Beth I'w Roi Yn Eich Bin
Gwaredu gwastraff – Coronafeirws:
Peidiwch â rhoi hancesi papur na weips/cadachau yn yr ailgylchu.Y cyngor ar gyfer cael gwared â’r gwastraff hwn yw:
- Dylid rhoi gwastraff personol (fel hancesi papur wedi’u defnyddio), cadachau glanhau untro mewn bagiau sbwriel untro yn ddiogel
- Dylid eu rhoi mewn ail fag, eu clymu’n ddiogel a’u cadw ar wahân i wastraff arall
- Dylid ei roi i un ochr am o leiaf 72 awr cyn cael ei roi yn eich bin gwastraff cartref (du) allanol arferol.
Derbynnir:
- Ffrwyth cwymp
- Pasta, reis a grawnfwyd
- Bwyd sydd wedi mynd heibio'i ddyddiad defnydd.
- Bwyd wedi llwydo a sbarion
- Esgyrn a chroen pysgod / cig
- Bagiau te a choffi mâl
- Wyau (a’u plisgyn), caws, iogwrt
- Pilion ffrwythau a llysiau
- Bara, cacennau a melysion sych
- Bwyd anifeiliaid anwes
- Braster cadarn
Gwrthodir: Hylif neu olew. Mae banciau olew ar gael yn eich tomen leol. Peidiwch ag arllwys braster/olew i lawr y draen – gall hynny flocio dreiniau/carthffosydd. Pecynnau o unrhyw fath, hyd yn oed os ydynt yn fioddiraddadwy.
Ni fyddwn yn gwagio cistiau os defnyddir bagiau plastig neu fio-fagiau na chawsant eu dosbarthu gennym ni i’w leinio nhw, oherwydd gall hynny lygru’r cynnwys. Mae bio-fagiau yn ddrud a gofynnwn i chi eu llenwi nhw cyn eu clymu.
Cais i gael mwy o fio-fagiau.
Derbynnir:
- Glaswell a dorrwyd
- Toriadu o wrychoedd
- Chwyn
- Dail
- Brigau a changhennau bach
- Blodau
- Planhigion pot
Gwrthodir: Gwastraff cegin neu gwympedig (rhowch y rhain yn eich cist gwastraff bwyd). Gwastraff, gwelltach neu blu anifeiliaid. Pridd, cerrig neu rwbel. Bagiau plastig, papur neu gardfwrdd
Derbynnir:
- Poteli gwydr a jariau (heb gaead ac wedi’u rinsio)
Gwrthodir: Pyrex, gwydrau yfed, bylbiau golau, darnau o wydr, platwydr (cwareli ffenestr), tuniau a chaniau, poteli plastig.
Derbynnir:
- Papurau newydd
- Catalogau
- Papur swyddfa
- Llythyrau / post sothach (heb y cyfeiriad a’r ffenestr blastig)
- Carpion papur (mewn bagiau ar wahân)
- Amlenni
- Cyfeirlyfrau / Yellow Pages
- Cylchgronnau/ llyfrynnau
- Blychau (wedi’u gwasgu)
- Cardiau cyfarch (heb dâp/plastig/llwch llachar)
- Blychau wyau
Gwrthodir: cartonau diod/pecynnau Tetra, blychau Pringles a Twiglets, cardiau cyfarch â llwch llachar neu atodiadau eraill, ffotograffau, papur lapio ffoil, clingffilm etc.
Derbynnir:
- Caniau diod
- Tuniau bwyd
- Caniau bwyd anifeiliaid anwes
- Caniau erosol (heb y caeadau plastig a'r botymau)
- Caeadau metel
- Tuniau bisgedi / fferins etc.
- Ffoil alwminiwn (dim gwastraff bwyd/saim)
Gwrthodir: ffoil coginio / clingffilm, cynwysyddion bwyd parod / dysglau pastai, tuniau paent etc.
**Diweddariad Chwefror 2018** Gallwch roi poteli, hambyrddau a photiau plastig cartonau diod, caniau a thuniau mewn un bag ailgylchu. Defnyddiwch eich bag tuniau / plastig presennol nes y bydd angen un newydd arnoch.
Derbynnir: - Poteli plastig, heb gaead, wedi’u rinsio a’u gwasgu -
- Dŵr
- Llaeth
- Diodydd
- Siampŵ
- Gel cawod
- Hylif golchi llestri
- Cannydd
- Hylif glanhau etc
- Pecynnau Margarîn
- Potiau Iogwrt / Nwdls
- Cynwysyddion Bwyd
- Pacedi Ffrwythau
- Cartonau Bwyd a Diod cwyr; cartonau sudd, cartonau cwstard ac ati
Gwrthodir – Polystyren, clingffilm, pecynnau creision, potiau planhigion, cynwysyddion du etc.
**Diweddariad Chwefror 2018** Gallwch roi poteli, hambyrddau a photiau plastig cartonau diod, caniau a thuniau mewn un bag ailgylchu. Defnyddiwch eich bag tuniau / plastig presennol nes y bydd angen un newydd arnoch.
Derbynnir:
- Sbwriel na ellir ei ailgylchu sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
- I atal sbwriel rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, cofiwch ailgylchu cymaint â phosibl
Gwrthodir:
- Gwastraff o’r ardd
- Gwastraff bwyd
- Eitemau DIY – paent, tuniau paent, cerrig, graean, rwbel, gwastraff adeiladwyr, teils
- Gwastraff clinigol - gwastraff meddygol, nodwyddau
- Cyrff anifeiliaid anwes
- Olew coginio
- Olew car
- Eitemau trydanol
- Gwastraff busnes
- Gwastraff peryglus (toddyddion, cemegolion, paent, olew cerbydau, batris, tiwbiau fflworolau, bylbiau golau sy’n cynnwys mercwri, gwenwyn, abwyd)
- Asbestos