Alert Section

Casglu Biniau Fethwyd


Mi fydd digwyddiadau a fydd yn tarfu ar y gwasanaeth, e.e. tywydd gwael/prinder tanwydd, yn cael ei gyfathrebu ar ein gwefan. 

Casgliad a fethwyd - Cyn cysylltu â ni, gwnewch yn siŵr eich bod wedi:

Os nad ydych wedi gwneud unrhyw un o’r uchod, ni allwch gofnodi nad yw’ch gwastraff wedi’i gasglu.  Fel arfer, bydd y criw’n gadael nodyn yn esbonio’r rheswm dros beidio â chasglu’ch gwastraff ac yn cofnodi’r broblem drwy ddefnyddio’r camera ar y cerbyd neu’r ddyfais recordio.  Bydd angen i chi roi sylw i’r broblem a rhoi’ch cynwysyddion allan ar y dyddiad nesaf.

Os ydych wedi gwneud pob dim a nodir uchod, defnyddiwch y ddolenni isod - ar ôl 4pm.  Cyn hynny, mae’n bosib y bydd cerbydau’n dychwelyd yn hwyr os bu angen eu gwagu neu wedi cael profiad o broblemau mecanyddol.
 

Casgliadau ailgylchu a fethwyd (tuniau, plastig, gwydr, cardfwrdd, papur yn unig)

Caiff deunyddiau ailgylchu eu casglu’n wythnosol; felly, nid ydym yn dod yn ôl i gasglu deunyddiau ailgylchu a fethwyd. Ond, bydd eich adroddiad yn cael ei nodi yn erbyn eich cyfeiriad, er gwybodaeth yn y dyfodol. Os na chafodd eich deunyddiau ailgylchu eu casglu, gallwch naill ai:

Adrodd am gasgliad ailgylchu a fethwyd

Gwastraff Gardd 

Sylwer: Codir tâl am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Os hoffech i ni gasglu eich bin gwastraff gardd am ffi flynyddol, mae gwybodaeth am y gwasanaeth a sut i danysgrifio ar gael ar ein gwefan, ar y tudalen Gwastraff Gardd.

Cyn i chi gofnodi casgliad gwastraff gardd a fethwyd, sicrhewch eich bod wedi talu’r ffi danysgrifio flynyddol ar gyfer eleni.

Mae’r criwiau yn ceisio dychwelyd o fewn 24 awr gwaith yn ddibynnol ar adnoddau sydd ar gael. Sylwch, os bydd eich casgliad arferol ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, bydd y 24 awr gwaith yn dechrau ar y dydd Llun, y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y penwythnos. 

Adrodd am gasgliad gwastraff gardd a fethwyd

Bin du 

Mae’r criwiau yn ceisio dychwelyd o fewn 24 awr gwaith yn ddibynnol ar adnoddau sydd ar gael. Sylwch, os bydd eich casgliad arferol ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, bydd y 24 awr gwaith yn dechrau ar y dydd Llun, y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y penwythnos. 

Adrodd am gasgliad bin du a fethwyd

Gwastraff bwyd

Mae’r criwiau yn ceisio dychwelyd o fewn 24 awr gwaith yn ddibynnol ar adnoddau sydd ar gael. Sylwch, os bydd eich casgliad arferol ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, bydd y 24 awr gwaith yn dechrau ar y dydd Llun, y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y penwythnos. 

Adrodd am gasgliad bin bwyd a fethwyd

Clytiau a Chynnyrch Hylendid Amsugnol

Gallwch adrodd am gasgliadau cynnyrch hylendid amsugnol a fethwyd ar-lein bellach, os ydych wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth a sut i danysgrifio ar ein gwefan, ar y tudalen Casgliad Clytiau a Chynnyrch Hylendid Amsugnol.

Mae’r criwiau yn ceisio dychwelyd o fewn 24 awr gwaith yn ddibynnol ar adnoddau sydd ar gael. 

Adrodd am gasgliad cynnyrch hylendid amsugnol a fethwyd