Alert Section

Dysgu Cymraeg


Ydych chi’n ystyried dysgu Cymraeg? Mae miloedd o oedolion ledled Cymru’n dysgu Cymraeg, pam na ddewch chi’n un ohonyn nhw?

Mae gallu defnyddio Cymraeg yn fantais wych wrth chwilio am swyddi a bydd yn eich gwneud yn fwy amlwg, yn enwedig yn sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroi i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae galw am sgiliau Cymraeg! 

Mae ymchwil yn dangos bod gweithwyr sydd â sgiliau dwyieithog yn fwy tebygol o ennill cyflog uwch. Mae nifer o hysbysebion am swyddi'n nodi'r Gymraeg yn ddymunol neu'n hanfodol.
Bydd hyd yn oed ychydig o ddealltwriaeth o'r Gymraeg yn eich helpu i ddeall enwau, cyfarchion ac ynganiadau.

Mi gewch chi’r gorau o ddau fyd – Mae’n rhoi’r cyfle ichi brofi dau ddiwylliant gwahanol, dau fyd o brofiadau. Gall eich helpu i deimlo eich bod yn perthyn i Gymru. 

Gallwch fwynhau Radio Cymru, S4C a’r Eisteddfod, yn ogystal â nifer fawr o ddigwyddiadau lleol a chymunedol, heb offer cyfieithu nac isdeitlau.

Mae’n hogi'r meddwl – Mae buddion dirnadol i fod yn ddwyieithog - mae astudiaethau’n dangos bod y rhai sy’n meddu ar sgiliau dwyieithog yn fwy creadigol, yn fwy sionc yn feddyliol, yn medru trefnu gwybodaeth yn well a datrys problemau.

Gall dwyieithrwydd ei gwneud yn haws dysgu ieithoedd ychwanegol.

Mae pob plentyn sy'n mynd i'r ysgol yng Nghymru yn dysgu Cymraeg - drwy ddysgu Cymraeg gallwch helpu eich plant.

Mae’r Gymraeg yn tyfu – dyma un o ieithoedd y dyfodol! Rydym yn falch bod darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg newydd wedi agor yn Sir y Fflint.

Rhesymau cymdeithasol – mae’n ffordd wych o gyfarfod â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl.