd y cynigion hyn yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Cabinet y Cyngor lle bydd y penderfyniad ar gymhorthdal bysiau'r dyfodol yn cael ei benderfynu.   Tra bydd anawsterau a heriau wrth ddatblygu rhwydwaith bws cymorthdaledig newydd i ddiwallu anghenion sylfaenol trigolion, cymunedau a rhandaliad Sir y Fflint, rydym yn credu ei bod yn bosibl datblygu rhwydwaith cynaliadwy ac integredig o wasanaethau cludiant wedi’u cefnogi, gan adeiladu ar rwydwaith bysiau masnachol cryf a sefydlog gyda’r Cyngor yn blaenoriaethu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau.

Gallwch gwblhau'r arolwg drwy ddewis un o’r opsiynau canlynol:

Cynhelir digwyddiadau ‘galw heibio’ Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn y lleoliadau a ganlyn er mwyn i chi drafod yr adolygiad hwn gyda swyddog y Cyngor. Gwnewch pob ymdrech i fynychu un o’r canlynol yn eich ardal os gwelwch yn dda:

  • Canolfan Gymunedol Hawkesbury, Mills Lane, Bwcle. CH7 3HA.
    26th Ebrill 2018, 4pm – 7pm

  • Neuad Tref yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, yr Wyddgrug. CH7 1AB.
    27th Ebrill 2018, 4pm – 7pm

  • Swyddfeydd Cyngor Tref Treffynnon, Swyddfeydd Bank Place, Treffynnon. CH8 7TJ.
    2nd Mai 2018, 4pm-7pm

  • Canolfan Ddinesig Cei Connah, Wepre Drive, Cei Connah CH5 4PJ.
    3rd Mai 2018 – 4pm – 7pm

  • Neuadd Tref y Fflint, Holywell Road, y Fflint. CH6 5NW.
    10th Mai 2018, 4pm – 7pm

Amserlen yr Ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar:   Ebrill 2018 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn darfod ar:       3 Mehefin 2018

Adolygu’r adborth a  chyflwyno cynigion  ynglŷn â’r opsiwn cludiant a ffefrir ar gyfer pob ardal: Mehefin 2018

Cynigion yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Cabinet y Cyngor er ystyriaeth: Gorffennaf 2018

Unrhyw newidiadau arfaethedig yn cael eu  rhoi ar waith: 1 Hydref 2018