Alert Section

Beth sy'n digwydd os oes angen asesiad arnaf?

Darganfyddwch beth sy'n digwydd os oes angen asesiad arnoch chi.

Cael Asesiad Gofal Cymdeithasol

Os ydych chi’n credu eich bod angen cefnogaeth, fe allech gael eich asesu am Asesiad Gofal Cymdeithasol. Gall yr amser i gael asesiad amrywio, ond rydym yn anelu i’w cynnal cyn gynted â phosibl. Rydym ni’n eu blaenoriaethu yn ôl anghenion unigolion, felly rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni - yn enwedig os yw’r sefyllfa’n un frys.

Os oes gennych chi bryder ynghylch diogelu, ewch i’n tudalen Diogelu.

Cyn eich asesiad, fe fydd hi’n ddefnyddiol i feddwl am y math o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch: Byddwch yn benodol, er enghraifft:

  • “Rydw i angen cymorth i godi a gwisgo yn y boreau.”
  • “Rydw i angen cymorth i gael cawod yn rheolaidd.”
  • “Mae angen fy atgoffa i gymryd fy meddyginiaeth.”
Asesiad Gofal Cymdeithasol

Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi yn ystod eich asesiad, megis ffrind neu aelod o’r teulu. Os nad oes gennych chi rywun ar gael ond eich bod eisiau cefnogaeth, gallwn eich helpu i ddod o hyd i Eiriolwr.  Mae Eiriolwyr yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Dysgwch fwy ar ein tudalen Eiriolaeth.

Os ydi eich asesiad yn dangos eich bod angen cefnogaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i lunio Cynllun Gofal a Chefnogaeth. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu:

  • Beth yw eich anghenion
  • Pa gymorth y byddwn ni’n ei ddarparu
  • Beth fyddwch chi’n ei wneud i chi’ch hunan
  • Beth fydd pobl eraill (yn cynnwys sefydliadau) yn ei wneud i helpu

Mae’n bwysig cofio bod pob asesiad wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch anghenion unigol. Hyd yn oed os yw eich sefyllfa’n ymddangos yn debyg i sefyllfa rhywun arall, fe allai’r gefnogaeth yr ydych yn ei chael fod yn wahanol - oherwydd efallai nad yw beth sy’n gweithio orau i chi am fod yr un fath â beth sy’n gweithio orau i rywun arall.

Mae’r broses asesu a chynllunio yn rhad ac am ddim. Serch hynny, fe allai fod yna gost am rai o’r gwasanaethau a ddarperir wedyn.  Os cytunir fod angen cefnogaeth, fe fyddwn ni hefyd yn cynnal asesiad ariannol (sydd hefyd yn cael ei alw’n brawf modd), i weld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth â chostau a faint y gallai fod angen i chi ei gyfrannu. 

Dysgwch fwy am ffioedd gofal yn ein Canolbwynt Cyllid.