Alert Section

Tyllau yn y Ffordd, Diffygion ar Balmentydd neu ar y Ffyrdd

Rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd o’n holl ffyrdd wedi'u mabwysiadu ffyrdd wedi'u mabwysiadu a phalmentydd drwy gydol y flwyddyn.

Gall tyllau ffurfio yn y ffordd dros gyfnod byr o amser, gan ymddangos rhwng archwiliadau hyd yn oed, ac felly gall olygu nad yw’r Cyngor yn gwybod amdanynt.

Ni allwn atgyweirio tyllau ar ffyrdd preifat na ffyrdd heb eu mabwysiadu. 

Rhoi gwybod am dyllau yn y ffordd neu ddiffygion ar balmentydd/ ffyrdd

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am y tyllau yn y ffordd neu’r diffygion ar balmentydd/ ffyrdd, gan gynnwys: 

  • y math o ddiffyg (e.e. twll yn y ffordd, difrod i ymyl y palmant, marciau ffordd)
  • y lleoliad
  • unrhyw luniau/ fideos. 

Rhowch wybod am dyllau yn y ffordd neu ddiffygion ar balmentydd/ffyrdd

Beth fydd yn digwydd nesaf

Caiff diffygion a adroddir eu hasesu ac os ydynt yn bodloni’r meini prawf ymyrryd a nodir yn y Polisi Archwilio Priffyrdd, byddant yn cael eu hatgyweirio.

Bydd yr amser a gymerir i atgyweirio twll yn y ffordd yn seiliedig ar lefel y risg. Caiff twll yn y ffordd a allai achosi anaf neu ddamwain ei atgyweirio ar unwaith. Trefnir bod pob twll arall yn y ffordd sy’n bodloni ein meini prawf ymyrryd yn cael eu hatgyweirio.

Gwneud hawliad

Er mwyn hawlio, mae’n rhaid i chi roi manylion i ni o’r lleoliad penodol, dyddiad ac amser y ddamwain. Mae copiau o unrhyw ffotograff o’r nam a’r ardal o gwmpas yn ddefnyddiol er mwyn ein helpu i nodi’r lleoliad. Mae’n rhaid i’ch hawliad gael ei wneud yn ysgrifenedig a’i anfon i insurance@siryfflint.gov.uk, neu drwy'r post i:

Rheolwr Yswiriant
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Flint
CH7 6NA

Ar ôl i’r nam gael ei ddynodi’n bendant, bydd eich manylion, ynghyd â’n cofnodion o’r archwiliadau, gwaith cynnal a chadw, cwynion ac unrhyw ddamwain yn y lleoliad dros y 12 mis blaenorol yn cael eu hanfon at gwmni yswiriant y Sir.