Mae rhywun yn fy aelwyd i yn dangos symptomau Covid-19. Ga i fynd i fy Nghanolfan Ailgylchu leol?
Ni ddylech ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n byw â nhw symptomau COVID-19 neu os ydi swyddog olrhain cysylltiadau wedi gofyn i chi hunan-ynysu. Arhoswch adref er mwyn hunan-ynysu. Dylai unrhyw un sydd yn arddangos symptomau archebu prawf ar unwaith, hyd yn oed os yw’r symptomau yn ysgafn. Peidiwch â gadael eich cartref nes eich bod wedi cael canlyniad eich prawf. Os byddwch chi’n cael prawf positif rhaid i chi barhau i hunan-ynysu am y nifer o ddiwrnodau sydd wedi’u nodi yng nghanllawiau’r llywodraeth.
Dylai aelwydydd sydd yn hunan-ynysu ddilyn cyngor y Llywodraeth. Dylai hancesi papur a chadachau glanhau untro gael eu rhoi mewn bag sbwriel arferol, ac yna ei roi mewn bag arall a’i glymu’n ddiogel a’i gadw ar wahân i wastraff arall am 72 awr. Ar ôl 72 awr, gallwch roi’r bagiau yn eich bin gwastraff cyffredin arfer adref (bin du) er mwyn cael ei gasglu ar eich diwrnod casglu nesaf. Ar ôl cael ei gasglu, bydd y gwastraff yma’n cael ei losgi. Peidiwch â chymryd y gwastraff yma i’r canolfannau ailgylchu.
Am ba hyd fydd y cyfyngiadau mewn lle?
Mae’r cyfyngiadau ar waith yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref er mwyn cadw pawb yn ddiogel, a byddant ar waith hyd nes y bydd cyngor ac arweiniad y Llywodraeth yn newid.
Pam ydych chi’n cyfyngu ar nifer y cerbydau i’r ganolfan ailgylchu?
Rydym yn cyfyngu ar nifer y cerbydau ar ein safleoedd er mwyn cydymffurfio â chanllawiau pellter cymdeithasol y Llywodraeth.
Mae’n rhaid i bob defnyddiwr a gweithiwr gadw pellter diogel o ddwy fetr ar wahân bob amser.
Pam fod rhaid i mi giwio i ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu?
Er mwyn cydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol mae angen cyfyngu ar nifer y defnyddwyr gwasanaeth ar y safle i lefel lle mae modd sicrhau pellter o ddwy fetr. Unwaith y mae’r nifer o gerbydau a ganiateir ar y safle, bydd system un i mewn ac un allan yn cael ei gweithredu.
Byddwch yn amyneddgar ac arhoswch yn eich car os oes rhaid i chi giwio.
Mae gweithwyr ar y safle wrth law i sicrhau bod llif y traffig yn symud a byddant yn gadael i chi wybod pryd gewch chi fynd i mewn ac allan o’r safle. Dilynwch eu cyfarwyddiadau drwy’r amser.
Mae parthau terfyn o amgylch llefydd parcio ym mhob un o’n safleoedd er mwyn sicrhau y cedwir at y canllawiau cadw pellter o 2 fetr.
Os ni all y gweithwyr gynnig cymorth, sut fydda i'n llwyddo i gario eitemau gwastraff trwm o'r cerbyd?
Rydw i angen rhywun i fy helpu i ddadlwytho fy ngherbyd. Beth wnaf fi?
Er mwyn cydymffurfio a rheoliadau pellter cymdeithasol, ni all gweithwyr helpu ymwelwyr gyda’u gwastraff.
Lle bo hynny’n bosibl, dim ond y gyrrwr ddylai ymweld â’r safle ei ph/ben ei hun. Dim ond un unigolyn caiff ddod allan o’r cerbyd, oni bai eich bod angen cymorth gydag eitem trwm, ac felly gall unigolyn arall adael y cerbyd er mwyn cynorthwyo i gario YN UNIG ac yna dychwelyd i’r cerbyd.
Os oes gennych eitemau swmpus i gael gwared arnynt, naill ai arhoswch hyd nes ein bod yn cael derbyn y rhain, neu fel arall gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus drwy ein Canolfan Gyswllt 01352 701234.
Pan fyddwch chi’n trefnu casgliad, bydd angen i chi gydymffurfio â’r gweithdrefnau canlynol:
- Peidiwch â gwneud cais am gasgliad os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n byw â nhw symptomau COVID-19 neu os ydi swyddog olrhain cysylltiadau wedi gofyn i chi hunan-ynysu.
Arhoswch adref er mwyn hunan-ynysu. Dylai unrhyw un sydd yn arddangos symptomau archebu prawf ar unwaith, hyd yn oed os yw’r symptomau yn ysgafn. Peidiwch â gadael eich cartref nes eich bod wedi cael canlyniad eich prawf. Os byddwch chi’n cael prawf positif rhaid i chi barhau i hunan-ynysu am y nifer o ddiwrnodau sydd wedi’u nodi yng nghanllawiau’r llywodraeth.
- Fe ddylid gosod yr eitemau y tu allan i’r eiddo, ond ar eich tir (e.e. yn yr ardd ffrynt/ar y dreif) o’r amser y cytunwyd ar gyfer eich casgliad.
- Ni allwn ddod i mewn i’ch cartref i gynorthwyo i baratoi neu symud eitemau.
- Bydd y man casglu ar gyfer eiddo sydd yn anodd eu cyrraedd e.e. fflatiau, yn cael ei drafod cyn i’r archeb gael ei gadarnhau.
- Gallwn wrthod casglu unrhyw eitem allai effeithio ar ddiogelwch neu iechyd ein staff casglu.
- Ein nod yw casglu eich eitemau o fewn chwe diwrnod gwaith, serch hynny fe allai gymryd yn hirach ar hyn o bryd yn sgil y cyfyngiadau presennol.
Alla i ddod a bagiau dillad ar gyfer y banc dillad?
Cewch, mae ein canolfannau ailgylchu yn derbyn tecstilau a dillad.
Alla i ddod â gwastraff gardd a DIY?
Cewch, rydym ni’n derbyn gwastraff gardd a DIY.
Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau pellter cymdeithasol, ni all gweithwyr eich helpu gyda’ch gwastraff. Lle bo hynny’n bosibl, dim ond y gyrrwr ddylai ymweld â’r safle ei ph/ben ei hun. Dim ond un unigolyn caiff ddod allan o’r cerbyd, oni bai eich bod angen cymorth gydag eitem trwm, ac felly gall unigolyn arall adael y cerbyd er mwyn cynorthwyo i gario YN UNIG ac yna dychwelyd i’r cerbyd
Dylech wahanu eich gwastraff cyn dod i’r safle er mwyn cyflymu eich ymweliad drwy’r safle.
Ydw i'n cael mynd a nwyddau gwynion i’r ganolfan ailgylchu ar yr adeg hon?
Sut ydw i’n cael gwared ar eitemau gwastraff swmpus fel dodrefn?
Er mwyn cydymffurfio a rheoliadau pellter cymdeithasol, ni all gweithwyr helpu ymwelwyr gyda’u gwastraff. Lle bo hynny’n bosibl, dim ond y gyrrwr ddylai ymweld â’r safle ei ph/ben ei hun. Dim ond un unigolyn caiff ddod allan o’r cerbyd, oni bai eich bod angen cymorth gydag eitem trwm, ac felly gall unigolyn arall adael y cerbyd er mwyn cynorthwyo i gario YN UNIG ac yna dychwelyd i’r cerbyd