Mwy o wybodaeth am ba wastraff sy'n cael ei gasglu o ymyl y ffordd.
I ddod o hyd i’ch diwrnod casglu ac i lawrlwytho calendr casgliadau, gwirio'ch diwrnod biniau
Rhowch eich bagiau a biniau allan ar ochr y ffordd erbyn 7am ar fore eich diwrnod casglu.
Mae bagiau ailgylchu a chadis bwyd ar gael i’w casglu gan Sir y Fflint yn Cysylltu a Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref. Gweld ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Bydd criwiau casglu’n casglu sbwriel sy’ncael ei gyflwyno ar ymyl y palmant mewn bin ar olwynion wedi cau yn unig. Ni fydd bagiau neu eitemau ychwanegol sydd wrth ochr y bin ar olwynion, neu finiau ar olwynion sydd wedi’u gorlenwi a bod y caead methu cau’n iawn, yn cael eu casglu. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r adran gorfodi gwastraff.
Gellir ailgylchu llawer o eitemau eraill yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref. I gael rhestr lawn o leoliadau ac eitemau a dderbynnir, 3wch i dudalen Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Mae’r cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu taladwy ar gyfer eitemau cartref ‘mawr’ megis dodrefni neu nwyddau gwynion. Darganfod mwy am gasgliadau eitemau swmpus.
Taflen Casgliadau Ymyl Palmant
Lawrlwythwch y daflen casgliadau o ymyl y ffordd isod
Taflen Casgliadau Ymyl Palmant