Alert Section

Ailgylchu

Mwy o wybodaeth am ailgylchu.

Dylai pob eiddo ddefnyddio’r cynwysyddion a ganlyn:

  • Bin du yn unig ar gyfer gwastraf na ellir ei ailgylchu

Gallwch gael hynny o gynwysyddion ailgylchu sydd ei angen, sef:

  • Bag arian - caniau a thuniau, poteli a thybiau plastig, cartonau cwyr
  • Bag glas - cardfwrdd, papur, papurau newydd, amlennir
  • Cadi gwastraf bwyd bach llwyd ar gyfer casglu a chadw gwastraf yn y cartref
  • Cadi gwastraf bwyd mawr gwyrdd (cadia wyr agored) ar gyfer casgliadau ymyl palmant
  • Sachau cadi gwastraf bwyd y gellir eu compostio
    • Rhaid i chi ddefnyddio’r sachau y mae modd eu compostio sydd wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer y cadi gwastraf bwyd bach; peidiwch â defnyddio bagiau plastig nac unrhyw fagiau eraill na ellir eu compostio na bagiau bioddiraddadwy.
    • Pan fydd eich cadi bwyd llwyd yn llawn, tynnwch y sach, ei glymu’n ddiogel a’i roi yn y cadi gwyrdd mawr, ac yna ei roi ar ymyl y palmant iddo gael ei gasglu. Mae handlen sy’n cloi ar y cadi hwn ac mae’n hanfodol ei defnyddio i glo’r cynhwysydd rhag denu llygod mawr. Os byddwch yn defnyddio’r bagiau i gyd, gallwch glymu un ar yr handlen ar ddiwrnod casglu a bydd ein timau’n dod a set arall i chi.
  • Gellir casglu batris o’ch cartref hefyd, rhowch nhw allan gyda’ch ailgylchu wythnosol mewn bag clir neu dwb neu gynhwysydd y mae modd ei ailgylchu sydd i’w weld yn glir i’r criw casglu.

Mae’r cynwysyddion hyn ar gael ar gais:

Yn y dyfodol, os bydd arnoch angen cynhwysyddion ailgylchu neu sachau y mae modd eu compostio, gwnewch gais ar-lein neu ewch i’ch Swyddfa Sir y Ffint yn Cysylltu leol neu’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraf y Cartref agosaf.

I gael mwy o wybodaeth am reoli eich gwastraf ac ailgylchu ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Bins-Recycling-and-Waste/Home.aspx.

Sylwer na fydd gwastraf ailgylchu wedi’i halogi yn cael ei gasglu. Mae gwybodaeth am yr hyn y gellir ei ailgylchu neu beidio ar gael yn https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Bins-Recycling-and-Waste/What-can-and-cannot-be-recycled.aspx.

I’ch atgofa beth yw gwastraf ar yr ochr

Mae angen cau caeadau biniau du yn dynn. Gwastraf ar yr ochr yw gwastraf sy’n cael ei gyfwyno ar ymyl palmant ac sy’n fwy na chynnwys y bin neu nad yw yn y cynhwysydd cywir a ddarparwyd. Enghreiftiau:

  • Sachau ychwanegol a roddir wrth ochr y bin bu.
  • Sachau ychwanegol a roddir ar dop y bin ble nad yw’r sach yn ftio y tu mewn i dop y bin.
  • Gwastraf sy’n fwy na chynnwys y bin sy’n achosi i’r caead agor.
  • Eiddo sydd ag ail fn du. Er eu bod yn y cynhwysydd cywir, dim ond un bin du all bob eiddo ei gael.

Taflen Ailgylchu

Lawrlwythwch y daflen ailgylchu isod.