Cynnig Gofal Plant Wrecsam i Blant 3 to 4 oed (30 awr)
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 i 4 oed ar draws Cymru am 48 awr yr wythnos.

CEISIADAU NAWR AR AGOR AR GYFER EBRILL 2023
Bydd angen i blant sy'n gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant Arian o fis Ebrill 2023 ymlaen - gofrestru ar System Ddigidol newydd Cymru. Gall plant gyda dyddiad geni 01/09/2019 i 16/04/2020 fod yn gymwys i gael yr arian hwn- mae'r cais i'w weld yma:
https://llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch
Bydd proses ymgeisio ar gyfer tymor mis Medi ar agor ar 3 Gorffennaf 2023 – ar gyfer plant a anwyd rhwng 17/04/2020 a 31/08/2020.
Ehangu'r Cynnig Gofal Plant i rieni cymwys mewn addysg neu hyfforddiant
Byddai rhiant mewn addysg neu hyfforddiant sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn gallu cael mynediad i'r Cynnig o'r adeg y mae eu cwrs yn dechrau:
Diffiniad o riant mewn addysg neu hyfforddiant; gall rhiant mewn addysg neu hyfforddiant fod yn rhiant sydd naill ai:
- Wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig Addysg Uwch (AU) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell.
- Wedi cofrestru ar gwrs sy'n 10 wythnos o leiaf ac sy'n cael ei gyflwyno mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB). Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell
Mae’r cais hwn am ORIAU GOFAL PLANT y Cynnig Gofal Plant yn unig - i wneud cais am Oriau Addysg y Cyfle Cynnar (FPN1) gweler y Dudalen Cyllid Cyfle Cynnar. Ar gyfer Derbyniadau Meithrin (FPN2) gweler y Dudalen Derbyniadau Ysgol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at ceisiadaucynniggofalplant@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 030000 628 628