Alert Section

Caniatâd Cynllunio – cyngor i berchnogion tai


Sylwch na allwn brosesu ceisiadau papur, cyflwynwch trwy'r porth neu'r blychau e-bost isod.

Os oes gennych ymholiad ceisiwch ei gyflwyno trwy e-bost yn uniongyrchol i'r swyddog. Os nad ydych yn adnabod cyfeiriad e-bost y swyddog defnyddiwch y cyfeiriad canlynol:

  • Ar gyfer materion cynllunio e-bost planningadmin@flintshire.gov.uk
  • Ar gyfer rheoliadau adeiladu e-bostiwch bcadmin@flintshire.gov.uk
  • Ar gyfer e-bost datblygu priffyrdd highwaysdc@flintshire.gov.uk 

Gallwch wneud rhai estyniadau bach, newidiadau ac ychwanegiadau i’ch cartref heb ganiatâd cynllunio, gelwir hyn yn ddatblygu a ganiateir. Nid yw’r hawliau hyn yn berthnasol i fflatiau a fflatiau deulawr.  Fydd angen caniatâd cynllunio llawn ar gyfer anheddau newydd bob amser.

Sut allaf ganfod a yw fy nghynnig yn ddatblygu a ganiateir ynteu a oes angen caniatâd ar ei gyfer?

Defnyddiwch offeryn Tŷ Rhyngweithiol y Porth Cynllunio au rhestr lawn o brosiectau cyffredin  

Mae’r canllaw gweledol hwn yn cymryd hawliau datblygu a ganiateir i ystyriaeth ac yn esbonio’r cyfyngiadau amrywiol sy’n berthnasol.  Mae’r adran prosiectau cyffredin ar y Porth Cynllunio hefyd yn cynnwys rhestr o dros 30 o ganllawiau sydd wedi’u teilwra, gan gynnwys: ystafelloedd gwydr, drysau a ffenestri, estyniadau, ffensys, giatiau a waliau gerddi, trosi garejys, adeiladau allanol (siediau, tai gwydr), portshys, erialau lloeren, teledu a radio, paneli solar, gweithio o adref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi arweiniad technegol ac arweiniad i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, Dylai’r arweiniad esbonio sut y bydd rheolau ‘datblygu a ganiateir’, o bosib, yn gymwys i’ch sefyllfa chi.

Technegol ac arweiniad i ddeiliaid tai 

Cyfrifo cyfaint

Defnyddiwch Gyfrifiannell Cyfaint y Porth Cynllunio i’ch helpu i gyfrifo cyfaint eich cynnig.

Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a oes anen caniatâd arnoch?

Bydd Swyddog Cynllunio ar ddyletswydd ar gael yn Tŷ Dewi Sant i roi cyngor ynglŷn â’r angen am ganiatâd cynllunio yn gyffredinol neu, mewn perthynas ag ymholiad penodol, i roi barn ynglŷn â p’un a oes angen cael caniatâd cynllunio neu beidio.  Os hoffech drafod eich cynnig yn fanwl, cysylltwch â ni i wneud apwyntiad. Mae swyddfeydd y Cyngor ar agor o 8.30am hyd 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac rydym yn anelu at sicrhau bod swyddog ar gael rhwng 9am ac 1pm.  Ewch i: Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF. E-bost: rhdcynllunio@siryfflint.gov.uk  Ffôn: 01352 703331.

Os oes arnoch eisiau bod yn sicr nad oes angen caniatâd cynllunio ar eich defnydd neu ddatblygiad arfaethedig gellwch wneud cais am benderfyniad ffurfiol, a elwir yn Dystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon (adran 192).

Beth arall ddylwn i ei ystyried?

P’un a oes angen caniatâd cynllunio i ddeiliaid tai ai peidio, dylech fod yn ymwybodol o:

Gwneud cais am caniatâd cynllunio

Gwneud cais ar-lein, lawrlwytho ffurflenni, cael golwg ar ffioedd a chyngor ar beth i'w gynnwys

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen annibynnol sy’n darparu cyngor a chefnogaeth ar holl agweddau cynllunio defnydd tir yng Nghymru. Ewch i www.cymorthcynlluniocymru.org.uk neu ffoniwch y gwasanaeth llinell gymorth cynllunio ar 02920 625 000 am fwy o wybodaeth.