Alert Section

Gwastraff o Eiddo ar Rent yn Sir Y Fflint – Gwybodaeth i Landlordiaid ac Asiantau Gosod


Beth all landlord ei ddisgwyl gan Gyngor Sir y Fflint o ran gwastraff tenantiaid?


Mae casgliadau gwastraff ac ailgylchu o eiddo ar rent preswyl yn rhad ac am ddim.

Gall landlordiaid wneud cais am finiau gwastraff a bocsys ailgylchu i’w preswylwyr, boed mewn fflatiau, fflatiau un ystafell neu dai amlfeddiannaeth.

Caiff y bocsys eu darparu yn rhad ac am ddim ond byddant yn parhau i fod dan berchnogaeth Cyngor Sir y Fflint.     

Trefnu Biniau Gwastraff a Bocsys Ailgylchu


Cysylltwch â Gwasanaethau Gwastraff Gwasanaethau Stryd.

Wrth gysylltu bydd gofyn i chi nodi’r math o eiddo, ac os oes ardal bin cymunedol, unedau unigol neu lety a rennir.  Bydd y math o focsys a ddarperir yn cael ei bennu gan y mynediad sydd ar gael, y math o eiddo a’r nifer o denantiaid. 

Os yw’r eiddo yn gyfleuster ar rent sefydledig neu’n adeilad newydd, mae’n rhaid cael mynediad digonol heb rwystrau i gerbydau a chriwiau sbwriel. 

Pwysig: Gwybodaeth am Wastraff sydd ar gael i’ch Tenantiaid


Mae er budd pawb bod tenantiaid yn storio eu gwastraff yn y bocsys a ddarperir.  Mae angen i wybodaeth fod ar gael o ran beth allwn ac na allwn ei gasglu, pa focsys i’w defnyddio ar gyfer gwahanu eu gwastraff, dyddiad casglu a sut i ddelio ag eitemau gwastraff swmpus. 

I helpu gyda rhedeg casgliadau a storio gwastraff yn esmwyth, mae posteri a thaflenni gwybodaeth yn cael eu creu i Landlordiaid i helpu eu tenantiaid i ddefnyddio biniau / bocsys cymunedol neu unigol yn gywir.                                       

Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn safonol yn Sir y Fflint, fodd bynnag bydd y wybodaeth a ddarperir yn bennaf yn weledol i helpu’r rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â’r iaith.  

Eitemau Gwastraff Mwy


Mae Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus i breswylwyr sydd eisiau cael gwared ag eitemau gwastraff mwy.  Mae taliadau is ar gael i denantiaid sydd ar fudd-daliadau.  

Gall tenantiaid neu landlordiaid drefnu hyn drwy gysylltu â Gwasanaethau Stryd.
 

Cwestiynau Cyffredin 

Beth sydd angen i landlordiaid wybod am waredu gwastraff?

Cyfrifoldeb y landlord yw rhoi gwybod i denantiaid beth sy’n ofynnol ohonynt o ran cael gwared a’u gwastraff. 

Dylai landlord sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o’r cyfleusterau ar gyfer gwaredu gwastraff a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint, a sut i gael gwared ag eitemau mwy yn gyfreithlon.  Rhaid annog Ailgylchu hefyd. 

Pwy sy’n gyfrifol am waredu gwastraff y cartref ar gyfer tenantiaid?

Er mai’r tenant sydd angen gwaredu gwastraff y cartref o ddydd i ddydd, dan ei drwydded, cyfrifoldeb y landlord yw sicrhau bod biniau a dulliau gwaredu gwastraff digonol yn yr eiddo a bod y tenant yn cael gwybod sut a phryd i waredu gwastraff y cartref.  

Gorfodaeth

Ailgyflwynwyd gorfodaeth ym mis Medi 21 oherwydd cynnydd yn nifer y gwastraff a gyflwynwyd. 

Gall preswylwyr sy’n parhau i adael gwastraff ychwanegol y tu allan i’r bocsys a ddarperir, sy’n cynnwys fflatiau, fflatiau un ystafell a thai amlfeddiannaeth gael dirwy.

I helpu i reoli gwastraff tenantiaid, mae angen cyfleusterau ailgylchu mewn eiddo ar rent i helpu i wahanu gwastraff ac i osgoi sefyllfa lle mae angen gorfodaeth.  Mae’n rhaid i’r holl wastraff gael ei roi yn y biniau/ bocsys unigol neu gymunedol a ddarperir. 

Pa fath o wastraff mae landlordiaid yn gyfrifol amdano?

Gan fod y landlord yn berchen ar yr eiddo at ddibenion masnachol, mae’r gwastraff yn dod o dan y categori “gwastraff masnachol” ac nid gwastraff y cartref. 

Er enghraifft, gall gynnwys gwastraff adeiladu, dymchwel, tirlunio’r ardd yr ydych yn ei wneud eich hun neu debyg, wedi’i greu gan y landlordiaid eu hunain neu gan gontractwyr neu adeiladwyr a gomisiynwyd gan y landlord.

Pwy sy’n gyfrifol am wastraff sydd yn cael ei adael ar ôl mewn fflat neu eiddo ar rent gwag?

Nid yw gwastraff sy’n cael ei adael ar ôl gan denant blaenorol yn dod o dan y categori ar gyfer gwastraff y cartref.  Mae’n cael ei ystyried fel “gwastraff masnachol”, felly cyfrifoldeb y landlord yw cael gwared ohono. 

Beth sy’n cael ei ddiffinio fel ‘gwastraff gan Landlordiaid’? (Gwastraff Masnachol)

  • Gwastraff a gynhyrchwyd gan welliannau, atgyweiriadau neu newidiadau i’ch eiddo.
  • Gosodiadau a ffitiadau a waredwyd sydd wedi’u darparu fel rhan o delerau prydles yr eiddo.  
  • Gwastraff sy’n cael ei symud ar ran tenant yn hytrach na’n cael ei waredu gan y tenant ei hun.  
  • Gwastraff sy’n cael ei adael ar ôl i denant adael yr eiddo.  

Dan Adran 34 o’r Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990, mae gan landlordiaid sy’n rhentu eiddo rwymedigaethau cyfreithiol, sy’n cynnwys Dyletswydd Gofal i sicrhau bo’r holl wastraff sy’n codi o osod eiddo yn cael ei waredu’n gyfreithiol.  Mae methiant i gydymffurfio yn drosedd a gall arwain at erlyniad.  

Gall asiantau sy’n gweithredu ar ran landlordiaid honni cyfrifoldeb ar gyfer landlordiaid absennol.  

A all Landlordiaid fynd a gwastraff i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref?

Caiff eiddo sy’n cael ei rentu, ar gyfer preswylio neu’n fasnachol, ei ystyried fel busnes ac felly mae unrhyw wastraff sy’n cael ei gynhyrchu o ganlyniad i’r gweithgarwch busnes hwn yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff masnachol. 

Ni dderbynnir gwastraff gan landlordiaid mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Dim ond gwastraff y cartref a dderbynnir gan Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir y Fflint. Mae gwaredu neu dderbyn gwastraff masnachol (a ddiffinnir fel gwastraff Landlordiaid) yn anghyfreithlon.

Sut all landlordiaid waredu gwastraff o eiddo â thenantiaid yn gyfreithlon a chydymffurfio â’u ‘Dyletswydd Gofal’?

Mae mynd â’r gwastraff i gyfleuster trwyddedig addas fel cwmni gwaedu gwastraff cofrestredig lleol yn cyflawni eich cyfrifoldebau.  

Oes angen i Landlordiaid fod yn gludwyr gwastraff cofrestredig?

Os oes angen i chi symud gwastraff o’ch eiddo ar rent bydd angen i chi fod wedi cofrestru fel cludwr gwastraff. 

Cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Beth sydd ddim yn cael ei ddiffinio fel gwastraff gan Landlordiaid? 

  • Gwastraff a gynhyrchwyd gan y tenant yn ystod ei denantiaeth e.e. gwastraff cyffredinol (gwastraff bwyd, clytiau ac ati)
  • Ailgylchu (cynhwysyddion plastig, caniau, papurau ac ati.)
  • Gwastraff gardd hefyd os yw’n berthnasol i’r eiddo ar rent

Mae’r rhain i gyd yn gyfrifoldeb ar y tenant i’w gwaredu drwy wasanaethau casglu gwastraff domestig y Cyngor a ddarperir i bob eiddo preswyl gradd Treth y Cyngor h.y. lle mae’r tenant wedi cofrestru ac yn talu Treth y Cyngor ar gyfer yr eiddo drwy ei rent neu’n uniongyrchol i’r Cyngor.  

Sut allaf leihau fy atebolrwydd wrth ddal i gydymffurfio â fy rhwymedigaethau cyfreithiol? 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio contractwr gwastraff trwyddedig addas.  Ystyriwch ychwanegu cymal i’ch cytundeb tenantiaeth sy’n gofyn i’r eiddo gael ei glirio o’r holl wastraff ar ddiwedd y cyfnod rhent. Gall methiant i gydymffurfio arwain at godi tâl ar y tenant i symud y gwastraff. 

Fodd bynnag, bydd y Landlord wedyn yn gyfrifol am unrhyw wastraff sy’n cael ei gadw ar ôl. 

Beth os oes gennyf nifer o eiddo â thenantiaid?

Efallai y bydd yn fwy cost effeithiol i sefydlu contract gyda chwmni casglu gwastraff gan mai eich cyfrifoldeb chi yw’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan welliannau, atgyweiriadau neu newidiadau i’ch eiddo a’r holl wastraff sy’n cael ei symud ar ran y tenant. 

Nid yw Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint yn derbyn gwastraff gan landlordiaid gan ei fod yn anghyfreithlon.