1. I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol a Chlytiau, mae’n rhaid i’r unigolyn neu’r unigolion sy’n ymofyn y gwasanaeth fyw yn y cyfeiriad a ddarperir yn barhaol.
2. Nid yw’r gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol / clytiau ar gael i aelwydydd sy’n gofalu am blant neu oedolion yn ystod ymweliadau dros dro neu reolaidd. Mae hyn yn cynnwys cartrefi lle mae defnyddwyr Cynnyrch Hylendid Amsugnol neu glytiau yn ymweld â theulu neu ffrindiau, ac nad yw’r defnyddwyr yn byw yno.
3. Fel rhan o’r gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol neu glytiau, byddwn yn casglu:
- Clytiau untro a sachau clytiau
- Cynnyrch gofal anymataliaeth ee; leiners untro, padiau gwely a chadeiriau a chynfasau gwely amsugnol
- Cadachau a hancesi papur
- Menig plastig a ffedogau untro
- Colostomi / stoma a bagiau cathetr
4. Byddwn yn casglu eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol bob wythnos
5. Mae’n rhaid i Gynnyrch Hylendid Amsugnol / clytiau gael eu cyflwyno yn y bagiau oren a ddarperir, a dylid rhoi’r bagiau pinc yn y blwch oren gan gau’r caead yn dynn. Ar eich diwrnod casglu, dylid gosod y blwch lle rydych yn arfer cyflwyno eich cynwysyddion ailgylchu, ar eich diwrnod casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol / Clytiau penodedig (mae’n bosibl y bydd y diwrnod hwn yn wahanol i’ch diwrnod casglu gwastraff y cartref ac ailgylchu arferol)
6. Ni fydd Cynnyrch Hylendid Amsugnol / Clytiau’n cael eu casglu oni bai eu bod wedi cael eu rhoi yn y cynhwysydd a’r bagiau a ddarperir gan yr Awdurdod
7. Ni fyddwn yn casglu gwastraff glanweithiol neu gynnyrch hylendid benywaidd, megis tyweli hylendid, tamponau neu leiners fel rhan o’r gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol. Fe ddylech barhau i roi’r rhain yn eich bin du (gwastraff na ellir eu hailgylchu) gan sicrhau eich bod wedi cau’r bag yn dynn cyn ei waredu.
8. Os ydych yn derbyn casgliadau â chymorth, byddwn yn casglu eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol / clytiau o fewn ffiniau eich eiddo lle mae eich gwastraff cartref ac ailgylchu’n cael eu cyflwyno i gael eu casglu fel arfer.
9. Bydd eich tanysgrifiad yn para dwy flynedd o’ch diwrnod cofrestru. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich tanysgrifiad ar fin dod i ben er mwyn i chi ystyried p’un a oes arnoch chi angen parhau i dderbyn y gwasanaeth hwn. Os bydd arnoch chi angen parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd yn rhaid i chi ail-gofrestru.
10. Os nad ydych yn defnyddio’r gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol am chwe chasgliad yn olynol, byddwn yn canslo eich tanysgrifiad a bydd yn rhaid i chi ail-gofrestru. Rhowch wybod i ni os hoffech chi i ni atal eich casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol dros dro ar unrhyw bryd.
11. Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr hawl i atal neu derfynu casgliadau ar gyfer unrhyw aelwyd sydd wedi cofrestru ar gyfer casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol / clytiau yn sgil y canlynol:
- Defnyddir y gwasanaeth i waredu deunyddiau nad ydynt yn Gynnyrch Hylendid Amsugnol
- Nid yw’r cynnyrch yn cael eu bagio a’u clymu’n briodol yn y blwch
- Nid yw’r blwch yn cael ei lanhau yn rheolaidd ac mae hynny’n peri risg iechyd i’r casglwyr
- Unrhyw achos arall sy’n peri risg iechyd i’r gweithwyr, cerddwyr neu gymdogion
- Unrhyw achos o gam-drin gweithwyr casglu Cyngor Sir y Fflint