Tyllu'r croen
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gwneud unrhyw rai o’r gweithgareddau tyllu croen a restrir isod gofrestru gyda ni os ydynt yn byw yn ardal Cyngor Sir Y Fflint:
- aciwbigo
- lliwio croen yn lled-barhaol
- tatwio
- tyllu cosmetig (gan gynnwys tyllu clustiau)
- electrolysis
Nod cofrestru yw rheoli gweithgareddau a allai arwain at haint.
Dim ond mewn eiddo sydd hefyd wedi’i gofrestru y gall ymarferydd cofrestredig weithredu. Mae gan Gyngor Sir Y Fflint is-ddeddfau sy’n cwmpasu’r safonau, yr offer a’r cyfleusterau a ddefnyddir mewn gweithgareddau tyllu croen.
Fe allech gael eich erlyn os:
- nad ydych wedi cofrestru
- byddwch yn gweithredu o eiddo nad yw wedi’i gofrestru
- byddwch yn torri’r is-ddeddfau
Yna gall y llys atal neu ganslo’r cofrestriad.
Mae’n bwysig eich bod yn gallu bodloni’r safonau a amlinellir yn yr is-ddeddfau.
Sut i wneud cais
I drafod eich cynlluniau ymlaen llaw, cysylltwch â ni ar 01352 703381. Gallwch lawrlwytho’r (PDF ffenestr newydd) ffurflen gais a’i llenwi.
Anfonwch ffurflenni cais sydd wedi’u lawrlwytho/argraffu i’r cyfeiriad isod:
Yr Adran iechyd a Gorfodi
Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Sir Y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir Y Fflint
CH7 6NA
Neu os yw’n well gennych, anfonwch y ffurflen mewn e-bost: health.safety@flintshire.gov.uk
Ffioedd
Y ffioedd ar gyfer 2019/2020 yw:
Person: £66
Eiddo £131