Mae Allwedd Radar, a elwir hefyd yn allwedd Cynllun Allwedd Cenedlaethol, yn allwedd lliw glas ac arian sy'n agor mwy na 10,000 o doiledau i bobl anabl ar draws y DU.
Gellir rhoi allweddi radar i breswylwyr sydd wedi eu cofrestru yn anabl, neu sy’n ei chael yn anodd defnyddio’r cyfleusterau. I wneud cais, cyflwynwch ymholiad neu ewch i un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.
Sut i ddod o hyd i leoliadau toiledau allwedd radar yn y DU
Gallwch ddod o hyd i doiledau hygyrch sydd angen allwedd radar mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys gorsafoedd trên, canolfannau siopa, caffis, meysydd awyr ac archfarchnadoedd.
Dewch o hyd i leoliadau toiledau allwedd radar yn agos i chi trwy ddefnyddio’r ‘Great British Public Toilet Map’. Ewch i’r hidlydd ar ochr chwith y dudalen a nodwch ‘Radar Key’.