Y Gymraeg yn Sir y Fflint
Rydym yn falch o’n diwylliant a’n treftadaeth ieithyddol; mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd lleiafrifol cryfaf Ewrop a chredir mai hi yw’r iaith hynaf yn Ewrop heddiw. Nododd Cyfrifiad 2011 bod 19% o’r boblogaeth Gymreig dros dair oed yn dweud eu bod yn medru siarad yr iaith.
Mae’r Gymraeg yn iaith fywiog a gellir ei chlywed yn y gweithle, mewn ysgolion, siopau, caffis a thafarndai. Mae gan Gymru ei sianel deledu Gymraeg ei hun - S4C, a gorsaf radio Gymraeg BBC Radio Cymru.
Fel awdurdod lleol, rydym yn cydnabod bod cyfrifoldeb a dyletswydd arnom fel arweinydd cymunedau i hybu, cefnogi a diogelu’r Gymraeg er budd cenedlaethau heddiw a rhai’r dyfodol.
Mae’r Cyngor yn credu bod parchu ac ateb anghenion a dewisiadau ieithyddol ei gwsmeriaid yn ganolog i ofal cwsmer da ac effeithiol. Rydym yn buddsoddi’n barhaus mewn datblygu gweithwyr i sicrhau eu bod nhw’n datblygu ac yn defnyddio sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Y Gymraeg a diwylliant Cymreig
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw gŵyl genedlaethol Cymru. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod a diwylliant Cymreig.
Sir y Fflint
|
Cymru
|
2001
Cyfrifiad
|
2011 Cyfrifiad
|
2001 Cyfrifiad
|
2011 Cyfrifiad
|
%
|
No.
|
%
|
%
|
%
|
Pawb dros 3+
|
-
|
146,940
|
-
|
-
|
-
|
Yn gwybod dim Cymraeg
|
78.6%
|
116,736
|
79.4%
|
71.6%
|
73.3%
|
Yn deall Cymraeg llafar yn unig
|
4.4%
|
7,503
|
5.1%
|
4.9%
|
5.3%
|
Yr holl siaradwyr Cymraeg
|
14.4%
|
19,343
|
13.2%
|
20.5%
|
19.0%
|
Siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg
|
10.9%
|
13,650
|
9.3%
|
16.3%
|
14.6%
|