Alert Section

Cadw'n iach


Gall eich Cyngor gynnig cyngor a chymorth ynghylch eich iechyd - o ddelio â phroblemau alcohol a chyffuriau i ddelio â salwch meddwl neu anabledd. Yma cewch ddysgu am yr holl wasasnaethau sydd ar gael a chewch hyd i ddolenni at gyrff eraill sy'n rhoi cyngor ynghylch byw'n iach waeth beth fo'ch oed. 

Mewn argyfwng, mae tîm ar gael 24 awr y dydd i'ch helpu gydag unrhyw broblem, o amddiffyn plant i bobl oedrannus sydd mewn perygl: 0345 0533116

I gael cyngor ynghylch byw’n iach neu ofalu am eich iechyd o Her Iechyd Cymru.


Bydd Dewis Doeth yn eich helpu i benderfynu a oes angen sylw meddygol arnoch pan fyddwch yn sâl.

Mae  Bydd Dewis Doeth esbonio beth mae pob un o wasanaethau'r GIG yn ei wneud, a phryd y dylid eu defnyddio.  Bydd dewis yn ddoeth yn golygu y cewch chi a'ch teulu y driniaeth orau.  Mae hefyd yn caniatáu i wasanaethau prysuraf y GIG helpu'r bobl hynny sydd eu hangen fwyaf. Os nad ydych chi’n gwybod pa un i’w ddewis, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47


Cadwch yn Egnïol

Mae angen i blant wneud o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd sy’n gwneud i’w calonnau guro’n gyflymach na’r arfer. Nid oes rhaid gwneud y gweithgarwch hwn i gyd ar yr un pryd, a bydd yn llosgi egni ac yn atal braster dros ben rhag cael ei storio yn y corff. Mae hefyd yn helpu cyhyrau ac esgyrn ifanc i dyfu’n iawn. Nid oes rhaid gwneud y gweithgarwch hwn i gyd ar yr un pryd, a bydd yn llosgi egni ac yn atal braster dros ben rhag cael ei storio yn y corff. Mae hefyd yn helpu cyhyrau ac esgyrn ifanc i dyfu’n iawn. I oedolion, mae bod yn egnïol yn golygu cynyddu cyfradd curiadau’r galon, teimlo'n gynhesach a gwneud i’ch ysgyfaint weithio’n galetach am 150 munud yr wythnos.

I gael gwybodaeth ynglŷn â gweithgareddau hamdden yn Sir y Fflint ewch i'n hadran Hamdden a Thwristiaeth


Bwyta’n Iach

I gael diet iach a chytbwys, ceisiwch fwyta pum darn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae ymchwil yn dangos y gall bwyta o leiaf 400g o ffrwythau a llysiau bob dydd leihau eich risg o broblemau iechyd difrifol fel clefyd y galon, strôc, diabetes math 2, a gordewdra. I gael rhagor o gymorth rhowch gynnig ar y cynllunydd prydau 5 y dydd ewch i safle’r GIG.


Yfed Llai o Alcohol

Gall yfed mwy na'r symiau a argymhellir yn ddyddiol (RDA) arwain at broblemau iechyd hirdymor, gan gynnwys cancr, strôc, a thrawiad ar y galon.

  • Yr RDA ar gyfer merched yw dim mwy na 2-3 uned y dydd.
  • Yr RDA ar gyfer dynion yw dim mwy na 3-4 uned y dydd.

Os ydych chi’n yfed bob dydd, ceisiwch gael o leiaf dau ddiwrnod di-alcohol bob wythnos.


Rhoi’r gorau i ysmygu

Meddwl am roi’r gorau i ysmygu? Dyma dri rheswm da iawn dros wneud:

  1. Er mwyn eich iechyd chi - Mae rhoi’r gorau i ysmygu’n gallu cael effaith fawr ar eich iechyd a’ch ffordd o fyw. Bydd eich gallu i flasu’n dychwelyd a byddwch yn mwynhau blas bwyd yn fwy. Bydd eich anadlu a’ch ffitrwydd cyffredinol yn gwella. Bydd ymddangosiad eich croen a’ch dannedd yn gwella.
  2. Er mwyn iechyd eich teulu - Gall mwg ail-law niweidio plant yn enwedig, gan fod eu llwybrau anadlu, eu hysgyfaint a’u systemau imiwnedd yn llai datblygedig. Y ffordd orau i’ch amddiffyn chi a’ch teulu yw gwneud eich tŷ a’ch cartref yn ddi-fwg.
  3. Er mwyn arbed arian - Bydd rhoi'r gorau i ysmygu yn sicr yn arbed arian i chi. Os ydych chi'n ysmygu ac eisiau rhoi'r gorau iddi, ble gallwch chi gael help?

Dim Smygu Cymru – Gwasanaeth am ddim gan y GIG yw Dim Smygu Cymru er mwyn helpu i bobl roi’r gorau i ysmygu. Ewch i www.dimsmygucymru.com neu galwch 0800 085 2219 i archebu sesiwn yn eich ardal leol.

Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu o’r Fferyllfa – Mae nifer o fferyllfeydd yn Sir y Fflint yn cynnig Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu 12-wythnos AM DDIM. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys asesu, darparu a monitro therapi priodol er mwyn rhoi’r gorau i ysmygu. I ganfod y fferyllfa agosaf sy’n cynnig Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu, defnyddiwch gyfleuster chwilio am wasanaethau lleol Galw Iechyd Cymru.


Edrych ar ôl eich Lles Meddyliol

Mae edrych ar ôl eich lles meddyliol yr un mor bwysig ag edrych ar ôl eich iechyd corfforol.

Dyma rai awgrymiadau syml sydd wedi eu hymchwilio a’u datblygu gan y Sefydliad Economeg Newydd ynglŷn â sut i edrych ar ôl eich lles meddyliol chi.

  • Sylwch
    Mae atgoffa eich hun i ‘sylwi’ yn gallu cryfhau a lledaenu ymwybyddiaeth a gwella eich lles meddyliol. Arafwch... gwerthfawrogwch... ceisiwch gydnabod eich talentau chi a rhai pobl eraill
  • Cysylltwch
    Mae perthnasoedd cymdeithasol yn hollbwysig wrth hyrwyddo lles. Ewch i gwrdd......ymunwch...ffoniwch ffrind... gwrandewch
  • Byddwch Egnïol
    Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd wedi’i gysylltu â chyfraddau is o iselder a gorbryder ym mhob grŵp oedran. Codwch a rhowch gynnig arni... cerddwch, rhedwch, beiciwch, dawnsiwch, garddiwch, canwch
  • Parhewch i ddysgu 
    Mae parhau i ddysgu drwy'ch bywyd yn hyrwyddo hunan-barch ac yn annog rhyngweithio cymdeithasol a bywyd mwy egnïol. Ceisiwch rywbeth newydd... rhowch gynnig arni... ggofynnwch sut, pryd, ble, pam
  • Rhowch 
    Mae ymchwil wedi dangos bod unigolion sy’n mynegi eu bod yn hoffi helpu eraill yn fwy tebygol o ystyried eu hunain yn hapus. Rhannwch yr hyn sydd gennych... gwenwch ar eraill... gwirfoddolwch.

Am gyngor ynglŷn â lle i gael gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl, ymwelwch â http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Social-Services/Mental-Health-Welsh.aspx


Dolenni Defnyddiol

Mind - Gogledd Ddwyrain Cymru
C.A.L.L Mental Health Helpline for Wales
Cruse Bereavement Care 
The Samaritans
PAPYRUS Prevention of Young Suicide
Childline
National Centre for Mental Health
Mental Health Foundation