Mae blwyddyn ysgol plentyn yn dibynnu ar ei oedran.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid eich bod chi wedi cofrestru’ch plentyn mewn ysgol erbyn y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn 5 oed, oni bai eich bod wedi dewis addysgu gartref.
Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae’n amser perffaith i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.
Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.
Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg