Alert Section

Ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg i Blant 2 Oed

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Gofal Plant wedi'i ariannu i blant 2 oed yn Sir y Fflint

O ddydd Llun 15 Ebrill 2024, bydd gofal plant Dechrau'n Deg wedi’i ariannu i blant 2 oed yn cael ei ymestyn i ddwy ardal newydd yn Sir y Fflint - De Brychdyn 1 a Gogledd Ddwyrain Brychdyn.

Os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd cod post Dechrau’n Deg wedi’i ehangu isod, gall eich plentyn fod yn gymwys am le gofal plant wedi’i ariannu o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 2 oed hyd at ddiwedd y tymor maent yn troi’n 3 oed mewn lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru â Dechrau’n Deg. Gwiriwch eich cymhwysedd gan ddefnyddio’r gwirydd cod post isod.

Mae gan blant yr hawl i 12.5 awr yr wythnos (sesiwn 2.5 awr y diwrnod, hyd at 5 diwrnod yr wythnos) yn ystod y tymor yn unig.  Gall fod amgylchiadau lle byddwch eisiau llai na 5 diwrnod, a/neu efallai y byddwch eisiau addasu’r sesiynau. Gallwch drafod hyn gyda’r darparwr rydych wedi ei ddewis a’r Tîm Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau’r ffordd orau o fodloni anghenion y plentyn.

Mae presenoldeb rhan-amser rheolaidd mewn lleoliad gofal plant o safon uchel wedi profi i wella canlyniadau ar gyfer plant yn sylweddol.  Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, rydym yn eich annog i gymryd eich lle gofal plant er mwyn helpu a chefnogi eich plentyn.

Yr Ardaloedd Ehangu Newydd

Gwirio cymhwysedd a gwneud cais

Bydd arnoch angen copi o:

  • Dystysgrif geni neu basbort eich plentyn, llythyr budd-dal plant neu lythyr cadarnhad gan feddyg fel tystiolaeth o ddyddiad geni eich plentyn (dim ond 1 o’r rhain sydd ei angen)
  • Llythyr Treth y Cyngor neu fil cyfleustod fel tystiolaeth o breswyliad

Dychwelwch y ffurflen at:

  • Ceisiadaudechraundeg@siryfflint.gov.uk; neu
  • Ceisiadau Gofal Plant Dechrau’n Deg
    Canolfan Westwood,
    Stryd Tabernacl,
    Bwcle
    CH7 2JT

Os nad ydych yn byw mewn ardal ehangu, fe all eich plentyn gael cymorth o hyd. Fe allwch gael rhagor o wybodaeth gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Cwestiynau Cyffredin 

Sut mae'r ardaloedd wedi'u dewis?

Mae Awdurdodau Lleol yn targedu ehangiad tuag at gymunedau nad ydynt eisoes yn rhan o’r rhaglen Dechrau’n Deg. Darllenwch pryd all eich plentyn fod yn gymwys ar gyfer cyllid ar llyw.cymru.

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau mewn gofal plant?

Mae cyllid ar gael o'r tymor ar ôl eu hail ben-blwydd i'r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. 

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau mewn gofal plant?
Mae fy mhlentyn yn cael ei ben-blwydd yn ddwy oed rhwngy cyfnod mae cyllid ar gyfer gofal plant yn dechrau
1 Medi - 31 Rhagfyr Ionawr
1 Ionawr – 31 Mawrth Ebrill
1 Ebrill – 31 Awst Medi

Sawl awr y mae gan fy mhlentyn hawl iddo?

2.5 awr y dydd, 12.5 awr yr wythnos, ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig hyd at 39 wythnos y flwyddyn.  

Gweld dyddiadau tymor Sir y Fflint

A oes unrhyw gost i mi?

Na, mae Dechrau'n Deg / Llywodraeth Cymru yn talu am y sesiynau gofal plant

Ble gall fy mhlentyn fynychu?

Mae cyllid ar gael i ddarparwr cofrestredig Dechrau’n Deg, gall fod yn warchodwr plant, cylch meithrin, meithrinfa ddydd breifat neu gylch chwarae. 

A all fy mhlentyn fynd i leoliad Cymraeg?

Gallent, mae nifer o gylchoedd yn Sir y Fflint. Darllenwch i Buddion Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg.

Beth mae’n ei olygu i fod yn lleoliad cofrestredig Dechrau’n Deg?

Rhaid i leoliad Dechrau'n Deg fod o ansawdd uchel. Mae hyn yn golygu eu bod wedi’u cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru a:

  • Bod â staff profiadol a chymwys iawn
  • Yn cael ymweliad a chefnogaeth gan Athro Ymgynghorol
  • Darparu amgylchedd gofalgar ac ysgogol

Beth ydi manteision fy mhlentyn yn mynychu gofal plant?

Bydd eich plentyn yn cael cyfleoedd i:

  • Chwarae gyda phlant eraill
  • Datblygu eu sgiliau mewn llawer o wahanol feysydd
  • Chwarae yn yr awyr agored
  • Dod yn ddysgwyr annibynnol
  • Siarad a chlywed Cymraeg
  • Cael eu hanghenion unigol eu hunain wedi’u diwallu
  • Cael hwyl!

Beth os ydw i’n gweithio, ydw i’n dal yn gallu hawlio?

Ydych, prif amcanion ehangu gofal plant Dechrau’n Deg ydi sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posib’, mynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd a chynyddu darpariaeth gwasanaethau gofal plant a chynyddu nifer y lleoliadau gofal plant Cymraeg. Ond gall darparu lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu i blant dwy oed hefyd alluogi rhieni i fynd i weithio neu fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant neu addysg na fyddai modd iddynt wneud hynny fel arall.   Yn ogystal, gall y ddarpariaeth hon gwrdd â rhywfaint o gostau gofal plant y rheiny sy’n gweithio llawn amser os ydi’r plant yn mynd i leoliad sydd wedi cofrestru â Dechrau'n Deg. 

Lleoliadau Gofal Plant Cofrestredig

Lleoliadau Gofal Plant Cofrestredig
ArdalEnwRhif Ffôn
Alltami CAROLINE AINDOW (Gwarchodwr Plant) 07917 770903
Bagillt HOLYWELL CHILDCARE LTD 01352 713929
Brychdyn S4YC @ ROCKING HORSE DAY NURSERY 07946 062750
SARA’S LITTLE EXPLORERS (Gwarchodwr Plant) 07516 316509
Bwcle CATHY MORRIS CHILDMINDING SERVICES 01244 540398 / 07759 817242
EMMA’S CHILDMINDING 07483 824658
FIRST STEPS DAY NURSERY 01244 547990
LITTLE PEOPLE’S CHILDMINDER 01244 548625 / 07988 634916
OAKTREE CHILDREN’S CENTRE 01244 550839
PENGUIN DAYCARE 07955 114184
SHELLY IACURTI (Gwarchodwr Plant) 07590 631490
SONIA’S LITTLE STARS (Gwarchodwr Plant) 07851 236179
Cei Connah CABAN CAE’RNANT 07542 627488
JIGSAW PLAYGROUP 01244 830080
KELSTERTON PLAYGROUP 07590 288566
SIAN’S CHILDMINDING SERVICES 07766 750543
SQUIB & SQUIDGE CHILDMINDING 07831 803031
TOYBOX DAY NURSERY 01978 267159
Coed-llai LEESWOOD UNDER FIVES PLAYGROUP 07851 975198
Ewlo BUSY BEES DAY NURSERY 01244 537787
Garden City GARDEN CITY CHILDCARE 07775 221449
LITTLE ANGELS (Gwarchodwr Plant) 01244 470165
Gwernaffield SUNBEAMS PLAYGROUP 07593 233467
Maes Glas GREENFIELD PLAYGROUP 07543 185504
Mancot SANDYCROFT FLYING START PLAYGROUP 01244 538624 / 07572 008213
Mynydd Isa KATE’S DAY NURSERY 01352 751195
Penarlag KINGFISHER HOUSE DAY NURSERY 01244 530198
Pen-y-ffordd CYLCH MEITHRIN YSGOL MORNANT 07510 441119
PEN-Y-FFORDD AND FFYNNONGROYW PLAYGROUP 07984 047318
Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy LITTLE STARS DEESIDE LTD 01244 280020
Saltney Ferry SALTNEY SMALLSTEPS PLAYGROUP 07510 304962
Shotton CLAIRE’S CHILDCARE (Gwarchodwr Plant) 07837 050987
CYLCH MEITHRIN SHOTTON 07932 025674
JOANNE BROOMFIELD (Gwarchodwr Plant) 07855 462799
LI’L ANGELS DAY NURSERY 01244 811880
Shotton Uchaf THE CROFT PLAYGROUP 07946 318902
Treffynnon DECHRAU’N DEG TREFFYNNON 07484 905714
ROOTS AND WINGSCHILD DAY CARE LTD 01352 748964/ 07955 125778
ST WINEFRIDE’S PLAYGROUP 07938 061871
THE FUN CLUB, YSGOL MAES Y FELIN 07871 068462
Treuddyn CHEEKY RASCALZ CHILDCARE (Gwarchodwr Plant) 07738 285407
CYLCH MEITHRIN TERRIG 01352 770235
TREUDDYN UNDER 5’S PLAYGROUP 07932 539944
Y Fflint BUSY BEES PLAYGROUP 07534 320847
CYLCH CHWARAE CYMRAEG Y FFLINT 07950 716432
TEDDY BEAR TOWERS DAY NURSERY 01352 763089
THE OAKS DAY NURSERY 01352 761598
Yr Wyddgrug BRYN COCH CLUB 07766 152085
BRYN GWALIA EARLY YEARS PLAYGROUP 07752 217212
BUTTERCUPS DAY NURSERY LTD 01352 751267
CYLCH MEITHRIN GLANRAFON 07548 217315
RISE AND SHINE DAY NURSERY 01352 756432
ST DAVID'S PLAYGROUP & NURSERY PLUS 07766 627615

Hysbysiad Preifatrwydd Gofal Plant Dechrau’n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn ariannu darpariaeth gofal plant i blant 2 flwydd oed o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed, tan ddiwedd y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.  Bydd data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at ddibenion penodol o weinyddu, monitro a rheoli Gofal Plant Dechrau’n Deg.  Gall ‘data personol’ ymwneud â’r rhiant/rhieni neu blant/plentyn. Mae angen prosesu eich data personol fel rhan o’n Tasg Gyhoeddus a ddiffiniwyd gan Lywodraeth Cymru a budd sylweddol y cyhoedd er mwyn cyflwyno rhaglen Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn Sir y Fflint.

Mae’n rhaid i Ddechrau’n Deg a’r lleoliad gofal plant rydych wedi’i ddewis rannu data personol, a fydd yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol i ddarparu’r rhaglen yn unig. 

Mae Tîm Gofal Plant Dechrau'n deg yn cefnogi darpariaeth gofal plant ar gyfer plant sy’n cael eu hariannu drwy Dechrau’n Deg, ac er mwyn gwneud hyn, fe all rannu gwybodaeth berthnasol am blant sydd wedi’u cofrestru/ariannu, yn cynnwys eu presenoldeb mewn lleoliadau a/neu eu datblygiad gyda gwasanaethau eraill megis:

  • Ymwelwyr Iechyd
  • Cyfle Cynnar
  • Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd
  • Cynhwysiant
  • Seicoleg
  • Staff ysgolion Sir y Fflint
  • Gwasanaeth Cefnogi Synhwyrau Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Gwasanaeth Iaith a Lleferydd
  • Tîm Datblygu Cyn Ysgol Sir y Fflint

Pan fo angen, ac er mwyn cefnogi dysgu a lles eich plentyn, fe all Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg hefyd rannu gwybodaeth sydd wedi’i gasglu gan y gwasanaethau uchod gyda’r lleoliad gofal plant y mae’ch plentyn yn ei fynychu.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data nes pen blwydd eich plentyn yn 4 oed ac am gyfnod o 6 blynedd ar ôl y dyddiad hwnnw. Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.  I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch eu hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx