Graffiti
Mae gwasanaeth y Gwasanaethau Strydyn gweithio gyda’r Gwasanaeth Prawf mewn ymdrech i waredu graffiti o’r sir. Mae goruchwylwyr y Gwasanaethau Stryd, sydd allan ar batrôl yn rheolaidd, yn nodi ac yn adrodd y rhan fwyaf o graffiti. Mae croeso i’r cyhoedd gysylltu â ni er mwyn adrodd graffiti yn eu hardaloedd.
Adrodd Graffiti
Fel arall:
- Lawrlwytho Ap Sir y Fflint! – rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio’ch teclyn symudol. Gallwch ddewis rhoi gwybod am broblemau’n ddi-enw neu gallwch gofrestru. Manteision cofrestru yw y byddwch yn derbyn diweddariadau am gynnydd eich adroddiad, gallwch weld eich holl adroddiadau blaenorol a rhoi adborth.
- Defnyddiwch rif ffôn y Gwasanaethau Stryd a siaradwch ag ymgynghorydd.
- Dylai tenantiaid cyngor gysylltu â’r tîm Rheoli Ystadau i adrodd graffiti ar eich cartref.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd goruchwylwyr y Gwasanaethau Strydyn ymweld â’r lleoliad er mwyn gwirio pa fath o baent sydd wedi’i ddefnyddio, pa arwyneb y mae’r paent arno ac os yw’r graffiti yn sarhaus ai peidio. Yna, byddant yn cysylltu â Chwalwyr Graffitiy Gwasanaeth Prawf a fydd yn cael gwared ohono. Ni fyddwn yn gwaredu graffiti o eiddo preifat neu safleoedd busnes gan mai cyfrifoldeb y perchennog/meddiannwr yw hynny. Byddwn yn gwaredu graffiti o leoliadau cyhoeddus ac eiddo’r Cyngor (gan gynnwys tai cyngor).
Ein bwriad yw gwaredu pob darn graffiti rhywiol, hiliol a phersonol o fewn 6 awr ac i waredu pob math arall o graffiti o fewn 24 awr.