Alert Section

A oes angen asesiad arnaf?

Dysgwch fwy am y meini prawf ar gyfer asesiad gofal cymdeithasol

A oes rhaid i mi gael asesiad?

Os ydych yn cysylltu â ni am gymorth, byddwn yn cynnig asesiad i chi er mwyn deall eich anghenion - ond eich dewis chi yw ei dderbyn neu beidio.

Heb asesiad, fe allai fod yn fwy anodd i ni eich cefnogi chi, ond fe allwch drefnu gofal yn breifat os yw’n well gennych chi wneud hynny.

Dysgwch fwy am y gwasanaethau gofal a chymorth sydd ar gael yn Sir y Fflint.

Mewn rhai achosion, megis pan fo pryderon ynglŷn â chamdriniaeth neu esgeulustod, efallai y bydd yn rhaid i ni gynnal asesiad hyd yn oed os nad ydych yn cytuno. Mae hefyd yn bwysig i chi wybod nad yw derbyn asesiad yn golygu bod rhaid i chi dderbyn unrhyw wasanaethau eraill sy’n cael eu cynnig.

Gallwch wneud cais am asesiad hyd yn oed os yw eich gofalwr di-dâl - megis ffrind neu aelod o’r teulu - yn diwallu eich holl anghenion ar hyn o bryd.

Rydym yn cydnabod efallai bod eich gofalwr angen cefnogaeth i’w helpu yn eu rôl ofalu, felly byddwn yn cynnig asesiad iddyn nhw hefyd. Gyda’ch caniatâd, mae’n bosibl y byddwn yn cynnal asesiad ar y cyd i edrych ar eich anghenion gyda’i gilydd.

I gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl, ewch i’n Canolbwynt i Ofalwyr.

Asesiad Gofal Cymdeithasol

A fyddaf yn cael cefnogaeth?

I gael gwybod a ydych yn gymwys am wasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir y Fflint, yn gyntaf bydd angen i chi gael asesiad gan aelod o’n tîm gwaith cymdeithasol. Mae hyn ein helpu ni i ddeall eich anghenion ac a ydych yn gymwys am gefnogaeth dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fodloni pedwar amod:

  1. Mae’n rhaid i’ch anghenion ddeillio o salwch corfforol neu feddyliol, oedran, anabledd, dibyniaeth ar sylweddau, neu amgylchiadau tebyg.
  2. Mae’n rhaid i’ch anghenion effeithio ar eich gallu i:
    • Ymdopi â thasgau dyddiol fel bwyta, ymolchi, gwisgo, neu gadw eich cartref yn ddiogel.
    • Cyfathrebu’n effeithiol.
    • Aros yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod.
    • Cymryd rhan mewn gwaith, addysg, neu hamdden.
    • Cynnal perthnasoedd neu ofalu am blentyn.
  3. Mae’n rhaid i chi fod yn methu â gwneud y rhain eich hunan - naill ai oherwydd y byddai eu gwneud yn achosi poen sylweddol, trallod, neu risg i’ch iechyd neu ddiogelwch chi (neu rywun arall), neu oherwydd y byddai’n cymryd gormod o amser neu ymdrech.
  4. Ni ddylai bod unrhyw un arall (fel gofalwr neu wasanaeth cymunedol) yn fodlon ac yn gallu diwallu eich anghenion.

Os ydych yn bodloni’r pedwar amod, gallech fod yn gymwys am gefnogaeth. Bydd eich asesydd yn eich arwain drwy’r broses hon ac yn cadarnhau eich cymhwysedd.

Mae’n bwysig cofio bod pob asesiad a chynllun gofal wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch anghenion unigol. Hyd yn oed os yw eich sefyllfa’n ymddangos yn debyg i sefyllfa rhywun arall, fe allai’r gefnogaeth yr ydych yn ei chael fod yn wahanol - oherwydd efallai nad yw beth sy’n gweithio orau i chi am fod yr un fath â beth sy’n gweithio orau i rywun arall.