Alert Section

Digwyddiadau


Wythnos Hinsawdd Cymru 2025

Eleni, rhwng 3 a 7 Tachwedd, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymgysylltu ag ysgolion i arwain dysgwyr ar siwrnai i ddeall beth mae Newid Hinsawdd yn ei olygu a dysgu am yr effeithiau a’r cyfleoedd mewn bywyd bob dydd.

Rhennir yr wythnos yn ôl pum thema yn ymwneud â Newid Hinsawdd, a bydd gan bob thema weithgareddau i’w cwblhau yn y dosbarth neu gartref er mwyn arwain dysgwyr ar siwrnai hinsawdd i wella eu dealltwriaeth a’u hannog i weithredu. 

Newid Hinsawdd

Deall Newid Hinsawdd yw’r cam cyntaf tuag at fynd i’r afael â’r broblem, ac mae’r deunyddiau yn yr adran hon yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer deall beth sy’n digwydd i’n planed a beth sydd angen i ni ei wneud.  Gyda’r deunyddiau hyn, gallwch gynnal arbrawf nwyon tŷ gwydr a gweithgaredd sero net yn yr ysgol, a dysgu sut i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd gartref drwy’r ap WWF.

Newid Hinsawdd - Cynllun Gwers a Gweithgaredd Chwarae

Newid Hinsawdd - Nodiadau Rhieni a Gofalwyr

Newid Hinsawdd - Nodiadau Athrawon

Ynni

Mae’r ffordd yr ydym yn defnyddio ynni yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â’r allyriadau nwyon tŷ gwydr y mae pobl yn eu creu.  Bydd y gweithgareddau yn yr adran hon yn helpu dysgwyr i ddeall beth yw ynni, tanwyddau ffosil, sut caiff ynni ei gynhyrchu yn y DU, a’r camau y gall ysgolion eu cymryd i leihau’r galw am ynni a’r costau cysylltiedig. 

Ynni - Cynllun Gwers a Gweithgaredd Chwarae

Ynni - Nodiadau Rieni a Gofalwyr

Ynni - Nodiadau i Athrawon

Symudedd a Chludiant

Cludiant yw ffynhonnell allyriadau nwyon tŷ gwydr mwyaf y DU sy’n cael effaith ar ansawdd yr aer.  Mewn cydweithrediad â Wheel Cycle Trust Cymru, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu dysgwyr i drafod y traffig y tu allan i’w hysgol, gweithredu i fynd i’r afael â phroblemau, a chanfod tystiolaeth o lygredd aer.

Yn ogystal â hynny, gall dysgwyr hefyd ddysgu am y llwybrau Hawliau Tramwy yn eu cymunedau, i’w helpu i archwilio eu hardaloedd a chanfod ffyrdd o deithio i’r ysgol.  

Cludiant - Cynllun Gwers a Gweithgaredd Chwarae

Cludiant - Nodiadau Rieni a Gofalwyr

Arolwg Cyfrif Traffig

Gwastraff ac Ailgylchu

Mae gwastraff yn wastraffus, ac mae arnom ni angen gwneud mwy i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ein gwastraff i greu adnoddau newydd.

Bydd y deunyddiau yn yr adran hon yn helpu ysgolion a chartrefi i nodi eu gwastraff, trefnu’r pethau y gellir ac na ellir eu hailgylchu, ac ystyried yr arferion sydd eu hangen arnom er mwyn bod yn fwy cynaliadwy ac yn llai gwastraffus.

Yn ogystal â hynny, mae gan NEWydd raglen 3 wythnos o’r enw ‘Bwyta Mwy, Gwastraffu Llai’, lle mae ysgolion yn pwyso eu gwastraff bwyd, codi ymwybyddiaeth i leihau gwastraff, a monitro cynnydd.  

Ailgylchu - Cynllun Gwers

Ailgylchu - Cynllun Gwers a Gweithgaredd Chwarae

Ailgylchu - Nodiadau Rieni a Gofalwyr

Ailgylchu - Nodiadau i Athrawon

Bioamrywiaeth

Ni ellir mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd heb natur, ac mae ar natur angen i ni weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r newid hinsawdd.  Beth am ddysgu mwy am fioamrywiaeth, pam ei fod yn bwysig, ac archwilio gofod awyr agored yr ysgol i nodi ffyrdd newydd i helpu bywyd gwyllt lleol.   

Bioamrywiaeth - Cynllun Gweithgareddau

Bioamrywiaeth - Cynllun Gwers

Bioamrywiaeth - Nodiadau Rieni a Gofalwyr

Bioamrywiaeth - Nodiadau i Athrawon